Pecynnau cinio penigamp


teenager Wyt ti'n meddwl bod bocsys bwyd yn ddiflas? Wel meddylia eto! Os wyt ti'n hoffi mynd â phecyn cinio i'r ysgol, mae gennym ni doreth o syniadau ar sut y gelli gynnwys bwydydd blasus ac iach.

Neu efallai y byddi di am roi cynnig ar gantîn yr ysgol.

tomato Mae cinio ysgol yn newid er gwell. Fe ddylech chi fod wedi sylwi ar y gwahaniaeth yn yr hyn sy'n cael ei gynnig, gyda bwydydd iachach yn cael eu gweini'n amlach, a dewisiadau gwell. Mae’n wych bwyta amrywiaeth o fwydydd, i roi llawer o wahanol fitaminau a mwynau i ni, ac mae'n fwy diddorol o lawer na bwyta'r un stwff bob amser.

Felly, os oes yna unrhyw opsiynau prydau nad ydych chi wedi'u blasu o'r blaen, yna rhowch gynnig arnyn nhw. Ceisiwch ddewis dogn ychwanegol o lysiau neu salad bach bob amser pan y gallwch chi. A bachwch ddarn o ffrwyth i bwdin.

Os yw pecynnau cinio'n fwy at eich dant, ceisiwch bacio rhywbeth gwahanol yr wythnos yma. Gallwch chi baratoi'ch cinio mewn pum munud yn y bore cyn mynd i'r ysgol. Neu, os ydych chi'n brin o amser yn y bore fel rheol, gallwch ei bacio'r noson gynt a'i roi yn yr oergell. Ond peidiwch ag anghofio mynd ag ef gyda chi yn y bore!

Ac os ydych chi'n ei chael yn anodd bwyta brecwast cyn mynd i'r ysgol, yna beth am bacio ychydig o frecwast hefyd?

Dechrau arni

bread rolls with sesame seeds Beth am rywfaint o garbohydrad â starts i ddechrau, er mwyn rhoi digon o egni i ti ar gyfer y dydd? Os wyt ti awydd rhywbeth fymryn yn wahanol i fara arferol, beth am roi cynnig ar:
  • fara pitta
  • bagel
  • bagét
  • ciabatta
  • rhôl fara
  • tortilla
Beth am ddewis mathau gwenith cyflawn neu aml-grawn o dro i dro, neu ddefnyddio cymysgedd o fara grawn cyflawn a gwyn?

Ac yna

cheese swiss Ychwanegwch rywfaint o brotein, fel cig heb fraster, pysgod neu gaws ac ychydig o lysiau a ffrwythau.

Dyma ychydig o syniadau am lenwadau i roi cynnig arnyn nhw, neu fe allech chi greu'ch cyfuniadau eich hun:
  • Caws Cheddar gyda sleisys afal
  • Cyw iâr neu dwrci wedi'i goginio, mwstard, tomatos a letys
  • Caws colfran a bricyll sych
  • Tiwna, ciwcymbr, pupur gwyrdd, india-corn a thomato
  • Mozzarella gyda phupurau wedi'u grilio
  • Brie a jam neu saws llugaeron


pizza cut Fe allech chi hefyd fynd trwy'r oergell am unrhyw fwydydd dros ben – mae rhai bwydydd yn blasu llawn cystal yn oer – fel pizza neu basta. Coginiwch fwy o basta, couscous neu reis. Cymysgwch ef â llysiau wedi'u torri, ychydig o gnau neu diwna, ac yna ychwanegu'ch hoff dresin.

Ewch â dip dengar, fel houmous, caws colfran neu iogwrt plaen gydag ychydig o besto coch neu wyrdd wedi'i gymysgu ynddo i'w wneud yn fwy diddorol; neu fe allech chi dorri afal yn fân a'i gymysgu â thiwna o gan. Gallech gael coesau seleri, moron neu bupur, neu ddarnau o flodfresych a brocoli gyda'r dipiau.

pears Ychwanegwch ychydig o ffrwythau i helpu i'ch llenwi (a'ch helpu i gyrraedd eich 5 dogn y dydd). Ceisiwch gael math gwahanol bob dydd – nid oes yn rhaid ichi ddewis oren ac afal bob tro; beth am roi cynnig ar ffrwyth ciwi, mango, grawnwin, gellygen, darnau o felon, neu becynnau bach o ffrwythau sych?

Ac i yfed

milkshake Dŵr neu laeth yw'r diod gorau, ond fe allech chi roi cynnig ar sudd ffrwyth pur wedi'i gymysgu â dŵr, diodydd iogwrt neu smwddis os yw hynny'n well gennych, neu i gael rhywbeth gwahanol.

A pheidiwch ag anghofio cadw'ch pecyn cinio'n oer. Defnyddiwch garton o sudd wedi'i rewi neu baciau rhew i'w gadw'n oer, neu ceisiwch ddod o hyd i rywle oer yn yr ysgol i gadw'ch pecyn cinio ynddo.





URL: http://www.eatwell.gov.uk/agesandstages/teens/packedlunches/lang=cy&?lang=cy