Text only

Brasterau da? Brasterau drwg?


oil bottles small

Mae brasterau yn aml yn cael enw drwg, ond mewn gwirionedd, mae angen rhywfaint o fraster arnom er mwyn cadw'n iach.

Mae brasterau yn ffynhonnell o egni, maent yn ein helpu i amsugno rhai fitaminau ac maent yn cynnwys pethau pwysig, o'r enw asidau brasterog hanfodol.

Ond mae llawer o bobl yn bwyta mwy o fraster nag sydd ei angen arnynt ac sy'n dda iddynt. Ac mae rhai mathau o fraster yn waeth nag eraill.



cookies stacked Y brasterau dirlawn yw’r rhai y dylem ni gadw’n llygaid yn agored amdanyn nhw. Maen nhw’n codi colesterol a gallan nhw gulhau’r rhedwelïau i’r galon.

Felly, yn lle cael braster dirlawn, fe ddylem ni gael brasterau sydd â llawer o fraster aml-annirlawn a mono-annirlawn yn lle.

Mae hyn yn golygu cwtogi ar y mathau hyn o fwydydd:
  • peis cig
  • sosejys
  • crwst
  • cacennau a bisgedi
  • hufen, hufen sur, crème fraîche
  • lard, siwet


Nuts assorted A cheisio cael mwy o’r rhain, sy’n cynnwys llawer o frasterau annirlawn:
  • pysgod olewog
  • cnau a hadau
  • afocados
  • taeniadau olew blodau’r haul, olew hadau rêp ac olew olewydd ac olewau llysiau


Salmon Mae pysgod olewog fel eog, macrell a phennog hefyd yn cynnwys llawer o asidau brasterog omega 3 sy’n dda iawn i ni.

Ond nid yw hyn yn golygu na ddylech chi fyth fwyta bwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster. Yn hytrach, os ydych chi am fod mor heini â phosib, fe ddylech chi geisio dewis bwydydd braster dirlawn isel mor aml ag y gallwch.

pasta tricolor Ac mae’n bur debyg bod llawer o'ch hoff fwydydd eisoes heb lawer o fraster, fel pasta, grawnfwydydd brecwast, bananas, bysedd pysgod a smwddis ffrwythau, felly gallwch chi barhau i’w bwyta nhw’n rheolaidd.

A fyddwch chi weithiau’n edrych ar labeli bwyd? Os felly, dyma sut i weithio allan a oes llawer o fraster mewn bwyd.

Uchel – mwy nag 20g o fraster fesul 100g
Isel – 3g o fraster neu lai fesul 100g

Os yw swm y braster fesul 100g rhwng y ffigyrau hyn, yna lefel ganolig o fraster sydd i’r bwyd.

Dyma sut i weithio allan a oes llawer o fraster dirlawn mewn bwyd.

Uchel – mwy na 5g o fraster dirlawn fesul 100g
Isel – 1.5g o fraster dirlawn neu lai fesul 100g

Os yw swm y braster dirlawn fesul 100g rhwng y ffigyrau hyn, yna lefel ganolig o fraster dirlawn sydd i’r bwyd.

Cofiwch fod y swm o fwyd penodol rydych chi’n ei fwyta’n effeithio ar faint o fraster y byddwch chi’n ei gael ohono.