Holi Sam...![]() Plant a babanod![]() ![]() Pryd alla i roi Quorn™ i fy mabi?Pan fydd dy faban yn chwe mis oed bydd angen i ti ddechrau rhoi bwyd solet iddo yn ogystal â’r llaeth arferol.O naw mis oed, wrth i dy fabi ddod yn gyfarwydd â bwyta, mae’n bwysig cynnig amrywiaeth o fwydydd er mwyn rhoi’r holl fitaminau a’r mwynau y mae eu hangen ar dy fabi ac i wneud yn siŵr nad yw'n fwytäwr ffyslyd yn nes ymlaen. Dyma’r adeg hefyd y dylai dy fabi ddechrau ddod i arfer â chael yr un bwyd â gweddill y teulu, a hynny wedi iddo gael ei stwnshio neu ei dorri'n llai. Os yw Quorn™ yn rhan o ddeiet dy deulu, gelli ei gyflwyno’n raddol pan fydd dy fabi yn naw mis oed drwy roi ychydig bach iddo a sicrhau nad yw’n achosi adwaith alergaidd. Ond dim ond rhan fechan o ddeiet dy fabi a ddylai ei gynnwys. Mae Quorn™ yn fwyd sydd wedi'i brosesu'n helaeth, ac mae'n cynnwys mycoprotein, sef math o ffwngws. Mae’n ffynhonnell dda o brotein llysieuol, mae’n isel mewn braster, yn uchel mewn ffeibr ac nid yw'n cynnwys llawer o galorïau. Ond yn wahanol i oedolion, dylai babanod ar y cyfan gael bwydydd sy’n cynnwys llawer o galorïau a maeth mewn meintiau bach o fwyd. Gan nad yw Quorn™ yn un o'r bwydydd hyn, dim ond ychydig ohono y dylet ei gynnwys yn neiet dy fabi. A chan fod Quorn™ yn uchel mewn ffeibr, gallai achosi gwynt a gwneud i faban deimlo’n anghyfforddus. Gall bwydydd sy’n uchel mewn ffeibr lenwi baban hefyd fel nad oes ganddynt ddigon o le i gael yr amrywiaeth eang o faethynnau sydd eu hangen arnynt. Hefyd, mae rhai pobl wedi nodi adweithiau alergedd i mycoprotein, er nad yw hyn yn digwydd yn aml. Dyma pam y dylid cyflwyno Quorn™ yn raddol a dylet sicrhau nad yw’n achosi adwaith. Ond cofia ei fod yn bwysig i fabanod fwyta mathau gwahanol o fwyd. Bob tro y maent yn rhoi cynnig ar fwyd newydd mae eu cyrff yn cael cyfle i ddysgu sut i ddelio ag ef. Gall unrhyw fwydydd y byddi yn prynu nad ydynt wedi cael eu gwneud ar gyfer babanod yn benodol fod yn uchel mewn halen. Ni all arennau babanod ymdopi â halen felly mae’n bwysig edrych ar labeli bwyd i edrych faint o halen sydd ynddo. Dylai babanod o dan flwydd oed gael llai nag 1g o halen y dydd. Mae cynhyrchion Quorn™ yn amrywio’n eang o ran yr halen sydd ynddynt, felly cofia edrych ar y labeli bwyd. Os oes gen ti unrhyw bryderon ynglŷn â beth i fwydo dy faban, cofia siarad â dy feddyg teulu neu ymwelydd iechyd. Sut y dylwn i baratoi llaeth fy mabi gan ddefnyddio llaeth powdwr i fabanod?Cyn i ti baratoi llaeth dy fabi, mae’n bwysig iawn glanhau’r arwynebau gwaith a golchi dy ddwylo cyn dechrau arni. Cofia fod angen i ti sterileiddio poteli a thethi hefyd cyn i ti eu defnyddio - dilyna gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar sut i wneud hyn.Cofia ddilyn cyfarwyddiadau gwneuthurwr y llaeth powdwr hefyd o ran faint o bowdwr a dŵr i'w ddefnyddio ar gyfer pob potel. Dylet ddilyn y cyfarwyddiadau hyn hefyd:
Os oes unrhyw laeth fformiwla ar ôl wedi i ti orffen bwydo dy fabi, cofia ei daflu. Dylet hefyd daflu unrhyw laeth sydd wedi'i adael ar dymheredd yr ystafell am fwy na dwy awr. Yn ddelfrydol, dylet baratoi llaeth fformiwla yn ffres yn union cyn bwydo dy fabi. Mae llaeth fformiwla sydd wedi'i baratoi ac yna'i storio yn gallu cynyddu'r perygl o wneud dy fabi'n sâl. Os oes rhaid i ti baratoi'r llaeth ymlaen llaw, cofia gadw'r poteli yn yr oergell a phaid â'u storio am fwy na 24 awr. Mae ein hysgol gynradd ar fin sefydlu clwb brecwast. A oes gen ti unrhyw gyngor am gynnwys opsiynau iach?Mae clwb brecwast yn ffordd wych o roi dechrau da i blant yn dy ysgol. Os ydynt yn cael brecwast llawn maeth, gall hyn eu helpu i ganolbwyntio, yn ogystal â gwella eu hiechyd. Dyma ambell i awgrym ar beth i roi cynnig arno.Mae bwydydd â starts, fel bara, yn bwysig i roi egni i blant. Ceisia roi dewis o fara, neu gynnig mathau gwahanol ar ddiwrnodau gwahanol, fel bara gwenith cyflawn, bara granari neu fara gwyn, rhôl, bap neu fagel. Rho fymryn o sbred braster isel ar fara neu jam ffrwythau. Neu beth am gacennau te wedi'u tostio, byns ffrwythau (heb eisin) neu dorth frag. Mae’n syniad da darparu ffrwythau neu sudd ffrwythau amser brecwast gan eu bod yn cynnwys llawer o faethynnau sy’n dda i iechyd plant, yn cynnwys fitamin C. Gall bwydydd sy’n cynnwys fitamin C hefyd helpu plant (ac oedolion) i amsugno haearn o’u bwyd. A dyllai pob un ohonom geisio bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Mae dogn cyfwerth ag afal, banana neu oren, dwy eirinen neu satswma, neu wydraid o sudd. Ond dim ond fel un dogn y dydd y mae sudd yn cyfrif, waeth faint yr wyt ti'n ei yfed. Ceisia ddarparu amrywiaeth o ffrwythau, fel afalau, orennau, grawnwin, satswmas, eirin, bananas, rhesins a bricyll wedi’u sychu. Dewisa sudd ffrwythau 100%, nid ‘diodydd ffrwythau' neu 'ddiodydd sudd' sy’n cynnwys siwgr wedi'i ychwanegu. Os oes gen ti amser, gallet wneud ysgytlaeth neu smwddi trwy gymysgu ffrwythau â llaeth neu iogwrt. Efallai y gallet gael y plant i baratoi eu rhai eu