Text only

Dy blentyn sy'n tyfu


child eating melon

Pan fydd dy blentyn yn dechrau’r ysgol gyntaf, fe fydd yn dechrau tyfu’n gyflym ac yn dod yn fwy actif. Mae angen llawer o egni a maethynnau ar blant o’i gymharu ag oedolion, mewn perthynas â maint eu cyrff.

Cysyllta â dy feddyg teulu neu dy ymwelydd iechyd os hoffet ti gael rhagor o wybodaeth.




Beth i’w roi


child girl Mae angen deiet cytbwys a iach ar blant, sef deiet sy’n cynnwys llawer o ffrwythau, llysiau a bwydydd â starts.

Cofia annog dy blentyn i ddewis amrywiaeth o fwydydd er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael yr ystod eang o faethynnau sydd eu hangen arnynt i gadw’n iach.

Cofia gynnwys y mathau hyn o fwydydd:
  • Llaeth, caws, iogwrt, ffa soia, tofu a chnau, sef bwydydd sy'n cynnwys llawer o galsiwm, sydd ei angen er mwyn cael esgyrn a dannedd iach.
  • Grawnfwydydd brecwast cyfnerthedig, margarîn a physgod olewog sy'n ffynonellau da o fitamin D deietegol, sy’n helpu i sicrhau cyflenwad da o galsiwm yn y gwaed ac felly esgyrn iach. Prif ffynhonnell fitamin D yw effaith yr heulwen ar y croen, ond gwna dy orau i osgoi haul cryf, yn enwedig o gwmpas hanner dydd, pan mae yna risg o losgi.
  • Cig, yn enwedig cig coch ac afu, a physgod, sef bwydydd sy'n llawn haearn. Mae codlysiau (ffa a chorbys), llysiau gwyrdd a grawnfwydydd cyfnerthedig hefyd yn ffynonellau da o haearn. Mae angen haearn i gael gwaed iach, ac mae ymchwil wedi dangos mai ychydig o haearn mae rhai plant yn ei fwyta, yn enwedig merched hŷn.
  • O leiaf dau ddogn o bysgod yr wythnos gan fod pysgod yn ffynhonnell dda o brotein, fitaminau a mwynau, ac nid oes llawer o fraster dirlawn ynddyn nhw. Mae pysgod olewog, fel macrell, eog a sardinau, hefyd yn cynnwys asidau brasterog omega 3. Gelli roi hyd at bedwar dogn o bysgod olewog yr wythnos i fechgyn, ond mae’n well peidio â rhoi mwy na dau ddogn o bysgod olewog yr wythnos i ferched.
  • Ffrwythau sitrws (fel orennau a lemonau), tomatos a thatws, sydd oll yn ffynonellau da o fitamin C, sy'n hanfodol i iechyd. Gall fitamin C dy helpu i amsugno haearn, felly bydd cael sudd ffrwyth gyda phryd sy’n cynnwys llawer o haearn yn cynyddu'r haearn sy’n cael ei amsugno.
  • Llaeth, margarîn, menyn, llysiau gwyrdd, moron a bricyll sydd oll yn ffynonellau da o fitamin A, sy’n bwysig ar gyfer golwg da a chroen iach.
Paid â rhoi siarc, pysgodyn cleddyf a marlyn i blant. Y rheswm am hyn yw bod y pysgod hyn yn cynnwys lefelau cymharol uchel o fercwri, a all effeithio ar y system nerfol sy’n datblygu yng nghorff plentyn.

Diodydd

milk poured Mae cartonau o sudd ffrwyth yn hynod o gyfleus, ond fel ffrwythau sych, maen nhw’n cynnwys llawer o siwgr a dylid eu hyfed yn ystod amser bwyd yn unig.

Mae diodydd melys hefyd yn gwneud drwg i'r dannedd, yn enwedig os wyt ti'n eu sipian o botel dros gyfnodau hir rhwng prydau.

Felly, cyfynga ddiodydd fel sudd ffrwyth neu sgwash i amser bwyd yn unig, a cheisia annog dy blentyn i yfed dŵr neu laeth rhwng prydau. Gall carton o laeth hanner sgim fod yn ddewis cyfleus.

