Holi Sam...![]() Rheolau labelu![]() ![]() Mi brynes i frechdan ond, ond ar ôl cyrraedd adref, sylweddolais fod y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ wedi pasio ers dau ddiwrnod. Beth ddylwn i ei wneud?Peidiwch â bwyta’r frechdan. Ni ddylech chi fwyta unrhyw fwyd sydd wedi pasio’i ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ oherwydd efallai na fydd yn ddiogel i’w fwyta. Yn wir, mae’n anghyfreithlon i siopau werthu bwyd sydd wedi pasio’i ddyddiad ‘defnyddio erbyn’.Gallech fynd â’r frechdan yn ôl i’r siop a gofyn am rywbeth yn ei le neu ofyn am eich arian yn ôl. Neu gallech chi gysylltu â gwasanaeth iechyd yr amgylchedd neu adran safonau masnach eich awdurdod lleol. Mae ganddyn nhw gyfrifoldeb i ymchwilio os ydyn nhw’n credu bod siop yn torri’r gyfraith ac i gymryd camau priodol. Os byddwch chi’n penderfynu cysylltu â’ch awdurdod lleol, hwyrach y bydd angen i chi wneud datganiad a darparu’r bwyd a’r pecyn fel tystiolaeth. Ond cofiwch fod dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ yn wahanol i ddyddiadau eraill sydd i’w gweld ar rai bwydydd. Nid yw hi’n anghyfreithlon i siopau werthu bwyd sydd wedi pasio’i ddyddiad ‘ar ei orau cyn’, ‘gwerthu erbyn’ neu ‘arddangos tan’ (display until). Os yw bwyd yn cynnwys brasterau trans, a oes rhaid eu crybwyll yn y cynhwysion a’r wybodaeth faethol ar y label?Nid oes rhaid cynnwys brasterau trans (a elwir hefyd yn asidau brasterau trans) yn y wybodaeth faethol a ddarperir ar label bwyd oni bai fod honiad penodol wedi’i wneud am frasterau trans, fel ‘isel mewn brasterau trans’ (‘low in trans fats’). Hefyd, nid oes angen eu rhestru yn y cynhwysion.Fodd bynnag, gall brasterau trans gael eu ffurfio yn ystod y broses o hydrogenu, sy’n golygu bod rhai bwydydd sy’n cynnwys olew llysiau hydrogenaidd hefyd yn cynnwys brasterau trans. Mae’n rhaid datgan olew llysiau hydrogenaidd yn y rhestr gynhwysion. Mae hyn yn golygu y gall brasterau trans hefyd fod yn y cynnyrch os yw’r rhestr gynhwysion yn cynnwys olew llysiau hydrogenaidd. Mae brasterau trans yn cyfrif fel rhan o gyfanswm y braster yn y wybodaeth faethol ar y label. Dydy nhw ddim yn cael eu dosbarthu fel braster dirlawn, mono-annirlawn neu amlannirlawn, felly ni fyddan nhw’n cael eu cynnwys yn y ffigurau ar gyfer y rhain. Mae brasterau trans yn cael effaith debyg i frasterau dirlawn ar golesterol yn y gwaed. Maen nhw’n codi’r math o golesterol yn y gwaed sy’n cynyddu’r risg o glefyd coronaidd y galon. Mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu y gall effeithiau’r brasterau hyn fod yn waeth na brasterau dirlawn. Mae’n bwysig ceisio bwyta llai o fraster dirlawn a brasterau trans. Mae bwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster dirlawn yn cynnwys cig, selsig, pasteiod cig, caws caled, menyn, cacennau, toesennau, bisgedi a bwyd sy’n cynnwys olew cnau coco neu olew palmwydd. Yn gyffredinol, mae pobl yn bwyta