hunain. Gall grawnfwydydd brecwast cyfnerthedig fod yn ddewis da am eu bod yn rhoi egni a rhai fitaminau a mwynau pwysig. Ond mae rhai ohonynt yn uchel iawn mewn siwgr a/neu halen. Felly cofia edrych ar yr wybodaeth am faeth ar y label a cheisia ddewis grawnfwydydd sy’n cynnwys llai o siwgr a halen. Gallet hefyd ychwanegu haenau o ffrwythau ffres at rawnfwyd, neu lond llaw o resins neu syltanas, i annog y plant i fwyta mwy o ffrwythau. Ceisia ddarparu iogwrt neu fromage frais braster isel, neu gartonau bach o laeth hanner sgim. Mae’r rhain i gyd yn ffynonellau da o galsiwm, sy’n arbennig o bwysig i blant sy’n tyfu i helpu eu hesgyrn a’u dannedd i ddatblygu. Os oes cyfleusterau ar gael i baratoi bwyd poeth, gelli grilio cig moch heb lawer o fraster, madarch a thomatos, neu weini wyau wedi’u berwi a ffa pob. Mae’n well osgoi bwydydd wedi’u ffrïo, cig moch rhesog (streaky) a selsig am eu bod yn uchel mewn braster. Mae llawer o ysgolion eisoes yn cynnal clybiau brecwast llwyddiannus ac maent yn gwneud hynny am gyn lleied â 35c y dydd i bob plentyn. Mae’n ffordd dda iawn o helpu disgyblion i fwyta deiet iach. Pob lwc! A yw’n iawn rhoi llaeth powdwr i fabanod sydd wedi'i wneud o soia i fy mabi?Dylet ond rhoi llaeth powdr wedi'i wneud o soia i dy fabi os yw dy feddyg teulu neu'r ymwelydd iechyd yn dy gynghori i wneud hynny. Ym mron i bob achos, bydd bwydo ar y fron neu fath arall o laeth powdr i fabanod yn ddewis gwell.Datblygwyd y math hwn o laeth powdr yn wreiddiol i fabanod nad ydynt yn gallu cael llaeth powdr neu fformiwla i fabanod wedi'i wneud o laeth buwch gan fod ganddynt, er enghraifft, alergedd i laeth. Ond bellach mae mathau eraill o laeth powdr i fabanod sydd yn fwy addas i’r babanod hyn a gall dy feddyg teulu neu dy ymwelydd iechyd roi cyngor i ti am hyn. Weithiau bydd dy feddyg teulu neu ymwelydd iechyd yn argymell llaeth powdr i fabanod wedi ei wneud o soia, er enghraifft os nad yw dy faban yn gallu yfed mathau eraill o laeth powdr i fabanod, neu’n gwrthod gwneud hynny, neu os wyt eisiau i dy faban fwyta deiet figan ac nad wyt ti'n bwydo ar y fron. Os wyt ti'n rhoi llaeth powdr i fabanod wedi ei wneud o soia i dy faban, cofia siarad â dy feddyg teulu neu dy ymwelydd iechyd am newid i laeth powdr gwahanol. Ceisia fwydo dy faban ar y fron nes ei fod yn o leiaf chwe mis oed (26 wythnos). Mae’n well peidio â rhoi unrhyw beth arall i dy faban ar wahân i laeth y fron am y chwe mis cyntaf. Mae llaeth y fron yn cynnwys yr holl faethynnau sydd eu hangen ar dy fabi er mwyn ei helpu i ddatblygu’n iach yn ystod y cyfnod hwn. Gelli barhau i fwydo ar y fron cyhyd â dy fod ti a’r baban yn dymuno, ond bydd angen i ti roi bwyd solet i dy faban (yn ogystal â llaeth y fron neu laeth powdr i fabanod) ar ôl 6 mis. Mae rhai pobl wedi mynegi pryderon y gallai yfed llaeth powdr wedi ei wneud o soia effeithio ar ddatblygiad atgenhedlol babanod, gan fod soia yn cynnwys phytoestrogenau. Cyfansoddion yw’r rhain sy’n bodoli yn naturiol mewn rhai planhigion, a all efelychu neu rwystro gweithrediad yr hormon dynol, oestrogen. Ond mae ganddynt effaith llawer gwannach yn y corff nag oestrogen. Am eu bod yn pwyso llawer llai, mae babanod sy’n yfed llaeth powdr wedi ei wneud o soia yn derbyn lefelau phytoestrogenau llawer uwch nag oedolion neu blant hŷn sy’n bwyta rhai cynhyrchion soia fel rhan o ddeiet cytbwys. Ac mae hwn yn amser a all fod yn sensitif iawn mewn datblygiad babi. Mae astudiaethau ar anifeiliaid wedi dangos bod llawer iawn o phytoestrogenau yn effeithio ar ddatblygiad organau atgenhedlu a ffrwythlondeb. Ond nid oes unrhyw dystiolaeth o’r nifer cyfyngedig o astudiaethau mewn pobl y byddent yn dioddef effeithiau tebyg. Felly nid yw’n glir a allai llaeth powdr wedi ei wneud o soia effeithio ar ddatblygiad atgenhedlol babanod. Alla'i roi mêl i fy mabi?Paid â rhoi mêl i dy fabi nes ei fod yn un oed, gan fod mêl weithiau yn gallu cynnwys math o facteria a all greu tocsinau yng ngholuddyn y babi. Gall hyn achosi salwch difrifol (botwliaeth mewn babanod). Pan fydd plentyn yn un oed, mae’r coluddyn wedi aeddfedu ac ni all y bacteria dyfu.Nid yw’n bosibl tynnu’r bacteria o fêl drwy ei brosesu, heb garameleiddio’r mêl. Mae Cymdeithas Mewnforio a Phacio Mêl Prydain wedi cynghori ei haelodau i nodi ar labeli mêl na ddylid rhoi mêl i fabanod o dan 12 mis. Ond nid yw hyn yn orfodol. Cofia, dylet osgoi ychwanegu siwgr i fwyd neu ddiodydd dy fabi hefyd, gan y gallai annog dant melys ac arwain at bydredd dannedd pan fydd dannedd cyntaf dy fabi yn dechrau ymddangos. Os wyt ti'n rhoi ffrwythau sur wedi'u stiwio i dy fabi, fel riwbob, mae'n bosibl eu melysu gyda banana wedi'i stwnsio, neu laeth y fron neu fformiwla fabanod. Gan fod mêl yn fath o siwgr, dylet gyfyngu ar faint ohono yr wyt ti'n ei roi i dy fabi ar ôl iddynt gyrraedd un oed. Rwyf wedi darllen y gall olew pysgod helpu plant i ganolbwyntio. Ond rwyf hefyd wedi darllen y gall rhai capsiwlaugynnwys lefelau uchel o fercwri a chemegion niweidiol. Felly