Text only

Diddyfnu dy fabi


Weaning 2

Mae llaeth y fron yn darparu'r holl faethynnau sydd eu hangen ar fabi i ddatblygu'n iach yn ystod chwe mis cyntaf ei fywyd. O chwe mis oed, gelli di ddechrau cyflwyno bwydydd solet.




Bwydo ar y fron


Bwydo ar y fron sydd orau i fabanod. Mae llaeth y fron yn darparu'r holl faethynnau sydd eu hangen ar fabi i ddatblygu'n iach yn ystod chwe mis cyntaf ei fywyd.

Mae llaeth y fron:
  • yn cynnwys y cydbwysedd delfrydol o faethynnau
  • yn hawdd i fabi ei dreulio
  • yn hylan
  • yn cynnwys gwrthgorffynnau sy'n helpu babanod i ymladd heintiau
  • yn atal rhwymedd
Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dangos bod sawl mantais i fabanod sy'n cael eu bwydo ar y fron, yn y tymor hir, o ran iechyd a datblygiad. Y cyngor ar hyn o bryd yw parhau i fwydo ar y fron yn unig am chwe mis. Po hiraf y gelli di fwydo ar y fron, y mwyaf yw'r manteision.

Os wyt ti'n dewis peidio â bwydo ar y fron, fformiwla fabanod yw'r unig ddewis arall sy'n addas i fabanod. Bydd angen llaeth y fron neu laeth fformiwla ar dy fabi nes ei fod yn flwydd oed o leiaf. Nid yw llaeth buwch yn addas fel diod tan i fabanod fod yn flwydd oed gan ei fod yn cynnwys gormod o halen a phrotein, a dim digon o haearn a maethynnau eraill, i ddiwallu anghenion dy fabi.

Cer i Diodydd isod i gael mwy o wybodaeth am fformiwlâu babanod.

Defnyddio llaeth powdr i fabanod (neu fformiwla fabanod)


Os wyt ti’n bwydo ar y fron ac o botel, neu os nad wyt ti’n bwydo ar y fron o gwbl, llaeth powdr i fabanod yw’r unig gynnyrch arall sy’n addas ar gyfer y 12 mis cyntaf. Mae’r rhan fwyaf o laeth powdr i fabanod yn cael ei wneud drwy ddefnyddio llaeth buwch, ac mae’n cael ei drin i’w wneud yn debycach i laeth y fron. Nid yw llaeth powdr neu fformiwla ddilynol yn addas ar gyfer babanod o dan chwe mis.

Pan fyddi di’n dechrau paratoi’r llaeth, mae’n bwysig iawn dy fod yn golchi’r arwynebau gwaith a golchi dy ddwylo gyntaf. Bydd hefyd angen i ti ddiheintio (sterilise) y poteli a’r tethi cyn i ti eu defnyddio. Gwna’n siŵr dy fod yn dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr yn ofalus.

Os wyt ti’n paratoi llaeth powdr i fabanod, cofia ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr. Dylet hefyd wneud y pethau hyn:
  1. defnyddio dŵr ffres o’r tap (os oes angen i ti ddefnyddio dŵr potel, gweler y cyngor yn yr adran 'Diodydd' isod)
  2. berwi’r dŵr mewn tegell
  3. gadael i’r dŵr oeri, ond ddim am fwy na hanner awr
  4. arllwys y dŵr wedi’i ferwi i’r botel cyn y powdr bob amser
Rho fymryn o’r llaeth ar du mewn dy arddwrn i deimlo’r tymheredd - dylai fod ar dymheredd y corff, sy’n golygu fe ddylai fod yn gynnes. Os yw’n teimlo’n rhy boeth, rho’r caead dros y deth a dal y botel o dan ddŵr oer. Os oes unrhyw laeth yn weddill ar ôl i ti fwydo dy fabi, cofia ei daflu i ffwrdd.

Yn ddelfrydol, dylet baratoi llaeth powdr yn ffres bob tro yr wyt ti’n bwydo dy blentyn, gan fod defnyddio llaeth fformiwla sydd wedi’i storio yn cynyddu’r perygl bod dy blentyn yn mynd yn sâl. Os wyt ti’n mynd allan, rho ddŵr berwedig mewn fflasg a pharatoi llaeth ffres pan fyddi di ei angen. Os oes raid i ti fynd â llaeth wedi’i baratoi gyda thi, cofia ei baratoi yn y bore, ei oeri yn unol â’r cyfarwyddiadau uchod a’i roi yn yr oergell am o leiaf awr cyn ei roi mewn bag-oeri gyda bricsen iâ. Dylid defnyddio llaeth sydd wedi’i storio mewn bag oeri o fewn pedair awr.