llawer mwy o fraster dirlawn na brasterau trans. Oes gan siop hawl i werthu bwyd sydd wedi pasio’i ddyddiad ‘gwerthu erbyn’?Mae rhai siopau’n defnyddio dyddiadau ‘gwerthu erbyn’, fel dyddiadau ‘arddangos tan’, i helpu staff i wybod pryd mae angen iddyn nhw gymryd cynhyrchion oddi ar y silffoedd. Y cynhyrchwr neu’r siop sy’n penderfynu a yw’n rhoi dyddiad ‘gwerthu erbyn’ neu ‘arddangos tan’ ar fwydydd. Ond mae’n rhaid i bob cynnyrch ddangos dyddiad ‘defnyddio erbyn’ neu ‘ar ei orau cyn’ hefyd.Gan mai canllaw i staff y siop yw’r dyddiad ‘gwerthu erbyn’, nid yw’n anghyfreithlon i werthu bwyd ar ôl y dyddiad hwnnw. Fodd bynnag, ni ddylai siopau werthu bwyd sydd wedi pasio’i ddyddiad ‘defnyddio erbyn’. Ni ddylech chi fwyta bwyd sydd wedi pasio’i ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ oherwydd efallai na fydd yn ddiogel i’w fwyta. Defnyddir dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ar fwydydd sy’n difetha’n gyflym, fel llaeth, caws meddal, prydau parod a physgod mwg. Byddwch chi’n gweld dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ ar fwydydd sy’n para’n hirach, fel bwydydd wedi’u rhewi, bwydydd sych neu fwydydd mewn tun. Mae gan siopau hawl i werthu bwyd ar ôl ei ddyddiad ‘ar ei orau cyn’ (heblaw wyau) ac mae’n debygol y byddan nhw’n ddiogel i’w bwyta. Ond os byddwch chi’n prynu bwyd ar ôl ei ddyddiad ‘ar ei orau cyn’, cofiwch efallai na fydd cystal ag y byddai wedi bod cyn y dyddiad hwnnw. Hwyrach y bydd wedi dechrau colli ei flas neu ei ansawdd. Ni ddylech fwyta wyau ar ôl y dyddiad ‘ar ei orau cyn’. Mae hyn oherwydd y gall wyau gynnwys bacteria salmonela, a allai ddechrau lluosogi ar ôl y dyddiad hwn. Oes rhaid i bacedi bach unigol nodi cynhwysion a dyddiadau ‘ar ei orau cyn’?Mae’r wybodaeth y dylid ei nodi ar bacedi bach unigol yn dibynnu ar faint y paced. Dim ond enw’r bwyd sydd angen ei roi ar bacedi bach o halen, siwgr a finegr. Dylai pacedi bach o fwydydd eraill, gan gynnwys siocled poeth, nodi dyddiad ‘ar ei orau cyn’ neu ‘defnyddio erbyn’, ynghyd ag enw’r bwyd.Os yw arwyneb mwyaf paced yn fwy na 10 centimetr sgwâr, dylai nodi’r wybodaeth ganlynol:
Oes angen i mi labelu cacennau a jam a werthir i godi arian ar gyfer elusen?Os wyt ti’n gwerthu bwyd i godi arian ar gyfer elusen, hwyrach y bydd yn rhaid i ti ddilyn canllawiau labelu bwyd. Ni ellir bod yn sicr a fydd y rheoliadau’n berthnasol i ti gan y bydd hyn yn dibynnu ar sut y gwerthir y bwyd a’r sefydliad neu’r elusen sy’n ei werthu.Yn gyffredinol, nid yw Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 yn berthnasol i fwyd nad yw wedi’i baratoi fel rhan o fusnes. Mae hyn yn golygu na fydd angen labelu’r rhan fwyaf o fwydydd a werthir i godi arian ar gyfer elusen, gan gynnwys bwyd a werthir mewn digwyddiadau unigol fel ffeiriau eglwys ac ysgol. Ond os wyt ti’n gwerthu bwyd wedi’i becynnu i godi arian ar gyfer elusen yn rheolaidd (er enghraifft, jariau o jam neu gacennau mewn bocs), hwyrach y bydd yn rhaid i ti ddilyn y rheoliadau. