Dy blentyn bach
Yn union yr un fath ag oedolion, mae angen egni (calorïau) o fwyd a maetholion fel protein, braster, carbohydradau, fitaminau a mwynau ar blant bach, i wneud yn siŵr bod eu cyrff yn gweithio’n iawn ac y gallan nhw atgyweirio’u hunain.
Os hoffet ti gael mwy o wybodaeth nag sydd i’w chael yma, cysyllta â’th ymwelydd iechyd neu dy feddyg teulu.


Beth i’w roi
Cofia gynnwys y mathau hyn o fwydydd bob dydd:
- Llaeth a bwydydd llaeth – mae’r rhain yn rhoi calorïau, protein, fitaminau a mwynau.
- Cig, pysgod, wyau, ffa, pys a chodlysiau – mae’r rhain yn cynnwys llawer o faetholion fel protein, fitaminau a mwynau. Gelli roi hyd at bedwar dogn o bysgod olewog yr wythnos i fechgyn, fel macrell, eog a sardinau, ond mae’n well peidio â rhoi mwy na dau ddogn o bysgod olewog yr wythnos i ferched.
- Bara, a grawnfwydydd eraill fel reis, pasta a grawnfwydydd brecwast, a thatws, iamau a thatws melys – mae’r bwydydd hyn yn llawn starts ac yn darparu calorïau, fitaminau, mwynau a ffeibr.
- Ffrwythau a llysiau – mae’r rhain yn cynnwys fitamin C, a fitaminau a mwynau amddiffynnol eraill, yn ogystal â ffeibr.
Deiet arbennig ar gyfer plentyn bach
- llaeth braster llawn a bwydydd llaeth
- cig
- wyau
Ond os wyt ti’n tueddu i fwyta bwydydd â llawer o ffeibr, cofia nad yw stumogau plant bach yn gallu ymdopi â bwydydd fel pasta gwenith cyflawn a reis brown. Hefyd, gall gormod o ffeibr weithiau leihau swm y mwynau fel calsiwm a haearn y gallan nhw eu hamsugno.
Erbyn iddyn nhw ddod yn bump oed, fe ddylai plant ifanc fod yn bwyta bwyd y teulu, sy’n fwy swmpus gan ei fod yn cynnwys llawer o fwydydd â starts, a digonedd o ffrwythau a llysiau. Ond gwna'n siŵr nad yw’n cynnwys gormod o fraster dirlawn, sydd i’w gael mewn menyn, sbred braster caled, caws, cig a chynhyrchion cig brasterog, bisgedi, crwst a chacennau.
Beth i’w osgoi
Gofala dy fod yn osgoi'r bwydydd canlynol:- Wyau amrwd a bwyd sy’n cynnwys wyau amrwd neu rai sydd wedi’u coginio’n rhannol oherwydd risg salmonella, sy'n achosi gwenwyn bwyd. Os byddi di’n rhoi wyau i dy blentyn bach, gwna'n siŵr bod yr wyau wedi’u coginio nes bod y gwyn a’r melyn yn solet.
- Cnau cyfan neu rai wedi’u torri i blant dan bump oed oherwydd y risg o dagu. Mae’n syniad da eu malu neu eu haenu.
- Siarc, pysgodyn cleddyf a marlyn oherwydd bod y pysgod hyn yn cynnwys lefelau cymharol uchel o fercwri, a all effeithio ar y system nerfol sy’n datblygu yng nghorff plentyn.
Nid oes angen ychwanegu halen at fwyd dy blentyn bach. Ni ddylai plant rhwng 1 a 3 oed fod yn cael mwy na 2g y dydd. Os wyt ti’n prynu bwydydd wedi’u prosesu, hyd yn oed y rheiny sydd wedi'u targedu'n arbennig at blant, cofia ddarllen yr wybodaeth ar y labeli i ddewis y rheiny â llai o halen.
Nid oes angen ychwanegu siwgr na mêl at fwyd dy blentyn bach.