Dylet wneud yr un peth os wyt ti wedi paratoi llaeth i fynd i’r feithrinfa neu at warchodwr - ar ôl i ti gyrraedd, tynna’r llaeth allan o’r bag oeri a’i roi yn yr oergell yn syth. Ceisia wneud yn siŵr fod y llaeth yn cael ei ddefnyddio’r diwrnod hwnnw, gan nad ydym yn argymell storio llaeth wedi’i baratoi, yn arbennig ar gyfer babanod ifanc. Nid ddylid, ar unrhyw gyfrif, storio llaeth wedi’i baratoi am fwy na 24 awr.

Cofia, mae hi wastad yn fwy diogel paratoi llaeth ffres pan fo’n bosibl. Gelli hefyd ddefnyddio fformiwla hylif sy’n barod i’w fwydo.

Gweler isod am fwy o wybodaeth am wahanol fathau o laeth powdr.

Dechrau ar fwydydd solet


Pryd i ddechrau

O chwe mis oed ymlaen, gallwch chi gynyddu swm y bwydydd solet rydych chi'n ei roi i'ch babi yn raddol, fel mai bwydydd solet yw prif ran deiet eich babi erbyn iddo ddod yn ddeuddeg mis oed, gyda llaeth y fron neu laeth fformwla'n cydbwyso hyn. Cofiwch nad yw llaeth buwch yn addas fel diod i fabanod dan flwydd oed.

Trwy roi bwydydd solet i'ch babi, fe fyddwch chi'n ei gyflwyno'n raddol i amrywiaeth eang o fwydydd di-laeth. Felly, erbyn y bydd yn flwydd oed, fe fydd yn bwyta deiet amrywiol.

Ond cofiwch fod pob babi'n wahanol. Bydd rhai yn dechrau ar fwydydd solet yn gynt, rhai yn hwyrach. Bydd rhai yn cael blas arno'n gyflym, a bydd eraill yn cymryd ychydig mwy o amser. Bydd rhai yn anodd eu plesio, a bydd eraill i'w gweld yn hoffi popeth.

Dyma rai awgrymiadau i wneud y broses hon yn haws ac yn fwy diogel:
  • Twymwch gymaint o fwyd ag rydych chi'n meddwl y bydd eich babi'n ei fwyta, yn hytrach na thwymo swm mawr a gadael iddo fynd yn wastraff. Y rheswm am hyn yw y bydd angen ichi daflu unrhyw fwyd sydd wedi'i dwymo na fydd eich babi'n ei fwyta, gan nad yw'n ddiogel aildwymo bwyd sydd wedi'i dwymo o'r blaen. Mae'n bwysig twymo bwyd yn drylwyr a chaniatáu iddo oeri, ei droi'n dda a'i brofi, cyn ei gynnig i'ch babi. Hefyd, peidiwch ag ailrewi unrhyw fwyd sydd wedi'i dwymo neu ei rewi o'r blaen. A chofiwch fod angen i bopeth rydych chi'n ei ddefnyddio i fwydo'ch babi fod yn hynod o lân.
  • Arhoswch yn agos at eich babi bob amser pan mae'n bwyta, i wneud yn siŵr nad yw'n tagu.
  • Peidiwch â rhuthro neu 'orfodi bwyd'. Mae'r mwyafrif o fabanod yn gwybod pan maen nhw wedi cael digon i'w fwyta. Peidiwch â threulio llawer o amser yn perswadio'ch babi i fwyta – nid yw'n cymryd hir iddyn nhw ddysgu bod gwrthod bwyd yn ffordd dda o gael sylw.
  • Yn ddelfrydol, dewiswch amser o'r dydd pan fyddwch chi a'ch babi wedi ymlacio.
  • Anogwch eich babi i helpu â'r bwydo. Pan fydd eich babi'n dangos diddordeb mewn bwydo’i hun, mae hyn yn arwydd da. Felly anogwch hyn drwy roi'r llwy i'ch babi, tra byddwch chithau'n defnyddio llwy arall i geisio bwydo'r rhan fwyaf o'r pryd iddo. Fe fydd hyn yn achosi llanastr i ddechrau, ond ceisiwch beidio â phoeni am hyn.

  • Cynigwch amrywiaeth eang o fwydydd y byddwch chi a'ch teulu'n eu bwyta fel rheol, gan y gall hyn helpu i osgoi cael plentyn sy'n anodd ei blesio yn nes ymlaen. Osgowch roi unrhyw wyau, neu fwydydd hallt, siwgrog neu wedi'u prosesu i'ch babi, oni bai eu bod wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer babanod (gwelwch Pa fwydydd i'w hosgoi isod). Ceisiwch annog eich babi i fwyta amrywiaeth o fwydydd y teulu ac addasu’ch patrwm bwyta.
  • Defnyddiwch stwnsh o fwyd y teulu pan y gallwch. Fel hyn, fe fyddwch chi'n gwybod beth yw'r cynhwysion a bydd eich babi'n dod i arfer â bwyta'r hyn rydych chi'n ei fwyta. Gall bwydydd masnachol i fabanod fod yn ddefnyddiol, ond peidiwch â gadael iddyn nhw ddisodli bwydydd y teulu'n llwyr.
Cofiwch, nid yw llaeth buwch yn addas fel diod i fabanod dan flwydd oed.

