Text only

Byrbrydau brys blasus …


children running

Os wyt ti'n rhuthro o gwmpas ac am roi hwb i dy lefelau egni, mae hi dal yn bosibl bwyta rhywbeth iach.

Dyma rai syniadau am fyrbrydau cyflym ac iach sy’n flasus iawn unrhyw adeg o’r dydd.



Byrbrydau cyflym

  • brechdan menyn cnau daear a banana wedi’i dostio
  • bag o ffrwythau sych a chnau
  • ceirch poeth sydyn wedi’u coginio yn y microdon
  • smwddi ffrwyth – fe allech chi wneud un eich hun trwy blendio gwydraid bach o sudd gyda charton o iogwrt â blas a banana – neu os ydych chi am gael rhywbeth oerach, ei blendio gydag ychydig o giwbiau rhew neu sgŵp o hufen ia yn lle’r iogwrt.
  • bara brith
  • dysgl o rawnfwyd brecwast gyda banana wedi’i sleisio a llaeth hanner sgim iasoer
  • llaeth â blas – gallech chi yfed un sydd wedi’i wneud yn barod neu gallech chi wneud un eich hun
  • carton o iogwrt neu bwdin reis braster isel
  • bariau grawnfwyd
  • can o ffrwyth yn ei sudd


Ac os ydych chi am gael rhywbeth mwy sylweddol

  • Pizza bara Ffrengig – cymerwch dalp o fara Ffrengig ac ychwanegu cwpl o lwyeidiau o domatos wedi’u torri’n fân neu biwre tomato ac india-corn mewn can ar ei ben (neu unrhyw lysiau o’ch dewis) a chaws wedi’i gratio – ei grilio a’i fwynhau
  • tortillas wedi'u llenwi - cymerwch tortilla (wedi'i gynhesu yn y microdon am 10 eiliad), a rhoi dipiau salsa a guacamole ar ei ben, ynghyd â chiwcymbr wedi’i dorri’n fân a chyw iâr wedi’i goginio, i gael byrbryd blasus sy’n ddigon mawr i gadw’ch egni i fyny hyd amser te.
  • ffa pob ar dost
  • sglodion popty cnapiog (mae gan y rhain lai o fraster a chalorïau na fersiynau tenau) a ffa
  • stribedi pitta a dipiau – un i’w rannu â ffrindiau – griliwch stribedi o fara pitta (gofalwch nad ydyn nhw’n llosgi) ac yna’u dipio mewn salsa sbeislyd, houmous braster isel neu tzatziki