Text only

Safonau ar gyfer ciniawau


children running

Lluniwyd ein bwydlenni pecynnau cinio er mwyn iddyn nhw fodloni’r safonau newydd ar gyfer ciniawau ysgol dros wythnos. Cynlluniwyd y safonau hyn, a gyflwynwyd yn Lloegr ym mis Medi 2006, i wneud ciniawau ysgol yn iachach.

Maen nhw'n cynnwys rheolau ar:

  • rai mathau o fwydydd y mae’n rhaid iddyn nhw fod ar gael
  • rhai bwydydd a diodydd penodol sydd wedi’u gwahardd
  • rhai mathau o fwydydd y mae cyfyngiad arnyn nhw
Mae’r safonau hefyd yn cynnwys rheolau ar faint o faetholion penodol y mae prydau’n eu cynnwys. Lluniwyd ein bwydlenni pecynnau cinio er mwyn iddyn nhw fodloni’r safonau hyn sydd wedi’u seilio ar faetholion, gan gydbwyso egni, braster, brasterau dirlawn, carbohydrad, siwgr, protein a halen dros yr wythnos.

Gwelwch y tablau isod. Mae un tabl yn dangos y canllawiau o ran maeth ar gyfer plant rhwng 5 ac 8 oed, ac mae un yn dangos y rhain ar gyfer plant rhwng 9 a 12 oed. Mae’r ddau ar gyfer un cinio.

Mae ein bwydlenni pecynnau cinio hefyd yn rhoi amcangyfrif o gost yr awgrym ar gyfer pob dydd, a seiliwyd y rhain ar gyfartaledd y prisiau ar wefannau tair archfarchnad ar-lein.



Canllawiau o ran maeth fesul cinio ar gyfer plant rhwng 5 ac 8 oed
Egni 523kcal, Braster 20.3g, Brasterau dirlawn 6.4g, Carbohydrad 69.7g, Siwgrau anhanfodol di-laeth 15.3g, Protein 7.2g isafswm, Sodiwm 480mg, Halen 1.2g,


Canllawiau o ran maeth fesul cinio ar gyfer plant rhwng 9 a 12 oed
Egni 583kcal, Braster 22.7g, Brasterau dirlawn 7.1g, Carbohydrad 77.7g, Siwgrau anhanfodol di-laeth 17.1g, Protein 10.5g isafswm, Sodiwm 680mg, Halen 1.65g,