Text only

Holi Sam...

Sam



Beichiogrwydd



Ydi o’n iawn i fwyta caws gafr pan rwy’n feichiog?

Ceir gwahanol fathau o gawsiau gafr. Mae’n debyg mai’r math mwyaf cyffredin yn y DU yw hwnnw a chanddo grystyn gwyn tebyg i Brie a Camembert. Gelwir y math hwn o gaws gafr weithiau’n Chevre ac fe’i ceir yn aml mewn bwytai, mewn salad caws gafr er enghraifft. Dylech osgoi hwn tra rydych yn feichiog. Fodd bynnag, fe ddylai mathau eraill o gaws gafr nad oes ganddynt y math hwn o grystyn fod yn iawn i’w bwyta, yn enwedig cawsiau caled.


A allaf gymryd mwy o asid ffolig nag sy’n cael ei argymell pan rwy'n feichiog?

Pan ydych yn feichiog, dylech gymryd 400 microgram (mcg) o atchwanegiad asid ffolig bob dydd hyd at 12fed wythnos eich beichiogrwydd. Dangoswyd fod asid ffolig yn lleihau’r risg o ddiffygion y tiwb niwral fel spina bifida. Cynghorir merched i ddechrau cymryd y atchwanegion hyn o’r amser y maent yn rhoi’r gorau i ddefnyddio dulliau atal cenhedlu oherwydd fod asid ffolig yn arbennig o bwysig yn ystod beichiogrwydd cynnar.

Dylid gwneud hyn yn ogystal â bwyta bwydydd sy’n cynnwys asid ffolig yn ei ffurf naturiol, sef ffolad, fel llysiau gwyrdd a reis brown, bara a grawnfwydydd brecwast wedi’u hatgyfnerthu.

Byddai bron yn amhosib cael yr holl asid ffolig a argymhellir o fwyd, a dyna pam y cynghorwn ferched beichiog i gymryd atchwanegion asid ffolig. Dylai pobl eraill allu cael yr holl asid ffolig (neu ffolad) sydd ei angen arnynt trwy ddeiet iach a chytbwys.

Os hoffech gymryd eich asid ffolig mewn atchwanegiad sy’n cynnwys fitaminau eraill, gofalwch nad yw’n cynnwys fitamin A neu olew iau pysgod.

Fe gafodd diogelwch asid ffolig ei werthuso gan y Grŵp Arbenigol Annibynnol ar Fitaminau a Mineralau (EVM). Daeth yr EVM i’r casgliad nad yw cymryd hyd at 1mg (1,000mcg) o atchwanegion asid ffolig y dydd yn debygol o wneud unrhyw niwed i bobl.

O ran merched sydd mewn risg uchel o gael babi wedi’i effeithio gan ddiffyg y tiwb niwral, gall eu meddyg eu cynghori i gymryd mwy na 1mg y dydd o asid ffolig ac, os felly, yna dylent ddilyn cyngor eu meddyg.


Ydi o’n iawn i fwyta swshi pan rwy’n feichiog?

Mae’n iawn i fwyta swshi tra rydych yn feichiog os ydi unrhyw bysgod amrwd a ddefnyddiwyd i’w wneud wedi cael eu rhewi gyntaf. Y rheswm am hyn yw fod pysgod weithiau’n cynnwys llyngyr bach, all eich gwneud yn sâl os ydynt yn dal yn fyw pan ydych yn bwyta’r pysgod. Mae rhewi yn eu lladd ac yn gwneud pysgod amrwd yn ddiogel i’w bwyta.

Mae llawer o’r swshi a werthir mewn siopau yn cael ei brynu i mewn wedi’i baratoi yn barod, nid yw’n cael ei wneud yn y siop. Dylai’r math hwn o swshi fod yn iawn i’w fwyta, oherwydd os ydi siop neu fwyty yn prynu i mewn swshi sydd wedi’i wneud yn barod, byddai’r pysgod amrwd a ddefnyddiwyd i’w wneud wedi gorfod cael eu rhewi ar finws 20°C am o leiaf 24 awr.

