Pan wyt ti'n feichiog
Pan wyt ti'n feichiog mae angen i ti wneud yn siŵr fod dy ddeiet yn darparu digon o egni a maethynnau i'r babi dyfu a datblygu, ac i'th gorff ddelio â'r newidiadau sy'n digwydd.


Beth i’w fwyta
- digonedd o ffrwythau a llysiau (ffres, wedi'u rhewi, mewn tun, wedi'u sychu neu wydraid o sudd). Ceisia fwyta o leiaf pum dogn o rai gwahanol bob dydd
- digonedd o fwydydd â starts, fel bara, pasta, reis a thatws – ceisia ddewis opsiynau grawn cyflawn
- bwydydd â llawer o brotein fel cig heb lawer o fraster a chyw iâr, pysgod (ceisia fwyta o leiaf dau ddogn o bysgod yr wythnos, gan gynnwys un dogn o bysgod olewog), wyau a chodlysiau (fel ffa a chorbys). Mae'r bwydydd hyn hefyd yn ffynonellau da o haearn (gweler yr adran 'Haearn' isod)
- digon o ffeibr. Mae hyn yn helpu i atal rhwymedd ac mae i'w gael mewn bara grawn cyflawn, pasta, reis, codlysiau a ffrwythau a llysiau
- cynnyrch llaeth, fel caws, llaeth ac iogwrt, sy'n cynnwys calsiwm
Beth am roi cynnig ar fyrbrydau iachach? Mae'r rhain yn cynnwys torth frag; byns cyrens heb eisin; brechdanau neu fara pitta wedi'u llenwi â chaws colfran, cyw iâr neu ham heb lawer o fraster; iogwrt braster isel; cawl llysiau a ffa; a ffrwythau gan gynnwys ffrwythau ffres, rhai mewn tun yn eu sudd neu ffrwythau wedi'u sychu fel rhesins neu fricyll.
Fitaminau a mwynau
Asid ffolig
Dylet hefyd fwyta bwydydd sy'n cynnwys ffolad – sef ffurf naturiol asid ffolig – fel llysiau gwyrdd a reis brown, a bara a grawnfwydydd brecwast cyfnerthedig.
Mae tystiolaeth yn dangos bod asid ffolig yn lleihau'r risg o ddiffygion yn y tiwb niwral, fel spina bifida. Os wyt ti am gymryd dy asid ffolig mewn atchwanegiadau sy'n cynnwys fitaminau eraill, gwna'n siŵr eu bod yn cynnwys 400mcg o asid ffolig ac nad ydynt yn cynnwys fitamin A. (Gweler 'Beth i'w osgoi'.)
Os wyt ti eisoes wedi cael beichiogrwydd lle'r oedd y plentyn yn dioddef o ddiffyg i'r tiwb niwral, dylet gymryd dos uwch o asid ffolig - 5 miligram(mg) y dydd - am yr un cyfnod o amser, a chofia ofyn i dy feddyg teulu am gyngor.
Haearn
Gall te a choffi ei gwneud yn anoddach i'r corff amsugno haearn, felly gall yfed llai o'r diodydd hyn gyda phrydau helpu i wella lefel yr haearn yn y corff.
Os bydd lefel yr haearn yn dy waed yn isel, bydd dy feddyg teulu neu'r fydwraig yn dy gynghori i gymryd atchwanegiadau haearn.
Mae ffynonellau da o haearn yn cynnwys:
- cig coch
- codlysiau
- bara
- llysiau gwyrdd
- grawnfwydydd brecwast cyfnerthedig
Fitamin D
Prin iawn yw'r bwydydd sy'n cynnwys fitamin D, ond rydym yn cael y rhan fwyaf o fitamin D gan olau'r haul – os wyt ti allan yn yr haul, cofia ofalu nad wyt ti'n llosgi!
Os wyt ti o darddiad Asiaidd, os wyt ti bob amser yn gorchuddio dy groen yn yr awyr agored, neu os nad wyt ti'n mynd allan yn aml, mae'n bosibl dy fod yn arbennig o brin o fitamin D. Gofynna i dy feddyg teulu am ragor o wybodaeth.
