Text only

Bwyta dy ffordd i brydferthwch


Teenage girl smiling Rydym ni wedi ymuno â chylchgrawn Sugar i lunio cynllun bwyta iach i ferched go iawn sydd ag archwaeth go iawn.


Dy gynllun wythnosol


Sam 1 Yn ôl Sam Montel, ein harbenigwr maeth ar-lein: ‘Gelli di ddewis a dethol unrhyw rai o’r prydau isod i lunio wahanol fwydlenni wythnosol a sicrhau dy fod yn cadw dy gorff yn heini tra’i fod yn tyfu – y tu mewn a’r tu allan.’

Dydd Llun

Fe alleti ti ddechrau’r wythnos â gwydraid o sudd oren a powlen fawr o rawnfwyd gyda llaeth hanner sgim ac un llond llwy fwrdd o resins i gael brecwast blasus.

Byrbryd canol bore
  • Potyn o bwdin reis braster isel
  • Diod o sgwash
Cinio
  • Taten drwy’i chroen gyda llwy de o farjarîn neu fenyn a ffa pob
  • Carton o sudd afal
  • Llond llaw o rawnwin
Byrbryd
  • Dwy dafell o dorth frag gyda marjarîn/menyn
Swper
  • Porc neu gyw iâr wedi’i dro-ffrïo gyda brocoli a phuprynnau, gyda reis wedi’i ferwi neu nŵdls
  • Potyn o iogwrt ffrwyth neu fromage frais

Dydd Mawrth

orange juice Dechreua dy ddydd Mawrth â gwydraid o sudd oren wedi'i ddilyn â wy wedi’i ferwi a dwy dafell o dost gwenith cyflawn gyda marjarîn neu fenyn.

Byrbryd canol bore
  • Banana
  • Diod o ddŵr neu sgwosh
Cinio
  • Salad tiwna, india-corn a phasta
  • Potel o ddŵr neu garton o sudd oren
  • Dwy eirinen
Byrbryd
  • Dysgl o rawnfwyd gyda llaeth hanner sgim
Swper
  • Spaghetti Bolognese gyda salad gwyrdd cymysg
  • Potyn o jeli (heb siwgr)

Dydd Mercher

cereal muesli Am frecwast canol wythnos, cer am wydraid o sudd pîn-afal cyn dechrau ar bowlen fawr o rawnfwyd gyda llaeth hanner sgim a banana wedi’i sleisio.

Byrbryd canol bore
  • Afal a diod o ddŵr neu sgwosh
Cinio
  • Dwy dafell o bizza oer gyda salad cymysg
  • Potel o ddŵr neu garton o sudd afal
  • Powlen o fefus
Byrbryd
  • Pot o iogwrt, gwydraid o sudd ffrwyth neu sgwosh
Swper
  • Cacennau pysgod eog gyda moron, pys a thatws newydd wedi’u berwi
  • Pot o mousse siocled braster isel

Dydd Iau

Bagel I frecwast heddiw, cer am bagel wedi’i dostio gyda menyn pysgnau neu sbred ffrwythau sy'n isel mewn siwgr, a gwydraid o sudd pîn-afal neu afal.

Byrbryd canol bore
  • Gellygen
  • Diod o ddŵr neu sgwosh
Cinio
  • Bara pitta gwenith cyflawn wedi’i stwffio â chyw iâr rhost a choleslaw
  • Potel o ddŵr neu garton o sudd oren
  • Llond llaw o rawnwin
Byrbryd
  • Bara ceirch, hwmws, moron amrwd, tomatos ceirios, stribedi o buprynnau coch
  • Diod iogwrt â blas
Swper
  • Byrger llysieuol gyda thaten drwy’i chroen, ratatouille a llond llwy fwrdd o gaws wedi’i gratio
  • Banana wedi’i sleisio gydag un sgŵp o hufen ia

Dydd Gwener

apple green Beth am ddydd Gwener llawn ffrwythau? Rho gynnig ar afal i frecwast gyda gwydraid o sudd pîn afal neu oren, ac yna powlen o fiwsli gyda llaeth hanner sgim.

Byrbryd canol bore
  • Banana
  • Diod iogwrt
Cinio
  • Brechdan wy wedi’i ferwi a berwr ar fara gwenith cyflawn
  • Potel o ddŵr neu garton o sudd pîn afal
  • Bocs bach o resins
Byrbryd
  • Tafell o gacen banana neu gacen foron
  • Gwydraid o laeth â blas siocled
Swper
  • Pasta gyda thwrci, pys ac india-corn
  • Pot o iogwrt ffrwythau neu fromage frais

Dydd Sadwrn

egg boiled Mae’r penwythnos ar y gweill! Felly cer ati i baratoi dau ŵy (wedi’u berwi, eu sgramblo neu eu potsio), dwy dafell o dost gwenith cyflawn neu granari gyda sbred o’th dewis, ac yna cymer wydraid o sudd oren.