Ond os yw siop neu fwyty yn gwneud ei swshi ei hun ar y safle, hwyrach na chafodd y pysgod eu rhewi. Os ydych yn pryderu am hyn, holwch y staff.

Os ydych yn gwneud eich swshi eich hun gartref, rhaid rhewi’r pysgod am o leiaf 24 awr cyn eu defnyddio.


Rwyf wedi clywed y dylai merched sy’n feichiog ac yn bwydo ar y fron osgoi rhai mathau o bysgod. Pam?

Gallwch fwyta’r rhan fwyaf o fathau o bysgod pan ydych yn feichiog neu’n bwydo ar y fron. Mae bwyta pysgod yn dda i’ch iechyd ac i ddatblygiad eich babi. Ond dylech osgoi rhai mathau o bysgod a chyfyngu ar faint yr ydych yn ei fwyta o rai mathau eraill.

Pan ydych yn feichiog neu’n cynllunio beichiogrwydd, ni ddylech fwyta siarc, cleddbysgod neu farlyn. Dylech hefyd gyfyngu ar faint o diwna yr ydych yn ei fwyta i ddim mwy na dwy stêc o diwna yr wythnos (sy’n pwyso tua 140g wedi’u coginio, neu 170g yn amrwd) neu bedwar tun maint canolig o diwna yr wythnos (gyda’r tun yn pwyso tua 140g ar ôl ei ddraenio).

Y rheswm am hyn yw fod pysgod o’r fath yn cynnwys mwy o fercwri na mathau eraill o bysgod. Nid yw faint o fercwri a gawn o fwyd yn niweidiol i’r mwyafrif o bobl, ond os cymrwch i mewn lefelau uchel o fercwri pan ydych yn feichiog, gall hyn effeithio datblygiad system nerfol eich babi. Pan ydych yn bwydo ar y fron, nid oes raid i chi osgoi siarc, cleddbysgod neu farlyn, na chyfyngu ar faint o diwna tun yr ydych yn ei fwyta.

Yn gyffredinol, pan ydych yn feichiog, dylech osgoi cael mwy na dau ddogn o bysgod seimllyd yr wythnos, fel samwn, brithyll, macrell a phennog, oherwydd y gallant gynnwys llygrwyr fel deuocsinau a biffenyliaid polyclorinedig (PCBs).

Cofiwch fod tiwna ffres yn bysgodyn seimllyd, felly os bwytewch ddwy stêc o diwna ffres mewn un wythnos, ni ddylech fwyta unrhyw bysgod seimllyd eraill yr wythnos honno. Nid yw tiwna mewn tun yn cyfrif fel pysgodyn seimllyd, felly gallwch fwyta hwn yn ogystal â’r uchafswm o ddau ddogn o bysgod seimllyd (os nad yw’n diwna ffres neu’n gleddbysgod). Ond cofiwch beidio â bwyta mwy na phedwar tun canolig eu maint o diwna tun yr wythnos pan ydych yn feichiog neu’n ceisio beichiogi.

Nid oes angen cyfyngu ar faint o bysgod gwyn yr ydych yn eu bwyta pan ydych yn feichiog neu’n bwydo ar y fron, ar wahân i siarc a marlyn.


Beth yw ffytoestrogenau?

Cyfansoddion ydi Ffytoestrogenau a geir yn naturiol mewn rhai planhigion, gan gynnwys soia. Gallent ddynwared neu atal gweithrediad yr hormon dynol estrogen, ond cânt effaith llawer gwannach ar y corff nag estrogen.

Nid oes angen i ferched beichiog osgoi cynhyrchion soia os cânt eu bwyta fel rhan o ddeiet iach a chytbwys. Codwyd pryderon gan rai bobl y gall merched beichiog sy’n bwyta soia effeithio ffrwythlondeb eu babanod yn y dyfodol.
Fodd bynnag, mae’r pryderon hyn yn seiliedig ar astudiaethau o lygod mawr a llygod bach, ac mae’n anodd asesu’r hyn y mae’r canlyniadau yn eu golygu i fodau dynol. Yn yr astudiaethau hyn, rhoddwyd lefelau llawer uwch o ffytoestrogenau i’r anifeiliaid nag a geir mewn deiet dynol arferol sy’n cynnwys rhai cynhyrchion soia. Ni chafwyd unrhyw adroddiadau o broblemau mewn gwledydd fel Japan a Thsieina, lle mae’r deiet traddodiadol yn cynnwys soia.


