Be sy’n bwysau iach?
Daw pobl mewn pob lliw a llun a byddan nhw'n tyfu ar wahanol gyfraddau, felly nid oes unrhyw bwysau iach penodol i anelu amdano. A gall fod yn beth eithaf arferol i ddau o bobl sydd yr un taldra fod â phwysau gwahanol.
Mae bod â deiet cytbwys, iach yn golygu y dylech chi:
- fwyta digonedd o ffrwythau a llysiau, o leiaf 5 dogn o ryw fath bob dydd
- seilio'ch prydau ar fwydydd â startsh, fel tatws, reis brown a bara gwenith cyflawn
- bwyta meintiau cymedrol yn unig o gig, pysgod a ffynonellau eraill da o brotein
- cael rhai bwydydd llaeth, fel caws, llaeth ac iogwrt – dewiswch opsiynau â llai o fraster lle bynnag bo hynny'n bosib
- cadw llygad ar faint o halen rydych chi'n ei fwyta – y mwyaf y dylai unrhyw un dros 11 oed ei gael yw 6g y dydd (neu 2.5g o sodiwm)
- bod yn ofalus â byrbrydau a diodydd sydd â llawer o fraster neu lawer o siwgr, a pheidio â’u cael yn rhy aml
Felly cliciwch yma i weld ein hadran Bwyd ar fynd i gael rhai syniadau ar gyfer byrbrydau iach y gallwch chi eu paratoi mewn munudau.
Yn ogystal â'r hyn rydych chi'n ei fwyta, mae bod yn actif yn un o'r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud i'ch helpu i gadw ar bwysau iach.
Bydd gweithgaredd rheolaidd yn eich helpu i edrych a theimlo'n well, felly beth am gerdded i'r ysgol (neu ddod oddi ar y bws arhosfan neu ddau yn gynnar), neu fe allech chi gerdded i dŷ'ch ffrind i'w weld am sgwrs.
Beth am roi cynnig ar rywbeth sy'n fwy o hwyl o bosib, fel dawnsio, neu ddod â'ch ffrindiau at ei gilydd i ddilyn fideo ymarfer corff?





