Pecynnau cinio penigamp
Wyt ti'n meddwl bod bocsys bwyd yn ddiflas? Wel meddylia eto! Os wyt ti'n hoffi mynd â phecyn cinio i'r ysgol, mae gennym ni doreth o syniadau ar sut y gelli gynnwys bwydydd blasus ac iach. Neu efallai y byddi di am roi cynnig ar gantîn yr ysgol.
Felly, os oes yna unrhyw opsiynau prydau nad ydych chi wedi'u blasu o'r blaen, yna rhowch gynnig arnyn nhw. Ceisiwch ddewis dogn ychwanegol o lysiau neu salad bach bob amser pan y gallwch chi. A bachwch ddarn o ffrwyth i bwdin.
Os yw pecynnau cinio'n fwy at eich dant, ceisiwch bacio rhywbeth gwahanol yr wythnos yma. Gallwch chi baratoi'ch cinio mewn pum munud yn y bore cyn mynd i'r ysgol. Neu, os ydych chi'n brin o amser yn y bore fel rheol, gallwch ei bacio'r noson gynt a'i roi yn yr oergell. Ond peidiwch ag anghofio mynd ag ef gyda chi yn y bore!
Ac os ydych chi'n ei chael yn anodd bwyta brecwast cyn mynd i'r ysgol, yna beth am bacio ychydig o frecwast hefyd?
Dechrau arni
- fara pitta
- bagel
- bagét
- ciabatta
- rhôl fara
- tortilla
Ac yna
Dyma ychydig o syniadau am lenwadau i roi cynnig arnyn nhw, neu fe allech chi greu'ch cyfuniadau eich hun:
- Caws Cheddar gyda sleisys afal
- Cyw iâr neu dwrci wedi'i goginio, mwstard, tomatos a letys
- Caws colfran a bricyll sych
- Tiwna, ciwcymbr, pupur gwyrdd, india-corn a thomato
- Mozzarella gyda phupurau wedi'u grilio
- Brie a jam neu saws llugaeron
Ewch â dip dengar, fel houmous, caws colfran neu iogwrt plaen gydag ychydig o besto coch neu wyrdd wedi'i gymysgu ynddo i'w wneud yn fwy diddorol; neu fe allech chi dorri afal yn fân a'i gymysgu â thiwna o gan. Gallech gael coesau seleri, moron neu bupur, neu ddarnau o flodfresych a brocoli gyda'r dipiau.
Ac i yfed
A pheidiwch ag anghofio cadw'ch pecyn cinio'n oer. Defnyddiwch garton o sudd wedi'i rewi neu baciau rhew i'w gadw'n oer, neu ceisiwch ddod o hyd i rywle oer yn yr ysgol i gadw'ch pecyn cinio ynddo.