A yw hi'n iawn bwyta bwydydd sbeislyd tra mod i’n feichiog?

Mae’n iawn i ti fwyta bwydydd sbeislyd tra rwyt ti'n feichiog, cyn belled â dy fod yn teimlo’n iawn wrth eu bwyta.

Tra byddi di'n feichiog, mae hi'n bwysig dy fod yn bwyta deiet iach a chytbwys, i sicrhau dy fod yn cael digon o egni a maethynnau er mwyn i dy fabi dyfu a datblygu, ac er mwyn i dy gorff ymdopi â’r newidiadau sy’n digwydd iddo.

Ceisia fwyta digon o fwydydd sy’n cynnwys haearn i sicrhau dy fod yn cael digon ohono. Ymhlith y bwydydd sy'n ffynonellau da o haearn y mae cig coch, codlysiau, bara, llysiau gwyrdd a grawnfwydydd brecwast cyfnerthedig. Ceisia gael bwyd neu ddiod sy’n cynnwys fitamin C, fel gwydr o sudd ffrwythau, wrth fwyta pryd sy’n llawn haearn, gan fod hyn yn helpu dy gorff i amsugno’r haearn.

Er bod iau/afu yn cynnwys llawer o haearn, dylet osgoi ei fwyta tra rwyt ti'n feichiog gan ei fod yn cynnwys lefelau uchel o fitamin A, a allai niweidio dy fabi os wyt ti'n cael gormod ohono.

Dylet hefyd gymryd 400 microgram (mcg) o atchwanegiadau asid ffolig bob dydd tan o leiaf deuddegfed wythnos dy feichiogrwydd. A cheisia gynnwys bwydydd sy’n cynnwys asid ffolig yn dy ddeiet, fel llysiau gwyrdd a reis brown, bara a grawnfwydydd brecwast cyfnerthedig. Mae tystiolaeth yn dangos bod asid ffolig yn lleihau’r risg o ddiffygion y tiwb niwral, fel spina bifida, mewn babanod cyn eu geni.

Tra rwyt ti'n feichiog, dylet osgoi bwyta’r bwydydd a ganlyn:

  • caws meddal wedi’i aeddfedu gan lwydni, fel Camembert, Brie neu chevre (math o gaws gafr), neu gaws sydd â chroen (rind) tebyg, a chaws glas meddal.
  • unrhyw fath o bâtè
  • unrhyw fwyd sydd heb ei goginio’n iawn, yn enwedig cig sydd wedi'i goginio'n rhannol a wyau amrwd neu rai wedi'u coginio'n rhannol (gofala bob amser fod bwyd yn chwilboeth drwyddo cyn i ti ei fwyta)
  • siarc, cleddbysgodyn neu farlyn


A allaf fwyta caws Brie a chaws glas pan yn feichiog os ydyw wedi’i goginio?

Cynghorir merched beichiog i beidio â bwyta’r mathau hyn o gaws oherwydd y risg o listeria. Fodd bynnag, dylai coginio trylwyr ladd unrhyw listeria, felly dylai fod yn ddiogel bwyta bwyd sy'n cynnwys y rhain a mathau eraill o gaws megis Camembert neu chevre (sef math o gaws gafr), sydd â chroen tebyg, cyhyd â'i fod wedi'i goginio'n iawn a'i fod yn chwilboeth drwyddo.


A ddylwn i osgoi bwyta pysgod cregyn tra’n feichiog?

Dylech osgoi wystrys a physgod cregyn eraill tra rydych yn feichiog, onid ydynt yn rhan o bryd poeth ac wedi cael eu coginio’n drylwyr. Mae hyn oherwydd, pan yn amrwd, gall y mathau hyn o fwyd môr fod wedi’u heintio â bacteria a feirysau niweidiol. Mae’r rhain yn cael eu lladd fel arfer trwy eu coginio’n iawn.