Os wyt ti'n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith, mae gen ti hawl i gael rhai atchwanegiadau fitamin yn rhad ac am ddim o glinigau mamolaeth ac iechyd plant.
Fitamin A
Dylet osgoi cymryd atchwanegiadau sy'n cynnwys fitamin A. Mae olew iau/afu pysgod hefyd yn cynnwys lefelau uchel o fitamin A. Fe allai gormod o fitamin A wneud niwed i'r babi yn y groth.Bwyta Pysgod
Mae angen i ti osgoi bwyta’r pysgod hyn pan fyddi di’n feichiog:
- siarc, cleddbysgodyn, marlyn
- ddim mwy na dwy stêc yr wythnos (yn pwyso tua 140g yr un wedi’u coginio neu 170g yn amrwd)
- NEU mwy na phedwar tun tiwna o faint canolig yr wythnos (yn pwyso tua 140g yr un ar ôl eu draenio)
Paid â bwyta mwy na dau ddogn yr wythnos o’r pysgod hyn:
- pysgod olewog, gan gynnwys mecryll, sardinau, eog, brithyll a thiwna ffres
- merfog, draenogyn môr, torbwt, lleden Ffrengig, morgi
- cig cranc brown
Mae’r pysgod hyn yn gallu cynnwys lefelau isel o lygryddion sy’n gallu casglu yn y corff dros amser, gan gynnwys diocsinau a PCBs (polychlorinated biphenyls).
Nid yw tiwna tun yn cyfrif fel pysgodyn olewog, felly cei fwyta hwn yn ogystal â dy uchafswm dyddiol o ddau ddogn o bysgod olewog – ond paid â bwyta mwy na’r swm a argymhellir o diwna. A chofia os wyt ti’n bwyta tiwna ffres, bydd hyn yn cyfrif tuag at dy ddau ddogn o bysgod olewog (yn ogystal â dy ddognau o diwna).
Paid ag anghofio bod bwyta pysgod yn dda i dy iechyd ac i ddatblygiad dy fabi, felly dylet dal geisio bwyta o leiaf dau ddogn o bysgod yr wythnos, gan gynnwys un dogn o bysgod olewog.
Beth i’w osgoi
Rhai mathau o gaws
Mae angen i ti osgoi cawsiau fel Camembert, Brie neu chevre (math o gaws gafr), neu gawsiau eraill sydd â chroen tebyg. Dylet hefyd osgoi cawsiau glas meddal.
Mae'r cawsiau hyn wedi'u gwneud â llwydni a gallant gynnwys listeria, sef math o facteria a allai niweidio dy fabi yn y groth.
Mwy o wybodaeth am listeria - Clicia ar 'Cymraeg'
Pâté
Mae angen i ti osgoi pob math o bâté, gan gynnwys pâté llysiau, gan fod pâté'n gallu cynnwys listeria.
Wyau amrwd neu wyau wedi'u coginio'n rhannol
Paid â bwyta wyau amrwd a bwyd sy'n cynnwys wyau amrwd neu wyau sydd wedi'u coginio'n rhannol. Paid â bwyta wyau oni bai eu bod nhw wedi'u coginio ddigon fel bod y gwyn a'r melyn yn solet, er mwyn osgoi risg o salmonela, sy'n achosi math o wenwyn bwyd.
Cig amrwd neu gig wedi'i goginio'n rhannol
Gwna'n siŵr bod unrhyw gig ti'n ei fwyta wedi'i goginio'n dda. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran dofednod a chynhyrchion wedi'u gwneud o friwgig, fel selsig a byrgyrs. Gwana'n siŵr eu bod wedi'u coginio nes eu bod yn chwilboeth drwyddynt ac nad oes unrhyw gig pinc ar ôl.
Golcha dy ddwylo bob amser ar ôl trin cig amrwd, a chofia gadw cig amrwd ar wahân i fwydydd sy'n barod i'w bwyta, gan ei fod yn cynnwys bacteria sy'n gallu achosi gwenwyn bwyd.