a yw’n syniad da rhoi capsiwlau olew pysgod i fy mhlentyn chwech oed?Mae pobl yn cymryd capsiwlau olew pysgod ar y cyfan oherwydd eu bod yn cynnwys asidau brasterog omega 3. Gall yr asidau brasterog hyn helpu i dy ddiogelu rhag clefyd y galon. Mae rhai pobl yn credu y gallai asidau brasterog omega 3 helpu plant i ganolbwyntio, ond nid oes digon o dystiolaeth i ddod i unrhyw gasgliadau pendant am hyn.Gall rhai metelau a llygrwyr, fel mercwri a diocsinau, gronni mewn pysgod. Nid yw mercwri yn cronni yn rhannau olewog y pysgod (y rhannau a ddefnyddir i wneud olew pysgod), ond fe all llygrwyr eraill. Canfu arolwg gan y Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ym 1998 fod lefelau cymharol isel o fercwri mewn atchwanegiadau olew pysgod. Gall llygrwyr fel diocsinau a biffenyl polyclorinedig (PCBs), a allai achosi niwed hirdymor, gronni yn rhannau olewog pysgod. Canfu arolwg gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, a gyhoeddwyd yn 2002, fod lefelau diocsinau a PCBs yn uwch mewn rhai atchwanegiadau olew pysgod nag eraill. Mae’r Asiantaeth wedi bod yn gweithio gyda’r diwydiant a manwerthwyr i ganfod ffyrdd o sicrhau bod y lefelau’n aros yn gyson isel. Cyflwynwyd deddfwriaeth Ewropeaidd i reoli lefelau diocsinau mewn bwyd, bwydydd anifeiliaid yn cynnwys hadau pysgod, ac atchwanegiadau olew pysgod. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn ystyried cyfyngiadau ar gyfer PCBs mewn bwyd, yn cynnwys atchwanegiadau deiet fel olew pysgod. Mae’n well bwyta pysgod na chymryd atchwanegiadau olew pysgod, oherwydd yn ogystal â chynnwys asidau brasterog omega 3, mae pysgod yn ffynhonnell wych o faethynnau eraill a fydd yn helpu dy blentyn i dyfu a bod yn iach. Siarad â dy feddyg teulu cyn rhoi unrhyw atchwanegiadau i dy blentyn. Os wyt yn penderfynu rhoi atchwanegiadau iddo ef neu hi, gwna’n siwr eu bod yn addas ar gyfer grŵp oedran dy blentyn a dilyn y cyfarwyddiadau ar y label bob amser. Dylem i gyd geisio bwyta o leiaf dau ddarn o bysgod yr wythnos, yn cynnwys un darn o bysgod olewog, fel rhan o ddeiet iach a chytbwys. Mae pysgod olewog, fel eog, sardîns a macrell, yn cynnwys mwy o omega 3 na physgod gwyn. Mae pysgod ffres, wedi rhewi ac mewn tun, bysedd pysgod a chacennau pysgod oll yn cyfrif tuag at ein darnau wythnosol o bysgod. Ond cofiwch y gall pysgod mewn briwsion bara fod yn uchel mewn braster, yn enwedig os yw wedi’i ffrio. Ni ddylet roi siarc, cleddbysgodyn neu farlyn i dy blentyn. Gall mercwri gronni yn y pysgod hyn a gall lefelau uchel o fercwri effeithio ar system nerfol plentyn sy’n datblygu. Dylet hefyd osgoi rhoi mwy na dau ddarn yr wythnos o bysgod olewog i ferched, neu bedwar i fechgyn. Mae hyn oherwydd y diocsinau a’r PCBs y gall y pysgod hyn eu cynnwys. Nid oes angen cyfyngu’r pysgod eraill y mae dy blentyn yn eu bwyta, ar wahân i siarc, cleddbysgodyn a marlyn. Faint o ddiodydd meddal a byrlymog y gall plant eu cael mewn diwrnod?Nid ydym yn argymell maint penodol o ddiodydd meddal a byrlymog y gall plant eu cael, ond mae’n bwysig nad ydynt yn cael llawer o’r diodydd hyn, yn enwedig rhwng prydau.Mae plant sy’n cael llawer o ddiodydd melys, fel diodydd byrlymog a sgwash, yn fwy tebygol o godi pwysau a bod dros bwysau. Nid oes llawer o faethynnau yn y diodydd hyn ac mae’r siwgr ychwanegol sydd ynddynt yn gallu niweidio dannedd hefyd. Dengys ymchwil bod plant a phobl ifanc yn y DU yn bwyta gormod o siwgr, a daw mwy ohono o ddiodydd byrlymog nag unrhyw fath arall o fwyd neu ddiod. Felly mae cael plant i yfed llai o ddiodydd melys yn ffordd dda o leihau’r siwgr y maent yn ei fwyta. Os yw dy blentyn yn cael y mathau hyn o ddiodydd, mae’n well eu rhoi gyda phrydau bwyd, am y bydd hyn yn helpu i ddiogelu eu dannedd. Mae sudd ffrwythau pur yn cynnwys llawer o fitaminau sy’n dda i iechyd plant, yn enwedig fitamin C, ond mae hefyd yn cynnwys math o siwgr a all niweidio dannedd plant, felly mae’n well yfed hwn gyda phrydau bwyd hefyd. Y diodydd gorau i blant eu cael rhwng prydau yw dŵr a llaeth. Nid yw’r rhain yn cynnwys siwgr ychwanegol sy’n gallu niweidio dannedd. Ac mae llaeth yn cynnwys fitaminau a mwynau pwysig, fel calsiwm. Mae llawer o siwgr mewn siocled, melysion, bisgedi a chacennau hefyd. Felly, er mwyn helpu plant i gadw pwysau iach a diogelu eu dannedd, dylent fwyta’r bwydydd hyn yn gynnil, fel rhan o ddeiet cytbwys. Beth am fyrbrydau iach amser chwarae i fy mab?Mae digon o opsiynau iach i dy fab eu bwyta amser chwarae. Trwy roi byrbrydau maethlon iddo, byddi’n ei helpu i gael y maethynnau y mae eu hangen arno i dyfu a bod yn iach.Mae angen deiet cytbwys ar blant sy’n llawn ffrwythau, llysiau a bwydydd â starts. Ac mae’n bwysig iddynt fwyta’n rheolaidd fel bod digon o egni ganddynt. Ceisia roi ffyn bach o foron, seleri, ciwcymbr a phupur amrwd iddo. Neu gallet roi haenau o oren, satswmas, pinafal neu bot o salad ffrwythau iddo. Bydd y rhain oll yn rhoi fitamin C a maethynnau buddiol eraill, a bydd yn helpu dy fab i fwyta mwy o