Rho hwb i’th egni
Bydd bwyta’r bwydydd iawn yn rhoi’r egni sydd ei angen arnat ti os wyt ti am wneud ymarfer corff, am fynd allan gyda dy ffrindiau neu, yn syml, am gael hwb i godi o’r soffa!
Bydd bwyta’n iach hefyd yn helpu dy feddwl i gadw’n graff.
Pedwar awgrym i dy gadw’n llawn egni
1. Paid â methu brecwastBydd bwyta brecwast yn helpu i atal yr egni sydd wedi’i storio – dy siwgr gwaed – rhag gostwng yn ystod y bore.
- powlen o rawnfwyd brecwast (ceisia ddewis un sydd â llawer o ffeibr ond ychydig o fraster, siwgr a halen) gyda llaeth hanner sgim a gwydraid o sudd ffrwythau
- wy wedi’i ferwi a thost a banana
- uwd wedi’i goginio â llaeth hanner sgim, gyda ffrwythau ffres neu rhai wedi'u sychu ar ei ben
- smwddi banana
- ffrwythau – dewisa rai ffres, rhai wedi'u sychu, rhai wedi’u rhewi neu rai mewn tun
- iogwrt neu laeth â blas
- potyn o bwdin reis neu gwstard
- bar grawnfwyd
- byns cyrens, torth ffrwythau neu dorth frag
Mae’r rhain oll yn ffynonellau da o haearn:
- cig coch fel cig eidion a chig oen
- grawnfwydydd brecwast
- bara grawn cyflawn
- llysiau gwyrdd fel bresych gwyrdd, brocoli a dail salad tywyll
- ffrwythau wedi'u sychu fel bricyll neu resins
- cnau a hadau fel cnau cashiw neu gnau almon
- corbys, pys a ffa, gan gynnwys ffa pob
4. Cofia yfed digon
Pan fyddi di’n chwysu, rwyt ti’n colli hylifau ac fe allet ti ddadhydradu.
Os wyt ti'n mwynhau chwaraeon, mae hyn yn golygu y gallet ti golli'r blaen, ac efallai y bydd yn rhaid i ti roi’r gorau i’r sesiwn hyfforddi neu’r gystadleuaeth yn llwyr.
A chofia bod angen 1.2 litr (rhwng 6 ac 8 gwydraid) bob dydd ar bawb (mewn hinsoddau fel y DU) i osgoi dadhydradu. Ond os wyt ti’n actif iawn, neu os yw’r tywydd yn boeth, mae angen i ti yfed mwy fyth.
Ymhlith y diodydd gorau mae:
- dŵr
- llaeth hanner sgim
- sudd ffrwythau wedi’i gymysgu â dŵr
- sgwosh ffrwythau wedi’i gymysgu â dŵr
Clicia yma i weld mwy am ddiodydd





