Dy blentyn yn ei arddegau
Mewn sawl ffordd, mae anghenion pobl ifanc yn eu harddegau o ran maethynnau ac egni yn uwch nag anghenion unrhyw grŵp oedran arall. Fel arfer, mae angen mwy o fwyd ar bobl ifanc sy'n iach ac yn heini. Felly, mae'n bwysig eu bod yn bwyta bwyd sy'n cynnig digon o'r maethynnau cywir, a hynny fel prydau cytbwys, yn hytrach na gormod o fyrbrydau sy'n uchel mewn braster, siwgr neu halen. Mae ffrwythau, cnau a ffrwythau wedi'u sychu yn fyrbrydau iachach na chreision a melysion.


Beth i’w fwyta
Ni ddylid bwyta llawer o fwydydd sydd â llawer o fraster, yn enwedig braster dirlawn, siwgr neu halen, a ni ddylid eu bwyta'n aml iawn.
- Mae llaeth, caws, iogwrt, ffa soia, tofu a chnau yn ffynonellau da o galsiwm, sydd ei angen i gael esgyrn a dannedd iach.
- Mae grawnfwydydd brecwast a marjarîn sydd â fitaminau wedi'u hychwanegu, a physgod olewog, yn ffynonellau da o fitamin D. Mae fitamin D yn helpu i gadw cyflenwad da o galsiwm yn y gwaed. Prif ffynhonnell fitamin D yw effaith yr haul ar y croen, ond fe ddylem ni i gyd osgoi haul cryf, yn enwedig o gwmpas hanner dydd, gan fod perygl i ti losgi.
- Mae angen haearn arnom i gael gwaed iach. Mae ymchwil wedi dangos nad yw rhai pobl ifanc, yn enwedig merched ifanc, yn cael digon o haearn. Mae cig, yn enwedig cig coch, a physgod, yn ffynonellau da o haearn. Mae codlysiau (fel ffa a chorbys), llysiau gwyrdd, a grawnfwydydd gyda fitaminau wedi'u hychwanegu hefyd yn ffynonellau da. Mae iau/afu yn ffynhonnell arall o haearn. Ond fe allai cael iau/afu neu gynhyrchion iau/afu fel pâté mwy nag unwaith yr wythnos dros nifer o flynyddoedd effeithio ar iechyd esgyrn yn ddiweddarach yn dy fywyd, gan fod iau/afu'n cynnwys llawer iawn o fitamin A.
- Dylai pob un ohonom fwyta o leiaf dau ddogn o bysgod yr wythnos, a dylai un o'r rhain fod yn olewog. Mae pysgod yn ffynhonnell dda o brotein, fitaminau a mwynau, ac maent yn isel mewn braster dirlawn. Mae pysgod olewog hefyd yn llawn asidau brasterog Omega 3. Gall dynion ifanc gael cymaint â phedwar dogn o bysgod olewog yr wythnos, ond ni ddylai merched ifanc fwyta mwy na dau ddogn o bysgod olewog yr wythnos os ydynt yn bwriadu cael babi un diwrnod.
- Dylid cynnwys bwydydd sy'n cynnwys ffolad – y ffurf naturiol ar asid ffolig – yn dy ddeiet, fel llysiau gwyrdd a reis brown, yn ogystal â bara a grawnfwydydd brecwast cyfnerthedig.
- Mae ffrwythau sitrws (fel orennau a lemonau), tomatos a thatws oll yn ffynonellau da o fitamin C, sy'n hanfodol i iechyd. Gall fitamin C helpu'r corff i amsugno haearn, felly mae'n syniad da cael sudd ffrwyth gyda phryd sy'n cynnwys llawer o haearn.
Beth i’w osgoi
Dylai pobl ifanc yn eu harddegau osgoi bwyta siarc, cleddbysgodyn a marlyn gan eu bod yn cynnwys lefelau cymharol uchel o fercwri a allai, hyd at fod y plentyn yn 16 oed, effeithio ar eu system nerfol sy'n dal i ddatblygu.Pwysau iach
Os yw'n dros ei bwysau, fe ddylai gadw at ddeiet cytbwys, ceisio bwyta llai o fwyd sy'n llawn siwgr a braster, a gwneud digon o ymarfer corff.
Yn benodol, mae'n syniad da:
- bwyta llai o felysion, cacennau, bisgedi a diodydd pop
- bwyta llai o fwydydd llawn braster fel sglodion, byrgyrs a bwyd wedi'i ffrio
- bwyta prydau cytbwys yn rheolaidd
- seilio prydau ar fwydydd â starts, gan ddewis mathau grawn cyflawn lle bynnag bo hynny'n bosibl
- bwyta mwy o ffrwythau a llysiau
Bwyta llai o halen
Ar gyfartaledd, mae pob un ohonom yn bwyta gormod o halen. Ni ddylai oedolion sy'n hŷn na 11 oed fwyta mwy na 6g o halen y dydd.Bod yn llysieuwr
Gan mai cig, pysgod a chyw iâr yw’r prif ffynonellau traddodiadol o brotein, mae angen i ddeiet llysieuol gynnwys ffynonellau eraill o brotein.
Mae llaeth, caws, wyau a chodlysiau (fel corbys a ffa) yn ffynonellau da.
Er mai cig yw'r ffynhonnell orau o haearn, gellir dod o hyd iddo hefyd mewn codlysiau, llysiau deiliog gwyrdd a bara a grawnfwydydd y mae haearn wedi'i ychwanegu atynt.
Gall fod yn haws i'n cyrff amsugno'r haearn o fwyd os ydynt yn ei fwyta gyda bwydydd sy'n cynnwys fitamin C, er enghraifft ffrwythau sitrws fel orennau.





