Dy blentyn yn ei arddegau


teenager Mewn sawl ffordd, mae anghenion pobl ifanc yn eu harddegau o ran maethynnau ac egni yn uwch nag anghenion unrhyw grŵp oedran arall.

Fel arfer, mae angen mwy o fwyd ar bobl ifanc sy'n iach ac yn heini. Felly, mae'n bwysig eu bod yn bwyta bwyd sy'n cynnig digon o'r maethynnau cywir, a hynny fel prydau cytbwys, yn hytrach na gormod o fyrbrydau sy'n uchel mewn braster, siwgr neu halen. Mae ffrwythau, cnau a ffrwythau wedi'u sychu yn fyrbrydau iachach na chreision a melysion.


Beth i’w fwyta

Kiwi close up Dylai pobl ifanc yn eu harddegau fod yn bwyta deiet cytbwys, iach sy'n cyfateb i'w hanghenion o ran egni. Mae deiet cytbwys, iach yn golygu deiet sy'n cynnwys llawer o ffrwythau, llysiau a bwydydd â starts, ac sydd hefyd yn cynnwys symiau cymedrol o fwydydd sydd â llawer o brotein, llaeth a bwydydd cynnyrch llaeth.

Ni ddylid bwyta llawer o fwydydd sydd â llawer o fraster, yn enwedig braster dirlawn, siwgr neu halen, a ni ddylid eu bwyta'n aml iawn.

  • Mae llaeth, caws, iogwrt, ffa soia, tofu a chnau yn ffynonellau da o galsiwm, sydd ei angen i gael esgyrn a dannedd iach.
  • Mae grawnfwydydd brecwast a marjarîn sydd â fitaminau wedi'u hychwanegu, a physgod olewog, yn ffynonellau da o fitamin D. Mae fitamin D yn helpu i gadw cyflenwad da o galsiwm yn y gwaed. Prif ffynhonnell fitamin D yw effaith yr haul ar y croen, ond fe ddylem ni i gyd osgoi haul cryf, yn enwedig o gwmpas hanner dydd, gan fod perygl i ti losgi.
  • Mae angen haearn arnom i gael gwaed iach. Mae ymchwil wedi dangos nad yw rhai pobl ifanc, yn enwedig merched ifanc, yn cael digon o haearn. Mae cig, yn enwedig cig coch, a physgod, yn ffynonellau da o haearn. Mae codlysiau (fel ffa a chorbys), llysiau gwyrdd, a grawnfwydydd gyda fitaminau wedi'u hychwanegu hefyd yn ffynonellau da. Mae iau/afu yn ffynhonnell arall o haearn. Ond fe allai cael iau/afu neu gynhyrchion iau/afu fel pâté mwy nag unwaith yr wythnos dros nifer o flynyddoedd effeithio ar iechyd esgyrn yn ddiweddarach yn dy fywyd, gan fod iau/afu'n cynnwys llawer iawn o fitamin A.
  • Dylai pob un ohonom fwyta o leiaf dau ddogn o bysgod yr wythnos, a dylai un o'r rhain fod yn olewog. Mae pysgod yn ffynhonnell dda o brotein, fitaminau a mwynau, ac maent yn isel mewn braster dirlawn. Mae pysgod olewog hefyd yn llawn asidau brasterog Omega 3. Gall dynion ifanc gael cymaint â phedwar dogn o bysgod olewog yr wythnos, ond ni ddylai merched ifanc fwyta mwy na dau ddogn o bysgod olewog yr wythnos os ydynt yn bwriadu cael babi un diwrnod.
  • Dylid cynnwys bwydydd sy'n cynnwys ffolad – y ffurf naturiol ar asid ffolig – yn dy ddeiet, fel llysiau gwyrdd a reis brown, yn ogystal â bara a grawnfwydydd brecwast cyfnerthedig.
  • Mae ffrwythau sitrws (fel orennau a lemonau), tomatos a thatws oll yn ffynonellau da o fitamin C, sy'n hanfodol i iechyd. Gall fitamin C helpu'r corff i amsugno haearn, felly mae'n syniad da cael sudd ffrwyth gyda phryd sy'n cynnwys llawer o haearn.


Beth i’w osgoi

Dylai pobl ifanc yn eu harddegau osgoi bwyta siarc, cleddbysgodyn a marlyn gan eu bod yn cynnwys lefelau cymharol uchel o fercwri a allai, hyd at fod y plentyn yn 16 oed, effeithio ar eu system nerfol sy'n dal i ddatblygu.

Pwysau iach

teenage soccer kids Os yw dy blentyn yn cadw'n heini ac yn bwyta deiet cytbwys, iach fe ddylai allu cynnal pwysau iach.

Os yw'n dros ei bwysau, fe ddylai gadw at ddeiet cytbwys, ceisio bwyta llai o fwyd sy'n llawn siwgr a braster, a gwneud digon o ymarfer corff.

Yn benodol, mae'n syniad da:

  • bwyta llai o felysion, cacennau, bisgedi a diodydd pop
  • bwyta llai o fwydydd llawn braster fel sglodion, byrgyrs a bwyd wedi'i ffrio
  • bwyta prydau cytbwys yn rheolaidd
  • seilio prydau ar fwydydd â starts, gan ddewis mathau grawn cyflawn lle bynnag bo hynny'n bosibl
  • bwyta mwy o ffrwythau a llysiau
Dylai'r ffocws fod ar fwyta deiet iach a gwneud ymarfer corff hytrach nag ar golli pwysau.

Bwyta llai o halen

Ar gyfartaledd, mae pob un ohonom yn bwyta gormod o halen. Ni ddylai oedolion sy'n hŷn na 11 oed fwyta mwy na 6g o halen y dydd.

Bod yn llysieuwr

baked beans Os yw dy blentyn yn llysieuwr, mae'n bwysig ei fod yn bwyta deiet cytbwys ac yn cael yr holl faethynnau angenrheidiol.

Gan mai cig, pysgod a chyw iâr yw’r prif ffynonellau traddodiadol o brotein, mae angen i ddeiet llysieuol gynnwys ffynonellau eraill o brotein.

Mae llaeth, caws, wyau a chodlysiau (fel corbys a ffa) yn ffynonellau da.

Er mai cig yw'r ffynhonnell orau o haearn, gellir dod o hyd iddo hefyd mewn codlysiau, llysiau deiliog gwyrdd a bara a grawnfwydydd y mae haearn wedi'i ychwanegu atynt.

Gall fod yn haws i'n cyrff amsugno'r haearn o fwyd os ydynt yn ei fwyta gyda bwydydd sy'n cynnwys fitamin C, er enghraifft ffrwythau sitrws fel orennau.





URL: http://www.eatwell.gov.uk/agesandstages/children/yourteen/lang=cy&?lang=cy