Text only

Holi Sam...

Sam



Termau ar labeli



Beth yw aspartame a sacarin, ac ydyn nhw’n ddiogel?

Melysyddion a ddefnyddir mewn diodydd meddal a bwydydd eraill sy’n cynnwys llai o galorïau neu siwgr yw aspartame a sacarin. Fel gydag ychwanegion bwyd, mae aspartame a sacarin wedi derbyn asesiadau diogelwch trylwyr cyn eu cymeradwyo a dim ond mewn ystod gyfyngedig o gynhyrchion y caniateir eu defnyddio.

Caiff y defnydd o ychwanegion ei fonitro’n ofalus, a chynhelir arolygon yn rheolaidd i sicrhau nad yw pobl yn bwyta mwy na’r Cymeriant Dyddiol Derbyniol (ADI), sef cyfanswm yr ychwanegion y gall unigolyn eu bwyta neu eu hyfed y diwrnod am oes heb wneud niwed i’w iechyd.

Mae Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 (fel y’i diwygiwyd) yn rheoli’r defnydd o felysyddion ym Mhrydain. Mae’r rheoliadau hyn yn amlinellu’r lefelau uchaf a ganiateir mewn categorïau bwyd penodol ac yn ystyried yr ADI ar gyfer pob melysydd. Ar ôl i ychwanegyn gael ei gymeradwyo, adolygir ei ddiogelwch yn rheolaidd.

Gydag aspartame, mae’r ADI yn 0-40 miligram (mg) y cilogram (kg) o bwysau’r corff. Mae hyn yn golygu 2.8 gram (g) ar gyfer oedolyn Prydeinig. Gyda sacarin, mae’r ADI yn 0-5 mg y kg o bwysau’r corff, sef 0.35g ar gyfer oedolyn Prydeinig.

Cyhoeddwyd llawer o bapurau gwyddonol ynglŷn ag aspartame dros y blynyddoedd diwethaf. Cynhaliodd y Pwyllgor Gwyddonol ar Fwyd (SCF), grŵp annibynnol sy’n cynghori ar awdurdodi ychwanegion bwyd, adolygiad ar aspartame ym 1988. Rhwng 1988 a 2000, cyhoeddwyd dros 500 o bapurau ar aspartame. Roedd sawl un o’r papurau hyn yn astudiaethau newydd a oedd yn mynd i’r afael â chwestiynau diogelwch yn uniongyrchol. Mae rhai o’r astudiaethau hyn yn cefnogi diogelwch aspartame, ond mae eraill yn nodi effeithiau niweidiol posibl ar iechyd.

Felly, ym mis Ebrill 2001, gofynnodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd i’r Pwyllgor Gwyddonol ar Fwyd adolygu aspartame eto. Cyhoeddodd yr SCF ei farn ddiweddaraf ar ddiogelwch aspartame ym mis Rhagfyr 2002. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oedd yna dystiolaeth i awgrymu bod angen diwygio canlyniad ei asesiad risg blaenorol a oedd yn nodi bod y melysydd yn ddiogel i’w ddefnyddio, na newid yr ADI a sefydlwyd eisoes ar gyfer aspartame.

Gofynnodd y Comisiwn Ewropeaidd i Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA), a gymerodd rôl yr SCF o ran cynghori’r Comisiwn, adolygu ymchwil bellach a oedd yn honni y gall llygod mawr a oedd yn cael aspartame mewn dognau tebyg i’r ADI ddatblygu tyfiannau. Gwnaed y gwaith ymchwil hwn gan y Ramazzini Institute yn Bologna.

Adolygodd yr EFSA yr ymchwil ac, ym mis Mai 2006, ar sail yr holl dystiolaeth oedd ar gael ar y pryd, daeth i’r casgliad nad oedd angen adolygu diogelwch aspartame ymhellach na newid yr ADI.


Beth mae 'llysieuol' (vegetarian) neu 'addas i lysieuwyr' (suitable for vegetarians) yn ei olygu?

Nid oes yna ddiffiniad cyfreithiol pendant o’r gair 'llysieuol' yn y DU nac yn Ewrop. Mae hyn yn golygu nad oes un set o reolau ar pryd y gellir galw bwyd yn llysieuol. Felly gallai’r hyn mae bwyd 'llysieuol' yn ei gynnwys amrywio o gynnyrch i gynnyrch.

Os yw bwyd wedi’i labelu’n llysieuol, mae hyn yn golygu nad yw’r bwyd yn cynnwys unrhyw gig neu ychwanegion sy’n deillio o anifeiliaid, fel gelatin (cyfrwng gelio sy’n deillio o ewynnau, croen, tendonau ac esgyrn anifeiliaid ac ati). Gyda chaws, mae’n golygu nad yw ceuled sy’n deillio o anifeiliaid wedi’i ddefnyddio i wneud y caws.