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os nad wyt ti’n gwneud elw. Nid oes angen labelu bwydydd a werthir yn rhydd. Felly, os wyt ti’n gwerthu cacennau a byns heb eu pecynnu, nid oes angen i ti eu labelu, hyd yn oed os wyt ti’n eu gwerthu’n rheolaidd. Fodd bynnag, pe bai unrhyw rai o’r cynhwysion wedi’u harbelydru neu eu haddasu’n enetig, byddai angen i ti nodi hynny. I gael rhagor o wybodaeth am ba reoliadau sy’n berthnasol i’th sefyllfa di, cysyllta ag adran safonau masnach dy awdurdod lleol. Hwyrach y bydd angen i ti ddilyn rheoliadau hylendid bwyd hefyd – gofynna i adran iechyd yr amgylchedd dy awdurdod lleol am ragor o wybodaeth. Os nad yw hi’n ofynnol i ti labelu bwyd, gallet wneud hynny’n wirfoddol, gan roi enw’r cynnyrch, rhestr o gynhwysion (yn nhrefn ddisgynnol pwysau) a manylion unrhyw gynhwysion a allai achosi alergedd, fel cnau. Os wyt ti’n labelu bwyd, mae’n rhaid i ti wneud yn siŵr bod yr wybodaeth yr wyt yn ei darparu yn gywir. Os yw pysgodyn wedi cael ei ffermio, oes rhaid dweud hynny ar y label?Mae’n rhaid i’r label ar bysgodyn wedi’i becynnu ymlaen llaw ddangos sut y cafodd ei gynhyrchu, er enghraifft, 'wedi’i ffermio' (farmed), 'wedi’i amaethu' (cultivated) , 'wedi’i ddal' (caught), neu 'wedi’i ddal mewn dŵr ffres' (caught in fresh water). Dylai’r label hefyd nodi:
Pan fo pysgodyn yn cael ei werthu’n rhydd ar gownter pysgod, mae’r un rheolau’n berthnasol. Ar y cyfan, dangosir y wybodaeth ar arwydd yn ymyl y pysgodyn. A yw’n gyfreithlon gwerthu cynnyrch sydd wedi pasio’i ddyddiad ‘ar ei orau cyn’?Mae gan siopau hawl i werthu bwyd sydd wedi pasio’i ddyddiad ‘ar ei orau cyn’. Ansawdd, yn hytrach na diogelwch, sy’n bwysig i ddyddiadau 'ar ei orau cyn', felly nid yw’r ffaith bod y bwyd wedi pasio’i ddyddiad ‘ar ei orau cyn’ yn golygu ei fod yn beryglus. Fodd bynnag, os ydych chi’n prynu bwyd ar ôl y dyddiad hwn, cofiwch efallai na fydd ar ei orau rhagor.Mae dyddiadau 'defnyddio erbyn' yn wahanol i ddyddiadau ‘ar ei orau cyn’, ac mae’n anghyfreithlon gwerthu unrhyw fwyd sydd wedi pasio’i ddyddiad ‘defnyddio erbyn’. Gallai bwyta bwyd ar ôl y dyddiad hwn beryglu’ch iechyd. Ym mhob achos, waeth a yw’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ wedi pasio ai peidio, mae’r gyfraith yn dweud na ddylai bwyd a werthir beryglu iechyd pobl na chael ei ddisgrifio neu ei gyflwyno mewn ffordd ffug neu gamarweiniol. Beth yw’r rheolau o ran labelu bwydydd sy’n cynnwys cynhwysion GM?Dylai bwyd sy’n cynnwys cynhwysion wedi’u haddasu’n enetig (GM) nodi hynny ar y label. Fodd bynnag, nid yw hi’n ofynnol labelu:
Holi cwestiwn i SamOs nad wyt ti'n gallu dod o hyd i'r ateb i dy gwestiwn di, anfona gwestiwn newydd drwy glicio ac y ddolen isod. Nid oes modd i ni ateb pob cwestiwn, ond rydym yn cyhoeddi atebion ar amrywiaeth o bynciau yn rheolaidd.
|
|||||
|
|