Mae’n anarferol i bysgod cregyn gynnwys listeria, sef math o facteria sy’n rhoi gwenwyn bwyd all niweidio babanod cyn eu geni. Gall salmonela a campylobacter (y salwch mwyaf cyffredin a geir trwy fwyta bwyd) eich gwneud yn sâl, ond mae’n annhebygol y cânt unrhyw effeithiau uniongyrchol ar eich babi.

Os ydych yn pryderu am fwyta pysgod cregyn, gallwch ddewis i’w hosgoi tra rydych yn feichiog.


Ydi mayonnaise a brynir o siop yn ddiogel i ferched beichiog ei fwyta?

Yn gyffredinol, mae mayaonnaise a brynir o siop wedi’i wneud o wy pasteuredig ac felly dylai fod yn ddiogel i ferched beichiog ei fwyta, ond gofalwch eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer ei storio a geir ar y jar.

Cynghorir merched beichiog i osgoi mayonnaise cartref oherwydd y gall gynnwys wy amrwd sydd heb ei basteureiddio ac felly mae posibilrwydd o risg o salmonela. Weithiau, fe welwch fayonnaise ffres mewn siopau. Fe’i cedwir yn yr adran oer a bydd dyddiad ‘Use by’ arno. Oni allwch gadarnhau nad yw’n cynnwys wy amrwd, byddai’n well osgoi bwyta hwn yn ystod beichiogrwydd.


Pan yn feichiog, pam na fedrwch fwyta cawsiau sy’n rhedeg?

Er mwyn osgoi’r risg o listeriosis, cynghorir merched beichiog i osgoi bwyta cawsiau meddal sydd wedi’u haeddfedu fel Brie, Camembert a chaws glas, p’un a ydynt wedi’u pasteureiddio neu heb eu pasteureiddio.

Y rheswm am hyn yw fod cawsiau wedi’u haeddfedu yn llai asidig ac yn cynnwys mwy o wlybaniaeth na chawsiau caled, ac felly maent yn fwy tueddol o ganiatáu twf bacteria annymunol fel listeria, all niweidio eich babi cyn ei eni.

Gallwch fwynhau cawsiau caled fel Cheddar a Cheshire. Gellir bwyta caws colfran, caws wedi’i brosesu a phâst caws yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd.


Beth yw’r gwahaniaeth rhwng atchwanegiadau olew pysgod ac atchwanegiadau olew iau/afu pysgod? A gaf i eu cymryd yn ystod beichiogrwydd?

Mae dau brif fath o atchwanegiadau olew pysgod ar gael - y rhai sy’n cael eu gwneud o iau’r pysgodyn a’r rhai sy’n cael eu gwneud o gorff y pysgodyn. Dylid osgoi olewau iau pysgod, megis olew iau penfras pan wyt ti’n feichiog neu’n ceisio beichiogi. Rydym yn dweud hyn gan fod olew iau pysgod yn cynnwys llawer o fitamin A, fel y mae iau a chynhyrchion iau megis pâtè iau. Os wyt ti’n cael gormod o fitamin A, gallai lefelau gronni yn dy gorff a gall hyn niweidio babanod heb eu geni. Nid yw atchwanegiadau olew pysgod sydd wedi’u gwneud o gorff y pysgodyn yn cynnwys lefelau uchel o fitamin A. Fodd bynnag mae’n well bwyta pysgod na chymryd atchwanegiadau olew pysgod, gan fod pysgod yn ffynhonnell wych o faethynnau eraill sy’n dda i dy iechyd ac i ddatblygiad dy fabi yn ogystal ag asidau brasterog omega 3 cadwyn hir.

Os wyt ti’n poeni am darddiad olew pysgod mewn atchwanegiad, cofia gysylltu â’r gwneuthurwr.