Bwydydd i gyfyngu arnyn nhw


Melysion a byrbrydau

Mae bwyta bwydydd melys yn aml rhwng prydau’n achosi i'r dannedd bydru. Mae danteithion fel cacennau, bisgedi, siocled a melysion yn aml yn cynnwys llawer o siwgr a braster dirlawn, ac yn brin iawn o rai fitaminau a mwynau penodol. Felly os yw dy blentyn yn bwyta’r mathau hyn o fwydydd:
  • ceisia wneud yn siŵr mai o dro i dro neu mewn symiau bach yn unig maent yn eu bwyta, fel mai rhan gymharol fach o’u deiet yw'r bwydydd hyn
  • cer ati i helpu ac annog dy blentyn i lanhau ei ddannedd bob dydd
  • ceisia ddewis un diwrnod melys yn yr wythnos, neu dewisa'r penwythnos fel amser pan fyddi di’n caniatáu i dy blentyn gael melysion
  • cofia ddarllen y label y dewis yr opsiynau sydd â llai o fraster, braster dirlawn, siwgr a halen

Halen - Gofal piau hi

Mae uchafswm yr halen y dylai plant ei gael yn amrywio yn ôl oedran:
  • rhwng 4 a 6 oed – 3g y dydd
  • rhwng 7 a 10 oed – 5g y dydd
  • 11 oed a hŷn – 6g y dydd
Nid oes angen ychwanegu halen at fwyd dy blentyn. Os wyt ti’n prynu bwydydd wedi’u prosesu, hyd yn oed y rhai sydd wedi’u targedu'n benodol at blant, cofia ddarllen yr wybodaeth ar y labeli, a dewis yr opsiynau sydd â'r lleiaf o halen.

Pwysau iach


boy Os byddi di'n annog dy blentyn i fwyta deiet cytbwys, iach ac yn cyfyngu ar swm y bwydydd sy’n cynnwys siwgr a braster, ac os byddi di’n annog dy blentyn i gael digonedd o weithgarwch corfforol, fe ddylai gynnal pwysau iach.

Ond os wyt ti’n poeni am hyn, cysyllta â dy feddyg teulu am gyngor cyn dechrau unrhyw fath o ddeiet.

Prydau ysgol a phecynnau cinio


bread sticks Wrth i dy blentyn dyfu’n hŷn, fe fydd yn tueddu i ddilyn yr arferion bwyta rwyt ti wedi’u sefydlu gartref.

Os yw dy blentyn yn cael cinio ysgol, siarada ag ef am yr hyn mae’n ei fwyta a cheisia ei annog i amrywio ei brydau.

Mae arlwywyr ysgol yn cael eu hannog i ddefnyddio ryseitiau iachach a mwy o gynhwysion crai i ddarparu prydau sydd wedi’u coginio’n ffres. Mae hyn yn golygu y gelli di ddisgwyl:

  • bwyd mwy maethlon o ansawdd gwell
  • llai o fwyd wedi’i brosesu
  • prydau iachach, mwy cytbwys
  • gwell dewisiadau
Os wyt ti'n dewis rhoi pecynnau cinio i dy blentyn, gall fod yn her eu cadw'n amrywiol, yn ddiddorol ac yn iach. Edrycha ar ein hawgrymiadau ar gyfer bwydlenni yn yr adran Pecynnau cinio.

Mae rhai ysgolion yn gadael i blant gadw’u pecynnau cinio mewn oergell yn yr ysgol, sy’n ddelfrydol. Os nad yw hyn yn bosibl, fe allet ti ddefnyddio blociau rhewgell neu becynnau gel i gadw’r bwyd yn oer ac yn ddiogel. Neu fe allet ti rewi carton o sudd ffrwyth a defnyddio hwnnw i gadw’r pecyn cinio’n oer – fe fydd y sudd wedi dadrewi erbyn amser cinio.

Deiet llysieuol


Os wyt ti am roi deiet llysieuol i dy blentyn, mae’n bwysig gwneud yn siŵr fod ei ddeiet yn gytbwys.

Bydd angen i ti:

  • wneud yn siŵr dy fod yn dod o hyd i ddewis amgen i gig, pysgod a chyw iâr fel y prif ffynonellau protein. Gallai’r rhain gynnwys codlysiau (corbys a ffa), llaeth, caws ac wyau.
  • gwneud yn siŵr bod dy blentyn yn cael digon o haearn. Mae ffynonellau da o haearn yn cynnwys grawnfwydydd grawn cyflawn, llysiau deiliog gwyrdd (fel sbigoglys a berw dŵr), codlysiau a bricyll neu ffigys sych. Cofia ei bod hi’n haws amsugno haearn o’n bwyd os ydyn ni’n ei fwyta gyda bwydydd sy’n cynnwys fitamin C.
Hefyd, ceisia osgoi rhoi te neu goffi i dy blentyn amser bwyd, gan ei fod yn lleihau swm yr haearn y gall ei amsugno.