Mae rhai llysieuwyr yn fwy caeth nag eraill ynglŷn â pha fwydydd maen nhw’n eu hosgoi. Cofiwch, os ydych chi am osgoi cynhwysyn penodol, gallwch ddarllen y rhestr gynhwysion ar label y bwyd.

Nid yw hi’n ofynnol i gynhyrchwyr labelu bod bwyd yn 'addas i lysieuwyr' gan fod hwn yn arfer gwirfoddol. Mae hyn yn golygu bod llawer o fwydydd heb y logo 'addas i lysieuwyr' nad ydyn nhw’n cynnwys cig nac ychwanegion sy’n deillio o anifeiliaid.

Gall bwydydd a gymeradwyir gan y Gymdeithas Llysieuwyr ddangos symbol eginblanhigyn y Gymdeithas. Er mwyn cael eu cymeradwyo, mae’n rhaid i’r bwydydd hynny fodloni nifer o amodau, yn ogystal â pheidio â chynnwys cig ac ychwanegion sy’n deillio o anifeiliaid. Er enghraifft, bydd bwydydd sy’n cynnwys wyau ond yn cael eu cymeradwyo os ydyn nhw wedi defnyddio wyau buarth.

Er nad oes un set o reolau ar pryd y gellir galw bwyd yn llysieuol, mae rheolau labelu cyffredinol yn gwahardd cynhyrchwyr a manwerthwyr rhag disgrifio bwyd mewn ffordd gamarweiniol.


Beth mae 'defnyddio erbyn', 'ar ei orau cyn' ac 'arddangos tan' yn ei olygu?

Mae 'defnyddio erbyn' yn gymharol syml! Ni ddylech chi ddefnyddio unrhyw fwyd neu ddiod ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ a ddangosir ar y label. Hyd yn oed os yw’n edrych ac yn arogli’n iawn, gallai ei ddefnyddio ar ôl y dyddiad hwn beryglu’ch iechyd ac achosi gwenwyn bwyd.

Fel rheol, byddwch chi’n gweld dyddiad ‘defnyddio erbyn’ ar fwyd sy’n difetha’n gyflym, fel llaeth, caws meddal, salad wedi’i baratoi ymlaen llaw a physgod mwg.

Mae hi hefyd yn bwysig dilyn unrhyw gyfarwyddiadau storio ar labeli bwyd er mwyn sicrhau bod y bwyd yn para tan y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Fel rheol, bydd angen cadw bwyd â dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yn yr oergell.

Fel rheol, defnyddir dyddiadau 'ar ei orau cyn' ar fwydydd sy’n para’n hirach, fel bwydydd wedi’u rhewi, bwydydd sych neu fwydydd mewn tun. Dylai fod yn ddiogel i chi fwyta bwyd ar ôl y dyddiad ‘ar ei orau cyn’, ond ni fydd ar ei orau rhagor. Ar ôl y dyddiad hwn, hwyrach y bydd y bwyd yn dechrau colli ei flas a’i ansawdd.

Fodd bynnag, ni ddylech fwyta wyau ar ôl y dyddiad ‘ar ei orau cyn’. Mae hyn oherwydd y gall wyau gynnwys bacteria salmonela, a allai ddechrau lluosogi ar ôl y dyddiad hwn.

Mae rhai labeli bwyd yn rhoi cyfarwyddiadau fel ‘bwytewch o fewn wythnos i’w agor' (eat within a week of opening), ac mae’n bwysig dilyn y cyfarwyddiadau hyn. Ond cofiwch, os mai fory yw’r dyddiad 'defnyddio erbyn', bydd rhaid i chi fwyta’r bwyd cyn diwedd fory, hyd yn oed os yw’r label yn dweud 'bwytewch o fewn wythnos i’w agor' ac mai dim ond heddiw yr agorwyd y bwyd.

Cyfarwyddiadau yw dyddiadau ‘arddangos tan' a 'gwerthu erbyn' i helpu staff i wybod pryd mae angen iddyn nhw gymryd cynhyrchion oddi ar y silffoedd.


Holi cwestiwn i Sam

Os nad wyt ti'n gallu dod o hyd i'r ateb i dy gwestiwn di, anfona gwestiwn newydd drwy glicio ac y ddolen isod.

 

Nid oes modd i ni ateb pob cwestiwn, ond rydym yn cyhoeddi atebion ar amrywiaeth o bynciau yn rheolaidd.