Sut i ddechrau

Mae'n well meddwl am y broses hon mewn pedwar cam.

Cam 1

Pan fyddi di'n dechrau rhoi bwydydd solet i dy fabi, cymysga lond llwy de o un o'r canlynol gyda llaeth arferol eich babi (llaeth y fron neu laeth fformwla):
  • mwtrin llysiau llyfn fel moron, panas, tatws neu iamau, neu
  • mwtrin ffrwythau fel banana, gellygen, afal wedi'i goginio neu mango, neu
  • rawnfwyd (heb ei seilio ar wenith) fel reis babanod, sago, corn, blawd india-corn neu filed.
Cynigwch hwn i'ch babi cyn neu ar ôl un o'ch sesiynau bwydo â llaeth arferol, neu yng nghanol y bwydo, os ydy hynny'n gweithio'n well. Os yw'r bwyd yn boeth, gwenwch yn siŵr eich bod chi'n ei droi ac yn gadael iddo oeri, ac yn ei brofi cyn ei roi i'ch babi.

Mae'r mwyafrif o fabanod yn cymryd amser i ddysgu sut i gymryd bwyd o lwy. Felly byddwch yn amyneddgar a byddwch yn barod am rywfaint o lanastr. Efallai y bydd eich babi'n crio i gychwyn rhwng cegeidiau – hyd yma, mae bwyd wedi dod mewn un llif parhaus, ond nawr rhaid dod i arfer â'r oedi rhwng pob cegaid.

Peidiwch â gwthio'r bwyd ar eich babi. Os yw'n wirioneddol ymddangos nad yw eisiau'r bwyd, rhowch y gorau iddi ac aros tan y tro nesaf. Y prif nod bryd hyn yw cael eich babi i ddod i arfer â'r syniad o gymryd bwyd o lwy. Fe fydd yn dal i gael y rhan fwyaf o'i faeth o laeth y fron neu'r llaeth fformwla (tua 500-600ml y dydd).

Cam 2

Llaeth y fron neu laeth fformwla fydd y prif fwydydd o hyd (tua 500-600ml y dydd). Ond pan fyddwch chi'ch dau yn barod, gallwch chi ddechrau cynyddu swm y bwyd solet rydych chi'n ei roi yn raddol iawn, naill ai cyn, yn ystod neu ar ôl ei fwydo â llaeth. Ceisiwch ymateb i chwant eich babi am fwyd, felly os yw'n dal i fod yn newynog, gallwch chi roi ychydig yn fwy iddo.

Ar yr un pryd, gallwch chi symud yn raddol o fwyd solet yn ystod un sesiwn bwydo'r dydd i fwyd solet yn ystod dau sesiwn bwydo, ac yna yn ystod tri sesiwn bwydo.

Gallwch chi roi cynhyrchion llaeth buwch braster llawn, fel iogwrt neu saws caws i'ch babi fel bwyd solet.

Ceisiwch roi grawnfwydydd i'ch babi unwaith y dydd yn unig. Dechreuwch ychwanegu gwahanol fwydydd a gwahanol flasau. Fe fyddwch chi'n gallu defnyddio llawer o'r bwydydd rydych chi eisoes yn eu coginio ar eich cyfer eich hun. Y cyfan sydd angen ei wneud yw stwnsio, hidlo neu wneud mwtrin o swm bach, ond cofiwch, peidiwch ag ychwanegu halen, mêl na siwgr.

Mae'n rhatach defnyddio'ch bwyd eich hun na phrynu bwydydd babanod, byddwch chi'n gwybod beth yw'r cynhwysion, a bydd eich babi'n dod i arfer â bwyta fel gweddill y teulu. Gall arbed amser ac ymdrech ichi petaech chi'n paratoi symiau mwy nag sydd eu hangen arnoch chi, a rhewi dognau bach i'w defnyddio'n ddiweddarach, er enghraifft mewn hambwrdd ciwbiau rhew.