ffrwythau a llysiau. Gallet hefyd roi brechdanau bach i dy fab (fel caws meddal a chiwcymbr), bagelau, myffins, teisennau mwyth neu fynd ati i baratoi popgorn plaen iddo. Mae’r rhain i gyd yn cynnwys carbohydrad â starts, a fydd yn helpu i roi egni iddo. Mae opsiynau eraill yn cynnwys ciwbiau bach o gaws, pot o iogwrt neu fromage frais, diodydd iogwrt a llaeth â blas, sydd oll yn ffynonellau da o galsiwm. Rwy’n poeni y gallai fy merch fod yn cael gormod o halen. Sut alla i ei helpu i’w gwtogi?Mae’r rhan fwyaf o bobl, yn cynnwys plant, yn cael llawer mwy o halen nag y dylent ei gael. Felly mae’n syniad da i fod yn ofalus faint o halen y mae dy ferch – a thithau - yn ei gael.Os yw plant yn cael gormod o halen, gallai hyn effeithio ar eu hiechyd yn y dyfodol. A gallai hefyd roi blas iddynt am fwyd hallt, sy’n golygu eu bod yn fwy tebygol o barhau i fwyta gormod o halen pan fyddant yn tyfu i fyny. Gall bwyta deiet sy’n uchel mewn halen gynyddu’r siawns o glefyd y galon a strôc yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae hyn am fod halen yn cynnwys sodiwm a gall cael gormod o sodiwm achosi pwysedd gwaed uchel, a elwir hefyd yn ‘hypertension’. Mae uchafswm yr halen y dylai plentyn ei gael yn dibynnu ar eu hoed: • 1 i 3 oed – 2g y dydd (0.8g sodiwm) • 4 i 6 oed – 3g o halen y dydd (1.2g sodiwm) • 7 i 10 oed – 5g y dydd (2g sodiwm) • 11 ac yn hŷn – 6g y dydd (2.5g sodiwm) Dylai babanod o dan flwydd oed gael llai fyth o halen. Mae tua 75% o’r halen yr ydym yn ei fwyta eisoes yn y bwyd yr ydym yn ei brynu, yn cynnwys llawer o rawnfwydydd brecwast, bisgedi, cawl, saws, prydau parod, creision a byrbrydau sawrus. Felly mae’n bwysig siopa’n ofalus. Os yn bosibl, ceisia ddewis cynnyrch sy’n dweud 'no added salt'. Mae’n syniad da hefyd i gymharu’r wybodaeth faethol ar gynnyrch gwahanol, i dy helpu i ddewis y rheiny sy’n cynnwys llai o halen. Ffordd arall o leihau’r halen y mae dy ferch yn ei fwyta yw cwtogi ar fyrbrydau hallt, fel creision a chnau hallt, a rhoi brybrydau sy’n isel mewn halen iddi yn lle hynny. Gallet roi cynnig ar:
Mae fy maban yn cael dolur rhydd pan fyddaf yn rhoi caws, iogwrt neu gynnyrch llaeth eraill iddi. A allai fod ganddi anoddefiad tuag at laeth buwch?Mae llawer o gyflyrau gwahanol lle mae pobl yn adweithio’n annormal i laeth buwch, yn cynnwys alergedd i laeth buwch, anoddefgarwch tuag at brotein llaeth buwch ac anoddefgarwch tuag at lactos. Mae symptomau’r cyflyrau hyn yn cynnwys dolur rhydd, asthma, chwydu, bol chwyddedig a gwynt.Mae alergedd i laeth ac anoddefgarwch tuag at brotein llaeth buwch yn gyffredin mewn babanod a phlant. Mae’r symptomau’n dechrau o’r adeg y cyflwynir llaeth buwch i’r deiet. Bydd llawer o blant â’r cyflyrau hyn yn tyfu allan ohonynt wrth iddynt fynd yn hŷn. Os wyt yn credu bod gan dy faban anoddefgarwch tuag at laeth buwch a chynnyrch llaeth mae’n bwysig cysylltu â dy feddyg teulu, a fydd yn gallu ei chyfeirio at arbenigwr i gael diagnosis cywir a chyngor ynglŷn â maeth. Mae llaeth a chynnyrch llaeth yn ffynonellau maeth da, fel calsiwm, felly ni ddylet eu torri allan o ddeiet dy ferch heb gael cyngor meddygol. Os canfyddir bod gan dy ferch alergedd i laeth, gall dy feddyg teulu ragnodi llaeth powdr i fabanod wedi’i hydroleiddio. Ni ddylet roi llaeth powdr i fabanod wedi’i hydroleiddio’n rhannol na llaeth powdr soia iddi heb gysylltu â dy feddyg teulu, oherwydd y gall babanod ag alergedd i laeth buwch adweithio i’r mathau hyn o laeth powdr i fabanod. Pryd alla'i ddechrau rhoi menyn pysgnau i fy mhlentyn?Os nad yw dy blentyn wedi cael gwybod ei fod yn dioddef o unrhyw alergedd, ac os nad oes hanes o alergedd yn ei deulu agos, gelli ddewis rhoi menyn pysgnau iddo ar ôl iddo gyrraedd chwe mis oed (ond cofia – paid byth â rhoi pysgnau neu gnau cyfan i blant o dan bump oed gan fod perygl iddynt dagu).Pan fyddi di'n rhoi menyn pysgnau i blentyn am y tro cyntaf, rho fymryn iddo yn unig a chofia gadw llygad am unrhyw adwaith alergaidd. Mae cyngor am symptomau cyffredin adwaith alergaidd ar gael ar y ddolen isod. Os wyt ti'n meddwl bod dy blentyn yn cael adwaith alergaidd, dylet geisio cyngor meddygol ar frys. Mae angen deiet sy'n uwch mewn braster ac yn is mewn ffeibr ar fabanod a phlant o dan bump o'i gymharu â phlant hŷn ac oedolion. Mae gan fabanod a phlant o dan ddyflwydd stumogau bach ac nid ydynt yn gallu bwyta llawer o fwyd ar y tro, felly mae angen prydau llai arnynt gyda byrbrydau iachach rhwng pob pryd. Mae menyn pysgnau yn uchel mewn egni a hefyd yn uchel mewn braster. Gall menyn pysgnau fod yn rhan o ddeiet dy blentyn ond, fel pob un ohonom, mae angen i blant ifanc fwyta amrywiaeth o fwydydd er mwyn iddynt gael yr holl fitaminau a mwynau sydd eu hangen arnynt i fod yn iach ac i sicrhau nad ydynt yn ofn rhoi cynnig ar fwydydd newydd a bwydydd gwahanol yn hwyrach mewn bywyd. Mae'n bwysig i fabanod a phlant ifanc fwyta gwahanol fathau o fwydydd. Rho gynnig ar ein syniadau iachach i lenwi brechdanau, megis wyau a berwr (cress), tiwna neu eog (cofia chwilio am esgyrn bob tro) a chiwcymbr, a chyw iâr a salad. Os yw dy blentyn wedi cael gwybod ei fod yn dioddef o alergedd, megis alergedd bwyd neu ecsema, neu os oes hanes o alergedd yn y teulu agos (os oes gan y fam neu'r tad, neu frawd neu chwaer alergedd megis alergedd bwyd, asthma, ecsema, clefyd y gwair neu fath arall o alergedd), mae dy blentyn mewn mwy o berygl o ddatblygu alergedd i bysgnau. Felly yn yr achosion hyn, rydym yn dy gynghori i siarad â'th feddyg teulu neu arbenigwr meddygol ar alergeddau cyn rhoi pysgnau neu fwydydd sy'n cynnwys pysgnau i dy fabi am y tro cyntaf. Nid yw fy mab 6 oed yn hoff iawn o ffrwythau a llysiau – sut alla i ei gael i fwyta mwy ohonynt?Mae llawer o bethau y gelli wneud i annog dy fab i fwyta mwy o ffrwythau a llysiau. Er enghraifft, gelli ychwanegu llysiau i brydau poeth, fel caserol a chyrri. Rho bys neu foron wedi eu torri neu eu gratio mewn pastai bugail, rhoi ddarnau o gorbwmpen mewn lasagne, neu ychwanega haenau o bupur a llysiau eraill ar ben pitsa.Os yw dy fab yn hoffi saws wedi ei wneud o domatos, cymysga’r rhain gyda phasta, neu ychwanega ychydig o ratatouille gyda phryd bwyd. Os yw’n hoff o datws wedi’u stwnsio, gallet gymysgu ychydig o foron, pannas neu rwden wedi eu stwnsio ynddo. Gall india-corn ar y cobyn fod yn hwyl i’w fwyta hefyd ac mae’n boblogaidd gyda phlant ifanc. Cofia mae ffrwythau a llysiau ffres, wedi’u rhewi, mewn tun, wedi’u sychu ac wedi’u gwneud yn sudd oll yn cyfrif tuag at ein darnau dyddiol o ffrwythau a llysiau (ond mae sudd yn rhoi cyfrif am uchafswm o un darn y dydd). Felly, ceisia weini eirin gwlanog mewn tun gyda hufen iâ i bwdin, ychwanega ffrwythau wedi’u sychu i rawnfwyd brecwast a rhoi wydraid o sudd ffrwythau gyda phryd yn lle sgwash neu ddiod byrlymog. Gall brechdanau banana fod yn ddewis da i ginio a gall haenau o glementinau fod yn fyrbyrd hwylus. Mae’n well gan rai plant lysiau amrwd, felly ceisia roi ffyn moron, ciwcymbr neu bupur amrwd i dy fab eu cnoi. Yn aml, nid yw plant yn hoffi ansawdd ffrwythau a llysiau, yn hytrach na’r blas. Felly rho gynnig ar wneud ysgytlaeth a smwddis trwy gymysgu piwrî ffrwythau gyda llaeth neu iogwrt. Mae ffrwythau wedi’u coginio yn cyfrif tuag at y darnau ffrwythau a llysiau hefyd, felly gallet weini afalau pob gyda syltanas neu grymbl ffrwythau i bwdin. Efallai yr hoffet gynnwys dy fab pan fyddi’n paratoi pryd, oherwydd mae plant yn fwy tebygol o fwyta bwyd y maent wedi helpu i’w baratoi. Gallai dy helpu i wneud ‘cychod’ pupur coch wedi eu llenwi â reis, caws a nionod, neu wneud wynebau gyda haenau o lysiau ar ben quiche neu bitsa. Yn aml, mae angen dangos bwyd sawl gwaith i blant cyn y byddant yn ei fwyta. Felly, pan fyddi’n bwyta ffrwythau neu lysiau, dangos nhw i dy fab a dweud wrtho amdanynt, fel ei fod yn gyfarwydd â hwy cyn iddo eu blasu. Ac os yw’n gwrthod bwyta bwyd i ddechrau, paid â phoeni a phaid rhoi fyny – rho gynnig arno eto rywbryd arall. A yw iogwrt bio yn ddiogel ar gyfer babanod?Fel arfer mae iogwrt 'bio' yn honni ei fod yn cynnwys bacteria neu ‘gelloedd meithrin’ ‘byw’. Yn y rhan fwyaf o gynnyrch, bydd y bacteria hyn yr un peth ag y ceir yn naturiol yn system draul person iach.Felly does dim angen i fabanod fwyta iogwrt bio i gael y bacteria hyn. Ond os wyt eisiau rhoi iogwrt bio i dy faban pan fydd tua chwe mis oed neu’n hŷn, dylai hyn fod yn ddiogel, oni bai ei fod yn dweud ar y label nad yw’r cynnyrch yn addas ar gyfer babanod. Mae angen llawer o egni ar dy faban i dyfu, felly gwna’n siwr dy fod yn rhoi dewisiadau braster llawn cynnyrch llaeth iddo fel iogwrt a fromage frais. Cofia osgoi defnyddio llaeth buwch fel prif ddiod hyd nes bod dy faban yn un oed. Er mwyn cael mwy o fanylion am gynnyrch penodol, bydd angen cysylltu â’r cynhyrchydd. Ai sgwash neu sudd ffrwythau pur sydd orau i blant?Y diodydd gorau i’w rhoi i blant yw dŵr, llaeth ac ysgytlaeth heb siwgr wedi’i ychwanegu.Mae plant fel arfer yn hoff o sudd ffrwythau ac mae’n cynnwys fitaminau a mwynau gwerthfawr, yn enwedig fitamin C. Gall hefyd gyfrif fel un darn y dydd o’r pum darn o ffrwythau a llysiau y dylai plant fod yn eu cael erbyn pump oed. Ond pan fydd sudd yn cael ei dynnu o’r ffrwyth cyfan, mae hyn yn rhyddhau siwgr sy’n gallu niweidio dannedd, yn enwedig os yw dy blant yn ei yfed o fotel neu’n ei yfed yn aml. Felly ceisia roi sudd ffrwythau gyda phrydau bwyd yn unig, gan fod hyn yn well i’r dannedd na’i yfed rhwng prydau. Mae llawer o sgwash, sudd ffrwythau, diodydd byrlymog, llaeth â blas ac ysgytlaeth yn cynnwys siwgr wedi ei ychwanegu, sydd hefyd yn ddrwg i’r dannedd. Mae ychwanegu llawer o ddŵr i sgwash yn ei wneud yn llai melys, ond eto, ceisia ei roi gyda phrydau bwyd yn unig. Nid yw diodydd byrlymog, yn cynnwys rhai ‘deiet', yn cynnwys llawer o faeth. A gallant lenwi, felly gallant leihau archwaeth dy blant am fwyd sy’n cynnwys y maeth y mae ei angen arnynt. Os yw dy blant yn hoffi yfed llaeth, mae hwn yn ddewis da iawn, yn