Mae pobl fel arfer yn cymryd atchwanegiadau olew pysgod i fanteisio ar yr asidau brasterog omega 3 cadwyn hir sydd ynddynt. Gall yr asidau brasterog hyn helpu i amddiffyn rhag clefyd y galon. Mae rhai pobl yn credu y gall cymryd asidau brasterog omega 3 ychwanegol yn ystod beichiogrwydd gynorthwyo datblygiad gwybyddol babanod heb eu geni. Ond, ar hyn o bryd, nid oes digon o dystiolaeth ar gael i ddod i unrhyw gasgliad pendant.

Gall gwybod pa atchwanegiadau bwyd i’w cymryd yn ystod beichiogrwydd a’r rhai y dylet eu hosgoi fod yn ddryslyd. Tra dylet gael y rhan fwyaf o’r maethynnau sydd eu hangen arnat o fwyta deiet iach a chytbwys, caiff rhai atchwanegiadau fitamin neu fwynau eu hargymell yn ystod beichiogrwydd. Mae’r rhain yn cynnwys asid ffolig (400 microgram y dydd), o’r adeg yr wyt ti’n beichiogi tan wythnos 12 y beichiogrwydd, a fitamin D (10 microgram y dydd).


Rwyf wedi darllen am fanteision bwyta pysgod olewog ac yn poeni ‘mod i ddim yn cael digon. Fel arfer rwy’n mwynhau pysgod, ond nawr mod i’n feichiog mae pysgod yn gwneud i mi deimlo’n sâl.

Dylen ni geisio bwyta o leiaf dau ddogn o bysgod yr wythnos, gan gynnwys un dogn o bysgod olewog, fel rhan o ddeiet cytbwys ac iach. Mae pysgod olewog, fel eog, brithyll a macrell yn cynnwys mwy o asidau brasterog omega 3 cadwyn hir na physgod gwyn a gall yr asidau brasterog hyn helpu i amddiffyn rhag clefyd y galon. Ond yn gyffredinol dylet osgoi bwyta mwy na dau ddogn o bysgod olewog yr wythnos, gan eu bod yn gallu cynnwys llygryddion o’r enw diocsinau a PCBs (biffenylau polyclorinedig).

Mae hi’n bwysig cofio na ddylet fwyta siarc, cleddbysgodyn na marlyn pan fyddi’n feichiog neu’n ceisio beichiogi gan fod y mathau hyn o bysgod yn cynnwys lefelau cymharol uchel o fercwri. Hefyd, ni ddylet fwyta mwy na dwy stecen diwna (yn pwyso tua 140g ar ôl eu coginio neu 170g yn amrwd) neu bedwar tun maint canolig o diwna (gyda phwysau ar ôl ei ddraenio o tua 140g y tun) yr wythnos.

Os wyt yn teimlo’n sâl, dylet geisio bwyta pysgod ar adeg pan fyddi’n teimlo’n well, neu geisio ei guddio mewn prydau eraill. Mae’n helpu os gall rhywun arall baratoi a choginio’r bwyd i ti! Gall bwyta prydau bach o fwyd yn aml, yn hytrach na phrydau mawr, ac yfed digon o hylifau helpu i wella’r teimlad cyfoglyd hefyd. Y newyddion da yw bod y teimlad hwn yn diflannu o gwmpas wythnos 12 neu wythnos 14 y beichiogrwydd.


Ydi cawsiau caled yn ddiogel i’w bwyta tra’n feichiog?

Mae llenyddiaeth wyddonol wedi dangos fod listeria yn bresennol mewn niferoedd bach iawn (llai nag 1 bacteriwm mewn gram o gaws) yn y mathau hyn o gawsiau ac felly nid ydynt yn cael eu hystyried yn risg i iechyd yn ystod beichiogrwydd.


A allaf fwyta cigoedd oer ac eog mwg pan rwy’n feichiog?

Mae rhai gwledydd yn cynghori merched beichiog i beidio â bwyta cigoedd oer neu bysgod mwg oherwydd y risg o listeria. Yn y DU, nid ydym yn cynghori merched i osgoi y cynhyrchion hyn oherwydd fod y risg yn isel iawn. Mae’r risg o listeria yn llawer uwch yn achos cawsiau meddal wedi’u haeddfedu gan lwydni (fel Brie a Camembert) neu bâtè, na ddylech eu bwyta yn ystod beichiogrwydd. Fodd bynnag, os ydych yn pryderu am hyn, gallwch hefyd ddewis osgoi bwyta cigoedd oer a physgod mwg tra’n feichiog.


