Text only

Byrbrydau blasus


avocado pear Wyt ti am gael byrbryd cyflym a blasus sy’n dda i ti? Rho gynnig ar baratoi un o'n ryseitiau cyffrous, gan gynnwys rysait bisgedi blasus y gelli di hefyd ei ddefnyddio fel masg wyneb, smwddi hyfryd y gelli di ei fwynhau gyda dy ffrindiau, a guacamole cartref sy’n barod i’w ddefnyddio fel dip.

Ar y dudalen hon

 

 



Guacamole cartref

avocado pear Rhowch gynnig ar ddipio llysiau amrwd mewn guacamole cartref. Mae afocados yn wych ichi gan nad oes llawer o fraster dirlawn ynddyn nhw.

Bydd angen y canlynol arnoch chi:
  • Dau afocado mawr, aeddfed
  • 3 ewin garlleg mâl
  • 1/2 nionyn wedi’i dorri’n fân
  • Sudd lemwn
Torrwch y ddau afocado yn ei hanner a chael gwared ar y garreg. Tynnwch y cnawd allan â llwy a’i stwnsio â fforcen. Ychwanegwch y garlleg, y nionyn a’r sudd, eu cymysgu ac ychwanegu pupur.

Smwddi at eich dant

Strawberries Beth am gymysgu ychydig o smwddis blasus ac iach i’ch ffrindiau...

Bydd angen y canlynol arnoch chi:
  • twb 200g iogwrt naturiol braster isel
  • 3 banana canolig eu maint
  • 1 llond llaw o fefus neu ffrwyth arall
  • 400ml llaeth hanner sgim
Rhowch bob un o'r cynhwysion mewn cymysgwr bwyd neu beiriant smwddis a’u cymysgu nes eu bod yn fwtrin llyfn. Gofynnwch i’ch ffrindiau beth yw eu hoff ffrwythau ac yna gallwch chi wneud smwddis sy’n bersonol iddyn nhw!