enwedig os nad ydynt yn hoff iawn o ddŵr plaen. Nid yw llaeth yn ddrwg i’r dannedd, ac mae’n cynnwys calsiwm a fitaminau a mwynau eraill. Dylai plant yfed llaeth cyflawn hyd nes eu bod yn ddwy oed o leiaf oherwydd efallai na fyddai llaeth hanner sgim yn rhoi’r calorïau angenrheidiol iddynt. Ar ôl dwy oed, gelli gyflwyno llaeth hanner sgim yn raddol fel y prif ddiod, cyhyd â bod dy blentyn yn bwyta’n dda ac yn cael digon o galorïau a maeth o ddeiet cytbwys. Paid rhoi llaeth sgim i blant hyd nes eu bod yn bum mlwydd oed o leiaf. Gallet geisio gwneud ysgytlaeth a smwddis trwy gymysgu ffrwythau meddal, fel banana, mefus neu fango, gyda llaeth neu iogwrt. Gall hyn fod yn ffordd dda o annog plant i fwyta ffrwythau. A yw fromage frais a iogwrt yn ddrwg i ddannedd fy mhlentyn?Mae’n iawn rhoi fromage frais neu iogwrt i dy blentyn bob nawr ac yn y man fel rhan o ddeiet cytbwys (gan osgoi dewisiadau braster isel. Ond gall y rhain gynnwys siwgr wedi ei ychwanegu, felly mae’n well i ddannedd dy faban os nad yw ef neu hi yn eu cael yn rhy aml.Gall unrhyw fwydydd a biodydd sy’n cynnwys siwgr wedi ei ychwanegu achosi pydredd dannedd, yn enwedig os yw dy faban yn eu cael yn rheolaidd. Y math o siwgr sy’n cael ei ychwanegu pan fydd bwyd yn cael ei brosesu yw’r math gwaethaf o siwgr i’r dannedd. Wrth brynu bwyd, cadw lygad am y geiriau hyn ar y rhestr cynhwysion: swcros, glwcos, frwctos, startsh wedi’i hydroleiddio a siwgr gwrthdro. Mae’r rhain i gyd yn fathau o siwgr sy’n ddrwg i’r dannedd, felly mae’n well peidio rhoi bwyd sy’n eu cynnwys i dy faban yn rhy aml. Gall mêl, triog melyn, triog, siwgr gronynnog a siwgr mân oll achosi pydredd dannedd, yn yr un modd â’r siwgr mewn sudd ffrwythau. Felly, pan fyddi’n paratoi bwydydd gartref, ceisia beidio ychwanegu unrhyw siwgr – gallet ddefnyddio piwrî ffrwythau i’w wneud yn felys yn lle hynny. Ni ddylet roi sudd ffrwythau i dy faban hyd nes ei fod ef neu hi yn chwe mis oed, ac ar ôl yr oed yma, gwna’n siwr bod y sudd ffrwythau wedi ei gymysgu’n dda â dŵr (un rhan o sudd ffrwythau â deg rhan o ddŵr wedii ei ferwi a’i oeri). Gall cynnyrch sydd â label 'no added sugar' hyd yn oed fod wedi eu melysu â sudd ffrwythau wedi ei dewychu, a all niweidio dannedd. Gallet wneud byrbrydau dy hun heb siwgr ar gyfer dy faban, fel ffyn moron, darnau o afal â’r croen wedi ei dynnu a bara pita, neu roi gynnig ar ychwanegu piwrî ffrwythau i fromage frais neu iogwrt plaen. Mae dannedd yn fwy tebygol o bydru pan fydd siwgr yn y geg am amser hir. Dyma pam y mae cael brybrydau a diodydd melys rhwng prydau a chyn mynd i’r gwely yn arbennig o ddrwg i’r dannedd, am fod y siwgr yn aros yn y geg. Ceisia osgoi rhoi sgwash (neu ddiodydd melys eraill) mewn botel, oherwydd bydd y siwgr yn y geg am amser hir wrth i dy faban yfed y sgwash yn araf. Cofia bod angen llaeth y fron neu tua 500ml (tua peint) o laeth powdr ar fabanod bob dydd yn ystod eu blwyddyn gyntaf fel eu prif ddiod. Hyd yn oed pan ddaw y dannedd cyntaf drwodd, dylet ddechrau eu glanhau yn ofalus gyda brwsh dannedd baban ac ychydig o bast dannedd fflworid. Faint o galorïau sydd eu hangen ar blentyn wyth oed?Mae angen llawer o egni a maethynnau ar blant yr oed hyn am eu bod yn dal i dyfu. Mae amcangyfrif o ofynion egni a maethynnau ar gyfer plant o oedrannau gwahanol ar gyfartaledd.Ar gyfer plant 7 i 10 oed, amcangyfrifir bod angen egni o 1970 cilocalori (kcal) y dydd ar fechgyn a 1740 kcal ar gyfer merched ar gyfartaledd. Ond cofia, canllaw yn unig yw hwn; bydd angen mwy na’r amcangyfrifon hyn ar lawer o blant, a bydd angen llai ar rai, yn dibynnau ar sawl peth, yn cynnwys pa mor actif y maent. Ond wrth gwrs, nid faint o galorïau yn unig yr ydym yn eu cael sy’n bwysig. Mae’n bwysig ein bod i gyd yn cael deiet cytbwys, iach. Ceisia annog dy blentyn i ddewis amrywiaeth o fwydydd, i helpu i sicrhau eu bod yn cael yr holl faethynnau y mae eu hangen arnynt i dyfu a bod yn iach. Dylai ef neu hi fwyta:
A ddylwn i fod yn cadw llygad ar faint o halen sydd ym mwyd fy mhlentyn dwy oed?Dylwn i gyd osgoi bwyta gormod o halen, beth bynnag yw ein hoed. Mae hyn am fod halen yn cynnwys sodiwm, a gall gormod o sodiwm achosi pwysedd gwaed uchel (a elwir weithiau’n ‘hypertension’), sy’n cynyddu’r perygl o glefyd y galon a strôc.Felly, mae’n syniad da cadw llygad ar yr halen y mae dy blentyn yn ei gael. Ni ddylai plant un i dair oed gael mwy na 2g o halen y dydd (tua 0.8g o sodiwm). Nid yr halen yr ydym yn ei ychwanegu i’n bwyd yn unig y mae’n rhaid i ni fod yn ofalus ohono – gall llawer o fwydydd yr ydym yn eu prynu fod yn uchel mewn halen, yn cynnwys rhai cynnyrch sydd wedi eu hanelu at blant. Felly cofia edrych ar y label a cheisia ddewis yr opsiwn halen is. Edrych ar y ffigur ar gyfer halen fesul 100g. Uchel yw dros 1.5g o halen fesul 100g (neu 0.6g o sodiwm) Isel yw 0.3g o halen neu lai fesul 100g (neu 0.1g o sodiwm) Os yw maint yr halen fesul 100g rhwng y ffigurau hyn, mae hwnnw’n faint canolig o halen. Cofia fod y meintiau