Byrbryd canol bore
  • Dwy fisged blaen
Cinio
  • Wrap cyw iâr tikka a salad
  • Potel o ddŵr neu garton o sudd afal
  • Dwy eirinen
Byrbryd
  • Smwddi siocled a banana (rhoh un fanana wedi’i sleisio, dwy lond llwy de o siocled yfed, 150ml o laeth hanner sgim a 150ml o iogwrt mewn cymysgydd bwyd, a’u cymysgu nes ei fod yn hylif llyfn)
Swper
  • Byrger cig eidion cartref (wedi’i wneud o gig eidion heb lawer o fraster), sglodion popty, pys ac india-corn cyfan (corn on the cob)
  • Salad ffrwythau ffres yn cynnwys satswma, afal, lond llaw o rawnwin a gellygen

Dydd Sul

milkshake Beth sy'n well ar fore Sul hamddenol na brechdan cig moch wedi’i grilio a thomato? Defnyddia dost gwenith cyflawn neu granari, a smwddi banana (rho un fanana wedi’i sleisio, 150ml o laeth hanner sgim a 150ml o iogwrt mewn cymysgwr bwyd, a’u cymysgu nes eu bod yn hylif llyfn).

Byrbryd canol bore
  • Un afal
  • Diod o ddŵr neu sgwosh
Cinio
  • Cawl (llysiau/fcorbys/tomato neu foron) a rhôl gwenith cyflawn
  • Potel o ddŵr neu garton o sudd oren
  • Pot o iogwrt a llond llaw o rawnwin
Byrbryd
  • Tafell o gacen foron
  • Gwydraid o laeth â blas
Swper
  • Cyw iâr rhost, tatws newydd wedi’u berwi, grefi a llysiau o’th ddewis
  • Crymbl afal a chwstard (wedi’i wneud â llaeth hanner sgim)

Byrbrydau blasus


nuts mixed Os bydd chwant bwyd arnoch chi, paid â mynd am y jar bisgedi – cer am y rhain yn lle...
  • Llond llaw o ffrwythau sych a chnau
  • Salad ffrwythau ffres
  • Potyn o bwdin reis
  • Dysgl o rawnfwyd cyflawn gyda llaeth hanner sgim
  • Bar grawnfwyd
  • Houmous gyda darnau o lysiau amrwd a pretzels
  • Sgŵp o iogwrt wedi’i rewi

Bwyd cyflym


Chickpea curry Mae bwyd cyflym yn iawn i’w gael fel trêt o bryd i’w gilydd. Yn enwedig pan fyddi di’n dewis yr opsiynau iachach...

Bwyd Indiaidd

  • Ceisia osgoi cyri korma a massala, reis pilau, bara naan
  • Cer am gyw iâr tandoori, reis plaen, chapatti

Byrgers

  • Ceisia osgoi caws, mayonnaise, sglodion
  • Cer am byrgers wedi’u grilio ac wedi’u gwneud o gig heb fraster neu bysgod neu byrgers llysieuol. Gofynna am fwy o salad

Bwyd tsieineaidd

  • Ceisia osgoi yr opsiynau sydd mewn cytew neu sydd wedi’u ffrio’n ddwfn a reis wedi’i ffrio ag ŵy
  • Cer am chop suey cyw iâr, corgimychiaid szechuan, pysgodyn wedi’i stemio

Pizza

  • Paid â gofyn am fwy o gaws!
  • Cer am bethau fel llysiau, ham, pysgod a chorgimychiaid

Colli pwysau – y ffordd gywir


Meddai Sam...
  • Bwyta brecwast bob dydd! Ni fydd ei fethu’n dy helpu i golli pwysau. Y cyfan y bydd yn ei olygu yw y byddi di’n mynd am fyrbrydau’n ddiweddarach yn y dydd.
  • Yfa ddŵr, sudd, llaeth neu smwddis yn lle diodydd byrlymog. Mae’r rhai math arferol yn llawn siwgr, ac nid yw’r rhai math deiet yn dda i ddim o ran maeth.
  • Yfa 8 gwydraid o ddŵr y dydd – nid oes unrhyw galorïau ynddo! Mae symptomau dadhydradu’n debyg iawn i chwant bwyd.
  • Bwyta bum dogn o ffrwythau a llysiau y dydd. Mae hyd yn oed gwydraid o sudd oren yn cyfrif!
  • Mae’n iawn cael trêt o bryd i’w gilydd, ond paid â seilio dy ddeiet yn llwyr ar sglodion!

Colli pwysau - y ffordd anghywir


Meddai Sam...
  • Paid â mynd ar ddeiet! Yn lle hynny, ceisia wneud mwy o ymarfer corff a bwyta'n gall. Mae hyn yn golygu bwyta digon o fwydydd â starts (bara, pasta), digon o ffrwythau a llysiau, ac ychydig o gig, pysgod a chynhyrchion llaeth.
  • Ceisia osgoi unrhyw 'ddeiet' sy’n cyfyngu ar faint o gynhyrchion llaeth yr wyt ti’n eu bwyta. Mae angen calsiwm ar esgyrn sy'n tyfu!
  • Mae angen mathau penodol o fraster ar dy gorff i edrych a theimlo’n iach. Ond cofia fwyta llai o fraster dirlawn (sydd i’w gael mewn bwydydd fel menyn, caws caled, darnau o gig â llawer o fraster, toes, bisgedi a chacennau) a bwyta'r bwydydd hyn fel trît o dro i dro yn unig.
  • Nid yw deietau eithafol (crash diets) yn gweithio yn y tymor hir, a buan iawn y byddi di'n magu'r holl bwysau yn ôl eto! Y ffordd orau i gynnal dy bwysau delfrydol yw newid dy ffordd o fyw yn raddol.