Gwir neu Gau? 5 myth am fwyd
Gwir neu gau? Beth wyt ti'n ei gredu?

Ar y dudalen hon

1. Mae deietau llysieuol yn iachach
Gall deiet llysieuol fod yn iach iawn, ond os yw dy ddeiet llysieuol yn golygu sglodion a brechdanau caws, yna nid yw’n iach o gwbl!
I gael gwybod mwy am sut i ddewis deiet llysieuol cytbwys, iach, clicia yma i weld yr adran i lysieuwyr ar y wefan hon.
2. Mae cynhyrchion llaeth yn dy wneud di’n dew
Bwyta mwy nag sydd ei angen ar ein cyrff sy’n arwain at fagu pwysau. Felly, er mwyn cynnal pwysau iach, mae’n bwysig dilyn deiet cytbwys a chadw’n gorfforol actif.
Mae’r cynnwys braster mewn cynhyrchion llaeth yn amrywio’n fawr, a braster dirlawn yw llawer o’r braster hwn, sy’n gallu codi colesterol ac sydd wedi’i gysylltu â chlefyd y galon.
Mae cynhyrchion llaeth fel caws, llaeth ac iogwrt yn rhan bwysig iawn o ddeiet cytbwys, iach gan eu bod nhw’n ffynhonnell wych o brotein a fitaminau A, B12 a D.
Maen nhw hefyd yn ffynhonnell bwysig o galsiwm, sy’n helpu i gadw ein hesgyrn yn gryf. Mae hyn yn bwysig i bawb, ond os ydych chi'n mwynhau chwaraeon fe fyddwch chi eisoes yn gwybod pa mor hanfodol yw hyn.
Dewiswch laeth hanner sgim neu laeth sgim a iogyrtiau braster isel neu fromage frais. Mae’r rhain yn cynnwys o leiaf yr un swm o brotein, fitaminau B, calsiwm, magnesiwm, ffosfforws, potasiwm a sinc â fersiynau braster llawn. Braster dirlawn yw’r unig beth y mae llai ohono.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy am fwydydd llaeth.
3. Os wyt ti'n cymryd fitaminau yn y bore does dim rhaid poeni am yr hyn rwyt ti'n ei fwyta am weddill y dydd
Er bod atchwanegiadau fitaminau o bosib yn darparu’r holl fitaminau sydd eu hangen arnoch chi bob dydd, mae yna lawer o faetholion pwysig eraill nad ydyn nhw'n eu darparu.
Felly mae’n dal i fod yn bwysig dewis deiet cytbwys, iach. Cofiwch, ni all atchwanegiadau fitaminau gymryd lle deiet iach.
4. Nid yw diodydd deiet yn gwneud drwg i dy ddannedd
Gall hyd yn oed diodydd deiet wneud drwg i’ch dannedd, os ydych chi'n yfed gormod ohonyn nhw.
Maen nhw’n aml yn asidig, ac mae hyn yn golygu y gallan nhw wneud drwg i’r enamel sy’n amddiffyn eich dannedd. Dŵr (o’r tap neu o fotel, byrlymog neu lonydd) neu laeth yw’r pethau gorau i’w hyfed os ydych chi am ofalu am eich dannedd.
Hefyd, prin iawn yw’r maetholion mewn fersiynau ‘deiet’ o ddiodydd byrlymog, felly mae dŵr neu laeth yn ddewisiadau iachach o lawer.
5. Mae methu prydau’n ffordd dda o golli pwysau
Gau
Nid yw methu prydau’n ffordd dda i golli pwysau.
A bod yn gorfforol actif yw’r ffordd orau i wneud yn siŵr eich bod chi’n llosgi cymaint o galorïau ag rydych chi’n eu bwyta.