Cynhyrchion iau/afu ac atchwanegiadau sy'n cynnwys fitamin A
Gwna'n siŵr nad wyt ti'n cael gormod o fitamin A. Mae hyn yn golygu y dylet osgoi bwyta iau/afu a chynhyrchion iau/afu fel pâté, ac osgoi cymryd atchwanegiadau sy'n cynnwys fitamin A neu olewau iau/afu pysgod (sy'n cynnwys lefelau uchel o fitamin A). Mae angen rhywfaint o fitamin A arnat, ond mae gormod yn golygu y gallai'r lefelau gynyddu a gwneud niwed i'th fabi yn y groth. Gofynna i dy feddyg teulu neu dy fydwraig os hoffet ragor o wybodaeth.
Rhai mathau o bysgod
Mae'n iawn i ti fwyta'r rhan fwyaf o bysgod pan wyt ti'n feichiog. Ond mae yna rai mathau y dylet eu hosgoi a rhai eraill y dylet gyfyngu arnynt. Gweler yr adran 'Bwyta pysgod' ar y dudalen hon i gael rhagor o wybodaeth.
Prydau parod heb eu coginio’n iawn
Paid â bwyta prydau parod nad ydynt wedi'u coginio’n ddigonol. Gwna'n siŵr dy fod yn eu cynhesu tan eu bod yn chwilboeth drwyddynt.
Cregynbysgod amrwd
Paid â bwyta cregynbysgod amrwd pan wyt ti'n feichiog, gan eu bod weithiau'n cynnwys bacteria a firysau niweidiol a allai achosi gwenwyn bwyd. A gall gwenwyn bwyd fod yn arbennig o annymunol pan wyt ti'n feichiog.
Alcohol a chaffein
Mae uned gyfwerth â hanner peint o gwrw, lager neu seidr o gryfder safonol, neu fesur tafarn o wirod. Mae gwydraid o win yn rhyw 2 uned ac mae alcopops yn rhyw 1.5 uned.
Dylet gyfyngu ar faint o gaffein yr wyt yn ei gael bob dydd, ond nid oes angen i ti roi'r gorau iddo'n gyfan gwbl. Mae caffein i'w gael yn naturiol mewn amrywiaeth o fwydydd, fel coffi, te a siocled, ac mae hefyd yn cael ei ychwanegu at rai diodydd meddal a diodydd 'egni'.
Mae'n bwysig peidio â chael gormod o gaffein. Gall gormod o gaffein achosi i fabi bwyso llai nag y dylai pan gaiff ei eni. Gall hyn gynyddu'r perygl ohono'n datblygu rhai cyflyrau iechyd yn y dyfodol neu gallai achosi i rai menywod golli eu babi. Byddai'n well ceisio cadw lefelau caffein dyddiol yn is na 200mg y dydd pan wyt ti'n feichiog.
Mae lefel y caffein mewn bwydydd a diodydd yn amrywio, ond fel canllaw, mae'r isod yn cynnwys tua 200mg o gaffein:
- 2 fwg o goffi parod (100mg yr un)
- 1 mwg o goffi hidledig (140mg yr un)
- 2 fwg o de (75mg yr un)
- 5 can o cola (hyd at 40mg yr un)
- 2 can o ddiod 'egni' (hyd at 80mg yr un)
- 4 (50g) bar o siocled plaen (hyd at 50mg yr un). Mae'r caffein mewn siocled llaeth tua hanner y caffein sydd mewn siocled plaen
Cofia hefyd bod rhai meddyginiaethau at annwyd a ffliw yn cynnwys caffein, felly cofia holi dy feddyg teulu neu weithiwr iechyd peoffesiynol arall cyn cymryd meddygniaethau o'r fath.
A ddylwn i osgoi bwyta pysgnau?
