Ceisio beichiogi
Mae deiet iach yn bwysig i bawb, ar unrhyw adeg o'u bywydau, ond yn arbennig pan wyt ti'n ceisio beichiogi.


Beth i’w fwyta
Mae hyn yn golygu ceisio bwyta amrywiaeth o fwydydd, gan gynnwys:
- digonedd o ffrwythau a llysiau (rhai ffres, rhai wedi'u rhewi, rhai mewn tun, rhai wedi'u sychu neu wydraid o sudd). Ceisia fwyta o leiaf pum dogn y dydd
- digonedd o fwydydd â starts, fel bara, pasta, reis a thatws – ceisia ddewis opsiynau grawn cyflawn
- protein, fel cig heb lawer o fraster a chyw iâr, pysgod, wyau a chodlysiau (ffa a chorbys). Bydd y bwydydd hyn hefyd yn rhoi haearn i ti (gweler isod)
- ceisia fwyta pysgod o leiaf ddwywaith yr wythnos, gan gynnwys rhywfaint o bysgod olewog. Ond paid â chael mwy na dau ddogn o bysgod olewog yr wythnos. Mae hyn yn cynnwys tiwna ffres (nid tiwna o dun – nid yw hwn yn cyfrif fel pysgodyn olewog), mecryll, sardinau a brithyll
- cynnyrch llaeth fel llaeth, caws ac iogwrt, sy'n cynnwys calsiwm
A chofia bod digon o fyrbrydau iach y gelli eu dewis, gan gynnwys brechdanau neu fara pitta wedi'u llenwi â chyw iâr, caws colfran neu ham heb lawer o fraster; iogwrt braster isel; cawl llysiau a ffa neu ffrwythau, gan gynnwys ffrwythau ffres, rhai mewn tun yn eu sudd neu ffrwythau wedi'u sychu fel rhesins neu fricyll.
Gall merched beichiog ddioddef o brinder haearn, felly gwna'n siŵr dy fod yn cael digonedd o fwyd sy'n cynnwys llawer o haearn er mwyn sicrhau dy fod yn cael digon. Ceisia gael rhywfaint o fwyd neu ddiod sy'n cynnwys fitamin C, fel ffrwythau neu lysiau, neu wydraid o sudd ffrwythau, gydag unrhyw brydau sy'n cynnwys llawer o haearn, er mwyn helpu dy gorff i amsugno'r haearn.
Ffynonellau da o haearn:
- cig coch
- codlysiau
- ffrwythau wedi'u sychu
- bara
- llysiau gwyrdd
- grawnfwydydd brecwast cyfnerthedig
Beth i’w osgoi
Gwna'n siŵr nad wyt ti'n cael gormod o fitamin A. Mae hyn yn golygu y dylet ti osgoi bwyta afu a chynhyrchion afu fel pâté, ac osgoi cymryd atchwanegiadau sy'n cynnwys fitamin A neu olewau afu pysgod (sy'n cynnwys lefelau uchel o fitamin A).
Mae angen rhywfaint o fitamin A arnat ti, ond os fyddwi di'n cael gormod pan rwyt ti'n feichiog, fe allai hyn wneud niwed i'r babi cyn ei eni. Gofynna i dy feddyg teulu neu dy fydwraig os hoffet ti gael mwy o wybodaeth.
Fe ddylet ti hefyd osgoi bwyta siarc, cleddbysgodyn a marlyn, a chyfyngu ar faint o diwna rwyt ti'n ei fwyta.
Paid â bwyta mwy na dwy stecen tiwna yr wythnos (yn pwyso tua 140g wedi'u coginio neu 170g yn amrwd) neu bedwar can canolig eu maint o diwna yr wythnos (gyda phwysau wedi'i ddraenio o tua 140g y can).
Mae hyn oherwydd lefelau'r mercwri yn y pysgod hyn. Ar lefelau uchel, gall mercwri wneud niwed i'r system nerfol sy'n datblygu mewn babi cyn ei eni.
A ddylwn i osgoi bwyta pysgnau?
Efallai dy fod wedi clywed bod rhai menywod beichiog neu fenywod sy’n bwydo ar y fron yn dewis peidio â bwyta pysgnau. Y rheswm am hyn yw bod y Llywodraeth yn arfer cynghori menywod i osgoi bwyta pysgnau yn ystod y cyfnodau hyn os oedd gan unrhyw un yn nheulu agos y plentyn alergedd, megis asthma, ecsema, clefyd y gwair, alergedd bwyd neu fathau eraill o alergedd. Rhoddwyd y cyngor hwn i fenywod rhag ofn bod bwyta pysgnau pan yn feichiog neu’n bwydo ar y fron yn cynyddu’r perygl bod y baban yn mynd i ddatblygu alergedd i bysgnau. Ond newidiwyd y cyngor hwn ym mis Awst 2009 gan nad yw’n glir o edrych ar y gwaith ymchwil diweddaraf a yw bwyta pysgnau ar yr adegau hyn yn effeithio ar p’un a yw dy blentyn yn datblygu alergedd i bysgnau.
Fitaminau
Mae'r fitamin hwn yn helpu i atal diffygion yn y tiwb niwral, fel spina bifida. Os hoffet ti gymryd dy asid ffolig mewn atchwanegiad sy'n cynnwys fitaminau eraill, gwna'n siŵr ei fod yn cynnwys 400mcg o asid ffolig.
Fe ddylet ti hefyd fwyta bwydydd sy'n cynnwys ffolad – y ffurf naturiol ar asid ffolig – fel llysiau gwyrdd a reis brown yn ogystal â bara a grawnfwydydd brecwast cyfnerthedig.
Os wyt ti eisoes wedi cael beichiogrwydd lle'r oedd y plentyn yn dioddef o ddiffyg i'r tiwb niwral, neu os oes gen ti ddiabetes, dylet gymryd dos uwch o asid ffolig - 5 miligram (mg) y dydd - am yr un cyfnod o amser, a gofynna i dy feddyg teulu am ragor o gyngor.
Pan yr wyt ti'n ceisio beichiogi, ac yn ystod beichiogrwydd, cofia osgoi cymryd atchwanegiadau sy'n cynnwys fitamin A neu olewau iau/afu pysgod (sydd hefyd yn cynnwys lefelau uchel o fitamin A).
Alcohol
Mae uned gyfwerth â hanner peint o gwrw, lager neu seidr (o gryfder safonol), neu fesur tafarn o wirod. Mae gwydraid o win tua 2 uned ac mae alcopops tua 1.5 uned.
Mwy o wybodaeth
Os hoffet ti gael rhagor o wybodaeth am gynllunio beichiogrwydd, siarada â'th feddyg teulu neu dy ymwelydd iechyd, neu cysyllta â'r uned hybu iechyd leol.