yr wyt yn eu bwyta o fwyd penodol yn effeithio faint o halen y byddi’n ei gael ohono. Mae’n syniad da hefyd ceisio cwtogi ar nifer y byrbrydau hallt y mae dy blentyn yn eu cael, fel creision a bisgedi. Rho fyrbrydau isel mewn halen iddynt, fel ffrwythau wedi’u sychu, ffyn llysiau amrwd, grawnwin a statswmas yn lle hynny. A oes angen diferion fitaminau neu haearn ar blentyn un oed?Gallai pob plentyn rhwng chwe mis a phum mlwydd oed elwa ar gael diferion yn cynnwys fitamin A, C a D. Bydd y rhain yn helpu i sicrhau eu bod yn cael y fitaminau pwysig hyn, yn enwedig os nad ydynt yn bwyta deiet amrywiol.Mae diferion fitaminau ar gael am ddim i blant o dan bump oed i deuluoedd sy’n cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm. Gellir hefyd eu prynu’n rhad mewn clinigau iechyd plant. Efallai na fydd angen diferion fitaminau ar blant sy'n bwyta'n dda ac sy’n bwyta amrywiaeth o fwydydd, gan gynnwys ffrwythau a llysiau. Yn ogystal â bwyta deiet cytbwys, iach, mae angen golau’r haul ar blant hefyd i’w helpu i gael digon o fitamin D. (Cofia ofalu nad yw eu croen yn llosgi.) Felly, os nad yw plentyn yn treulio llawer o amser yn yr awyr agored, os nad yw’n bwyta cig na physgod olewog, neu os nad yw eu croen yn gweld llawer o olau dydd am eu bod bob amser yn gwisgo dillad sy’n gorchuddio’r rhan fwyaf o’u croen pan fyddant allan, dylet roi diferion iddynt i wneud yn siŵr eu bod yn cael digon o fitamin D. Os nad yw plant yn cael digon o fitamin D, gall hyn achosi'r llechau (rickets), a allai achosi i'w hesgyrn gael eu hanffurfio’n barhaol. Mae haearn hefyd yn hanfodol i iechyd dy blant. Ond os ydynt yn bwyta rhywfaint o gig neu bysgod bob dydd, maent fwy na thebyg yn cael digon o haearn ac ni fydd angen diferion na thabledi haearn arnynt. Os nad yw dy blant yn bwyta unrhyw gig neu lysiau, gwna’n siwr eu bod yn bwyta digon o fwydydd eraill sy’n llawn haearn, fel:
Os wyt ti'n poeni am ddeiet dy blentyn, cer i siarad â'th ymwelydd iechyd neu dy feddyg teulu. Mae fy mab yn 10 mis oed, yn iach ac yn mwynhau llawer o fwydydd, gan gynnwys pysgod gwyn a ffrwythau a llysiau. A fyddai'n iawn cyflwyno ychydig bach o fecryll mewn saws tomato o dun i'w ddeiet?Mae'n ymddangos bod dy fab yn mwynhau deiet amrywiol a chytbwys a bydd ychwanegu mecryll at ei brydau bwyd yn cynyddu'r amrywiaeth o fwydydd y mae'n eu bwyta.Mae mecryll yn cynnwys llawer o faethynnau gwerthfawr gan gynnwys protein, ïodin a fitamin D. Mae fitamin D yn helpu i amsugno calsiwm, sy'n dda ar gyfer datblygu esgyrn iach. Mae mecryll yn cyfrif fel pysgod olewog ac maent yn cynnwys asidau brasterog omega 3 cadwyn hir. Mae mecryll ffres, rhai wedi'u rhewi neu rai o dun i gyd yn cynnwys asidau brasterog omega 3 cadwyn hir. Gall bechgyn gael hyd at bedwar dogn o bysgod olewog yr wythnos, ond mae'n well peidio â rhoi mwy na dau ddogn o bysgod olewog yr wythnos i ferched. Ond cofia na ddylai babanod rhwng saith a 12 mis oed gael mwy nag 1g o halen y dydd, felly cofia ddarllen y label a dewisa'r tun sydd â'r lleiaf o halen. Ac, wrth gwrs, cofia chwilio am esgyrn wrth roi pysgod i blant bach a phlant hŷn. Sut alla i wneud byrgyrs a sglodion iachach i fy mhlant?Gall byrgyrs a sglodion fod yn uchel mewn braster a halen, felly mae’n well peidio eu rhoi i dy blant yn rhy aml. Ond gelli wneud fersiynau iachach adref trwy roi cynnig ar y pethau canlynol:
A yw’n ddiogel rhoi bwyd i’m baban sydd wedi cael ei goginio, ei oeri ac yna’i ailgynhesu? Ac a fyddai’n ddiogel dadmer bwyd amrwd, ei goginio, ei rewi, ei ddadmer ac yna’i ailgynhesu?Pryd bynnag y byddi’n coginio neu’n ailgynhesu bwyd, p’un a yw ar gyfer baban neu i oedolyn ei fwyta, dylet sicrhau ei fod yn chwilboeth drwyddo. Mae hyn er mwyn lladd unrhyw facteria a allai fod yn bresennol yn y bwyd.Cyhyd â bod y bwyd wedi ei ailgynhesu’n drwyadl, dylai fod yn ddiogel i dy faban. Fel elli ei adael i oeri ychydig (pump i 10 munud dyweder) fel nad yw’n rhy boeth i dy faban ei fwyta, ond paid gadael bwyd yn sefyll ar dymheredd ystafell am oriau oherwydd gall hynny alluogi bacteria i dyfu. Gellir dadmer bwyd amrwd, ei goginio, ei rewi, ei ddadmer a’i ailgynhesu, cyhyd â dy fod yn dilyn y rheolau hyn:
A yw’r cyngor i fwyta o leiaf pum darn o ffrwythau a llysiau y dydd yn berthnasol i blant ifanc?Argymhellir bod oedolion a phlant pump oed ac yn hŷn yn bwyta o leiaf pum darn o ffrwythau a llysiau y dydd. Rhwng dwy a phump oed gelli ddechrau rhoi ffrwythau a llysiau yn raddol i blant, gan gynyddu i bump y dydd.Erbyn bod dy blentyn yn ddwy oed, mae’n bwysig dechrau cyflwyno amrywiaeth o fwydydd, yn cynnwys ffrwythau a llysiau. Dengys ymchwil po amlaf y mae bwyd gwahanol yn cael ei gynnig i blant, y mwyaf tebygol y maent o fwyta deiet amrywiol yn nes ymlaen. Felly paid â digalonni os nad yw dy blentyn yn bwyta bwyd newydd y tro cyntaf y byddi’n ei gynnig iddo. Rho sawl cynnig arall arni. Pa fwydydd ddylwn i eu rhoi i fy mhlant er mwyn sicrhau eu bod yn bwyta deiet iach?Mae angen llawer o egni a maethynnau ar blant, yn enwedig pan fyddant yn tyfu. Ceisia eu hannog i fwyta amrywiaeth o fwydydd gwahanol i wneud yn siŵr eu bod yn cael amrywiaeth o faethynnau. Mae deiet cytbwys yn llawn bwydydd â starts, fel bara, pasta a reis ac mae’n cynnwys:
Mae angen y maethynnau canlynol ar blant hefyd:
Sut alla i annog fy mhlant i fwyta deiet mwy amrywiol?Dyma rai syniadau y gelli roi cynnig arnynt i annog dy blant i fwyta bwydydd gwahanol:
Os yw dy blentyn yn fwytäwr anodd, ceisia beidio dadlau am hyn am y bydd yn gwneud pethau’n waeth. Yn lle hynny, ceisia gynnig amrywiaeth o fwydydd iddo. Pa fwydydd sydd orau i fy merch pump oed sy'n dioddef o anemia? Nid yw hi'n hoff iawn o gig.Mae’n bwysig sicrhau bod dy ferch yn cael deiet amrywiol sy’n cynnwys haearn, gan fod haearn yn ffurfio rhan hanfodol o haemoglobin, y pigment coch a geir mewn gwaed. Mae haemoglobin yn cario ocsigen o’r ysgyfaint i feinweoedd ac organau’r corff. Mae dwy ran o dair o’r haearn sy’n bresennol yn y corff i'w gael mewn haemoglobin; cedwir y gweddill yn yr iau, y ddueg (spleen) ac ym mêr yr esgyrn. Ceir ychydig bach hefyd mewn myoglobin, sef protein y cyhyrau.Mae ffynonellau da o haearn nad ydynt yn gig yn cynnwys grawnfwydydd a blawd grawn cyflawn, llysiau gwyrdd deiliog fel ysbigoglys a berw'r dŵr, codlysiau fel corbys, ffa Ffrengig a ffacbys, rhai ffrwythau wedi’u sychu (bricyll a ffigys), a wyau. Os nad yw bwyd yn rhoi digon o haearn yn lle’r hyn y mae’r corff yn ei golli, bydd y storfa’n lleihau’n raddol a bydd hyn yn effeithio ar lefel yr haemoglobin. Gall hyn arwain at ddiffyg haearn a gall achosi anemia. Mae haearn yn y deiet yn bodoli mewn dwy ffurf wahanol: haearn hema a haearn nad yw’n hema. Mae haearn hema, sef y ffurf sy’n bodoli mewn cigoedd coch ac offal, yn cael ei amsugno’n gymharol dda (20-30%). Ceir haearn nad yw’n hema mewn bwydydd sy’n blanhigion, ac nid yw’n cael ei amsugno cystal yn gyffredinol (10%), ond caiff fwy ei amsugno pan fydd storfeydd y corff yn lleihau a phan fydd mwy o angen amdano, e.e. mewn plant sy’n tyfu neu fenywod beichiog. Mae grawnfwyd brecwast sydd wedi'i gyfnerthu â haearn a gwydraid o sudd oren yn ffordd dda i ddechrau’r diwrnod, gan fod fitamin C yn helpu'r corff i amsugno haearn. Os wyt ti'n rhoi te i dy ferch i'w yfed, dylet ystyried gwneud hyn rhwng prydau yn unig, yn hytrach na gyda bwyd, oherwydd gall y tannin mewn te leihau’r haearn sy’n cael ei amsugno. A ddylai plant gael llaeth cyflawn neu laeth hanner sgim?Mae llaeth yn rhan bwysig o ddeiet plentyn. Mae’n ffynhonnell dda o egni a phrotein, ac mae’n cynnwys amrywiaeth eang o fitaminau a mwynau. Mae llaeth a chynnyrch llaeth yn ffynonellau llawn calsiwm, sydd ei angen ar blant a phobl ifanc sy’n tyfu i ddatblygu esgyrn a dannedd iach.Pan fydd baban tua un oed, ac wedi ei ddiddyfnu, gelli roi llaeth buwch cyflawn iddo. Os wyt ti'n bwydo ar y fron, cei barhau i wneud hynny. Mae angen llaeth cyflawn ar blant o dan ddwy oed gan ei fod yn cynnwys y calorïau ychwanegol a’r fitamin A sydd eu hangen ar blentyn iau. Mae angen i blant rhwng un a thair oed gael tua 350mg o galsiwm y dydd ar gyfartaledd. Byddai tua 300ml o laeth cyflawn (tair rhan o bump o beint) yn darparu hyn. Mae llaeth hanner sgim, llaeth 1% a llaeth sgim yn cynnwys o leiaf yr un maint o brotein, fitaminau B, calsiwm, magnesiwm, ffosfforws, potasiwm a sinc â llaeth cyflawn, ond llai o fraster. Unwaith y bydd plentyn yn ddwy oed, gall ef neu hi ddechrau yfed llaeth hanner sgim cyhyd â’u bod yn bwyta’n dda ac yn cael amrywiaeth eang o fwydydd, a'u bod hefyd yn tyfu'n dda. Fodd bynnag, nid yw llaeth sgim na llaeth 1% yn addas ar gyfer plant o dan bump oed. Maent yn rhy isel mewn calorïau ac nid ydynt yn cynnwys digon o fitamin A, ac mae llaeth sgim yn rhy isel mewn calorïau, sydd eu hangen ar blant. Mae’n bwysig nodi er bod llaeth yn darparu amrywiaeth o faethynnau, nid yw’n cynnwys swm sylweddol o haearn na fitamin C, sydd hefyd yn bwysig iawn i blant sy’n tyfu. Mae'n bwysig bod plant yn bwyta deiet amrywiol er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr holl fitaminau a mwynau sydd eu hangen arnynt. Beth ddylwn i roi i fy ŵyr i helpu rhwymedd?Mae angen i blant sy’n tyfu fwyta amrywiaeth o fwydydd. Rhwng dwy a phump oed, dylid symud yn raddol tuag at ddeiet oedolyn. Mae hyn yn golygu erbyn pump oed, dylai plentyn fod yn bwyta amrywiaeth o fwyd o’r grwpiau bwyd canlynol, ac yn y math o feintiau a nodir:
Efallai y dylai ei fam hefyd ystyried cynyddu’r hylif y mae dy ŵyr yn ei yfed a’i annog i yfed mwy o ddŵr a sudd ffrwythau. Mae’n well i blant yfed sudd ffrwythau gyda phrydau bwyd am fod hyn yn helpu i amddiffyn eu dannedd. Os yw teulu dy ŵyr yn poeni am ei iechyd, dylent weld eu meddyg teulu. Holi cwestiwn i SamOs nad wyt ti'n gallu dod o hyd i'r ateb i dy gwestiwn di, anfona gwestiwn newydd drwy glicio ac y ddolen isod. Nid oes modd i ni ateb pob cwestiwn, ond rydym yn cyhoeddi atebion ar amrywiaeth o bynciau yn rheolaidd.
|
|||||
|
|