Efallai dy fod wedi clywed bod rhai menywod beichiog neu fenywod sy’n bwydo ar y fron yn dewis peidio â bwyta pysgnau. Y rheswm am hyn yw bod y Llywodraeth yn arfer cynghori menywod i osgoi bwyta pysgnau yn ystod y cyfnodau hyn os oedd gan unrhyw un yn nheulu agos y plentyn alergedd, megis asthma, ecsema, clefyd y gwair, alergedd bwyd neu fathau eraill o alergedd. Rhoddwyd y cyngor hwn i fenywod rhag ofn bod bwyta pysgnau pan yn feichiog neu’n bwydo ar y fron yn cynyddu’r perygl bod y baban yn mynd i ddatblygu alergedd i bysgnau. Ond newidiwyd y cyngor hwn ym mis Awst 2009 gan nad yw’n glir o edrych ar y gwaith ymchwil diweddaraf a yw bwyta pysgnau ar yr adegau hyn yn effeithio ar p’un a yw dy blentyn yn datblygu alergedd i bysgnau.
Garddio a newid bocs baw cathod
Cofia wisgo fenig bob tro yr wyt ti'n garddio neu wrth newid bocs baw cathod, a golcha dy ddwylo wedi hynny. Mae'n bwysig dy fod yn gwneud hyn er mwyn osgoi tocsoplasmosis, sef haint a achosir gan baraseit a geir mewn cig, baw cathod a phridd. Gall yr haint fod yn niweidiol i fabanod yn y groth.Bwydydd nad oes rhaid eu hosgoi
Cregynbysgod, gan gynnwys corgimychiaid – cyn belled â'u bod nhw’n rhan o bryd poeth a'u bod wedi'u coginio'n iawn
Iogwrt byw neu bio
Diodydd probiotig
Fromage frais
Crème fraiche
Hufen wedi'i sawru
Bwyd sbeislyd
Mayonnaise, hufen iâ, dresin salad – cyn belled â nad ydynt wedi'u gwneud ag wy amrwd. Yn gyffredinol, mae mayonnaise, hufen iâ a dresin salad yr wyt ti'n eu prynu mewn siopau wedi'u gwneud ag wy wedi'i basteureiddio, sy'n golygu eu bod nhw'n ddiogel i'w bwyta. Ond mae'n well osgoi fersiynau cartref os ydyn nhw'n cynnwys wy amrwd. Os nad wyt ti'n siŵr am unrhyw un o'r bwydydd hyn pan wyt ti'n bwyta allan, gofynna i'r staff am fwy o wybodaeth
Mêl – mae hwn yn iawn i ferched beichiog ond nid yw mêl yn addas i fabanod dan flwydd oed
Sawl math gwahanol o gaws gan gynnwys:
Caws caled, fel Cheddar a Parmesan
Feta
Ricotta
Mascarpone
Caws hufen
Mozzarella
Caws colfran
Caws wedi'i brosesu, fel sbrediau caws
Magu pwysau
Mae merched yn amrywio o ran faint o bwysau maent yn ei fagu, gan ddibynnu ar faint oeddet ti'n ei bwyso cyn beichiogi. Ond mae'r rhan fwyaf o ferched yn rhoi tua 10-12.5kg (22-28 pwys) ymlaen drwy gydol y beichiogrwydd cyfan. Os wyt ti'n magu gormod o bwysau, gall hyn effeithio ar dy iechyd a chynyddu dy bwysau gwaed. Ond, mae hi yr un mor bwysig nad wyt ti'n mynd ar ddeiet. Os wyt ti'n poeni am dy bwysau, siarada â dy feddyg teulu neu'r fydwraig.
Mwy o wybodaeth
Efallai y byddai'n ddefnyddiol i ti ddarllen Naw mis a mwy (The pregnancy book), a gyhoeddir gan adrannau iechyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac sydd ar gael yn rhad ac am ddim i'r rhai sy'n dod yn rhieni am y tro cyntaf. Mae Bwrdd Addysg Iechyd yr Alban yn cynhyrchu llyfr o'r enw Ready steady baby!, sy’n rhad ac am ddim i bobl yn yr Alban sy’n dod yn rhieni am y tro cyntaf.
Os nad oes gen ti gopi o un o'r rhain, siarada â dy feddyg teulu, dy fydwraig neu dy ymwelydd iechyd, neu cysyllta â'th uned hybu iechyd leol.