Faint o omega 3 yr argymhellir y dylid ei gymryd yn ystod beichiogrwydd?

Pysgod olewog yw'r ffynhonnell ddeietegol orau o asidau brasterog omega 3 cadwyn hir. Mae pysgod olewog hefyd yn cynnwys fitaminau a mwynau hanfodol ac maent yn ffynhonnell wych o brotein.

Fel rhan o ddeiet iach a chytbwys, dylai merched beichiog fwyta o leiaf dau ddogn o bysgod yr wythnos, gan gynnwys un dogn o bysgod olewog. Mae un dogn o bysgod yn pwyso tua 140g ac mae un dogn o bysgod olewog yr wythnos yn darparu, ar gyfartaledd, 3.2g o asidau brasterog omega 3 cadwyn hir yr wythnos neu 450mg y dydd. Gwnaed yr argymhellion hyn ar sail tystiolaeth sy’n dangos fod yr asidau brasterog omega 3 cadwyn hir a geir mewn pysgod olewog yn helpu i ddiogelu rhag clefyd y galon.

Ni ddylai merched beichiog na merched sy'n bwriadu cael babi yn y dyfodol fwyta mwy na dau ddogn o bysgod olewog yr wythnos, gan fod pysgod olewog yn gallu cynnwys lefelau isel o lygryddion a all gronni yn y corff.

Mae rhywfaint o dystiolaeth i ddangos y gall asidau brasterog omega 3 cadwyn hir helpu datblygiad gwybyddol baban yn y groth. Fodd bynnag, nid oes digon o dystiolaeth i lunio casgliadau cadarn.


Am faint ddylai merched gymryd asid ffolig cyn beichiogi?

Nid oes cyfnod amser yn cael ei argymell cyn beichiogi o ran pryd dylai merched ddechrau cymryd atchwanegion asid ffolig. Y peth pwysig yw i ferched ofalu eu bod yn bwyta digon o ffolad – sef asid ffolig yn ei ffurf naturiol – o’r bwydydd y maent yn eu bwyta, ac yn cymryd atchwanegiad o asid ffolig (400mcg) yn ddyddiol – o cyn iddynt feichiogi hyd at 12fed wythnos y beichiogrwydd. Mae’n syniad da i ferched sydd mewn oed i gael plant ddilyn y cyngor hwn os oes posibilrwydd o ddod yn feichiog yn anfwriadol.

Mae ffolad yn helpu i leihau’r risg o fabanod yn datblygu diffygion y tiwb niwral, fel spina bifida. Dylai merched sydd eisoes wedi cael plentyn a chanddo ddiffyg y tiwb niwral holi eu meddyg teulu am gyngor unigol.

Mae sbrowts, asbaragws, ffa llygatddu, sbigoglys a chêl yn ffynonellau sy’n llawn ffolad. Yn ogystal, mae brocoli, bresych y gwanwyn, bresych, blodfresych, letys ‘iceberg’, pannas ac orennau yn cynnwys lefelau sylweddol, ond caiff ffolad ei ddinistrio’n hawdd pan wedi’i goginio a thueddir ei golli yn y dwr a ddefnyddir i’w ferwi. Gallwch gynyddu faint o asid ffolig rydych yn ei gymryd trwy fwyta bwydydd sydd wedi’u hatgyfnerthu ag o, er enghraifft, rhai grawnfwydydd brecwast.


Holi cwestiwn i Sam

Os nad wyt ti'n gallu dod o hyd i'r ateb i dy gwestiwn di, anfona gwestiwn newydd drwy glicio ac y ddolen isod.

 

Nid oes modd i ni ateb pob cwestiwn, ond rydym yn cyhoeddi atebion ar amrywiaeth o bynciau yn rheolaidd.