Paid â rhoi diodydd melys fel diodydd byrlymog a sgwash ffrwythau oherwydd eu bod yn achosi pydredd dannedd. Os wyt ti'n rhoi sgwash ffrwythau neu ddiodydd siwgrog, gwna'n siŵr eu bod nhw wedi’u cymysgu â digonedd o ddŵr, ac mai yn ystod amser bwyd y maen nhw’n cael eu hyfed. Rhwng prydau, mae’n well rhoi dŵr neu laeth i’w yfed.
A yw hi’n iawn rhoi pysgnau i fy mhlentyn bach?
Os yw dy blentyn bach eisoes wedi cael diagnosis ei fod ag alergedd, megis alergedd bwyd neu ecsema, neu os oes gan unrhyw un yn ei deulu agos hanes o alergedd (os oes gan ei rieni neu frodyr neu chwiorydd alergedd megis alergedd bwyd, asthma, ecsema, clefyd y gwair, neu fath arall o alergedd) yna maent mewn mwy o berygl o ddatblygu alergedd i bysgnau. Felly, dylet siarad â dy feddyg teulu, dy ymwelydd iechyd neu arbenigwr meddygol ar alergeddau cyn i ti roi pysgnau neu fwyd sy’n eu cynnwys i dy blentyn am y tro cyntaf.
Os nad yw dy blentyn wedi cael diagnosis o’r fath ac nad oes unrhyw hanes o alergedd yn ei deulu agos, gelli ddewis rhoi pysgnau neu fwyd sy’n eu cynnwys iddo ar ôl iddo gyrraedd chwe mis oed (ond cofia eu malu’n fân). Pan fyddi di’n rhoi pysgnau i dy fabi am y tro cyntaf, cofia gadw llygad am unrhyw adwaith alergaidd. Os wyt ti’n meddwl bod dy fabi yn cael adwaith alergaidd, dylet gael cyngor meddygol ar frys.
Os oes gen ti unrhyw gwestiynau neu bryderon am b’un a ddylai dy blentyn fod yn bwyta pysgnau, cofia eu trafod â dy feddyg teulu, dy ymwelydd iechyd neu weithiwr iechyd proffesiynol arall.
Llaeth braster llawn neu laeth hanner sgim?
Gelli ddechrau rhoi llaeth hanner sgim i dy blentyn bach o'r adeg y bydd yn ddyflwydd oed, cyn belled â'i fod yn bwyta deiet amrywiol a chytbwys, a'i fod yn tyfu'n dda. Nid yw llaeth sgim na llaeth 1% yn addas fel prif ddiod tan ei fod yn bump oed, gan nad ydynt yn cynnwys digon o fitamin A ac am nad yw llaeth sgim yn cynnwys digon o galorïau i blentyn sy'n tyfu.Deiet llysieuol
Gwna'n siŵr dy fod yn ei fwydo â bwyd sy'n llawn maethynnau, fel llaeth, caws a wyau. Bydd hyn yn golygu na fydd ei ddeiet yn rhy swmpus ac y bydd yn cael digonedd o brotein, fitamin A, calsiwm a sinc.
Ceir haearn mewn llawer o lysiau a chodlysiau (ffa, corbys a ffacbys), mewn ffrwythau wedi'u sychu (fel bricyll, rhesins a syltanas) ac weithiau mewn grawnfwydydd brecwast, ond mae'n anoddach ei amsugno o ffynonellau llysiau nag o ffynonellau cig, felly:
- rho fwydydd sy’n cynnwys haearn i dy blentyn bach bob dydd
- ceisia ddarparu bwydydd sy’n cynnwys llawer o fitamin C – fel ffrwythau a llysiau neu sudd ffrwythau wedi’i gymysgu â dŵr yn ystod amser bwyd – gan eu bod yn gallu ei gwneud yn haws amsugno'r haearn
- paid â rhoi te na choffi i blant ifanc, yn enwedig yn ystod amser bwyd, gan fod hyn yn lleihau faint o haearn y gallant ei amsugno o fwyd