Mwy o fwydydd cyntaf i roi cynnig arnyn nhw
Ychwanegwch fwydydd eraill at y mwtrin llysiau, ffrwythau a grawnfwydydd, fel:
  • Mwtrin cig a dofednod
  • Mwtrin corbys fel ffacbys (dahl), houmous
  • Cynhyrchion llaeth cyflawn fel iogwrt neu fromage frais – oni bai bod eich ymwelydd iechyd neu'ch meddyg teulu wedi'ch cynghori fel arall
  • Gallwch chi ddefnyddio llaeth braster llawn hefyd wrth goginio, er enghraifft mewn saws caws, ond osgowch ei roi i'ch babi fel diod hyd nes ei fod yn flwydd oed
Cam 3

Wrth i fwyd solet ddod yn rhan fawr o ddeiet eich babi, mae'n bwysig cynnig amrywiaeth o wahanol fwydydd. Diben hyn yw darparu'r holl fitaminau a mwynau sydd eu hangen ar eich babi. Dylai'ch babi fod yn dal i gael o leiaf 500-600ml o laeth y fron neu laeth fformwla y dydd.

Ceisiwch roi dau neu dri dogn y dydd o fwydydd â startsh fel tatws, iamau, reis neu fara. Mae ffrwythau a llysiau'n fwydydd da i'w bwyta â'r bysedd, a dylid eu cynnwys mewn dau neu fwy o brydau bob dydd. Dylai'ch baban gael un dogn o gig meddal wedi'i goginio, pysgod, ŵy, tofu neu gorbys fel ffa neu ffacbys (dahl) y dydd. Mae cig coch fel cig eidion, cig oen a phorc yn ffynhonnell ardderchog o haearn. Mae wyau (wedi'u coginio'n dda) yn ffynhonnell protein sy'n gyflym, yn llawn maeth ac yn rhad.

Wrth i fabanod barhau i ddatblygu, gellir cyflwyno bwydydd mwy trwchus a thalpiog i'w hannog i ddysgu i gnoi ac i ymdopi â darnau bach o fwyd, hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw ddannedd eto. Rhowch fwydydd i'w bwyta â'r bysedd, fel tost, bara, ffyn bara, bara pitta neu chapatti, afal wedi'i bilio, banana, coesau moron, neu giwbiau o gaws. Osgowch fisgedi melys a rhysgenni (rusks), fel nad yw'ch babi'n dod i arfer â disgwyl byrbrydau melys.

Arhosa'n agos at dy fabi bob amser yn ystod sesiynau bwydo i'w annog ac i wneud yn siŵr nad yw'n tagu.

Cam 4

Wrth i dy fabi ddod i arfer fwyfwy â bwyta bwydydd solet, dylid ei ddysgu i fwyta ar yr un pryd â gweddill y teulu gan fwyta tri phryd o fwyd wedi'i dorri'n fân y dydd, yn ogystal â llaeth y fron neu laeth fformwla fel y prif ddiod (tua 500 - 600ml y dydd). Rho ffrwyth neu fyrbrydau iach eraill i dy fabi rhwng prydau.

Os yw dy fabi ar symud, (efallai ei fod wedi dechrau cropian), mae'n bosib y bydd angen i ti gynyddu swm y bwyd rwyt ti'n ei roi. Stumogau bach sydd gan fabanod ac mae angen egni arnyn nhw i dyfu, felly gwna'n siŵr dy fod yn rhoi cynhyrchion llaeth braster llawn iddyn nhw. Mae'n beth call cwtogi ar fraster yn achos oedolion, ond nid yn achos babanod neu blant ifanc.

Rho dri neu bedwar dogn y dydd o fwyd â starts ac o ffrwythau a llysiau. Paid ag annog dant melys drwy roi bisgedi a chacennau i dy babi, gan y bydd y bwydydd hyn yn llenwi dy fabi heb ddarparu'r maetholion iawn.

Os wyt ti wedi penderfynu peidio â rhoi cig neu bysgod i dy fabi
Gwna'n siŵr ei fod yn cael dau ddogn y dydd o godlysiau (fel corbys cochion, ffa neu wygbys), neu tofu i wneud yn siŵr ei fod yn cael yr holl egni a'r maetholion sydd eu hangen arno. Mae'r fitamin C mewn ffrwythau a llysiau'n helpu ein cyrff i amsugno haearn, felly cofia roi ffrwythau a llysiau i dy fabi amser bwyd.

Pa fwydydd i’w hosgoi


Halen

Paid ag ychwanegu halen at unrhyw fwyd ti'n ei roi i dy fabi gan nad yw arennau babi ifanc yn gallu ymdopi ag o. Mae rhai bwydydd, megis caws, selsig a chig moch, yn uchel mewn halen, felly cofia gyfyngu ar faint o'r bwydydd hyn ti'n eu rhoi i dy fabi.

Ni chaniateir i fwydydd babi gynnwys halen wedi'i ychwanegu. Ond gall unrhyw fwydydd ti'n eu prynu nad ydynt ar gyfer babanod, yn arbennig sawsiau ac uwd parod i'w fwyta, fod yn uchel mewn halen, felly paid â gadael i dy fabi fwyta llawer o'r rhain a chofia ddarllen y label.

Nid yw'n syniad da annog plentyn o unrhyw oed i hoffi halen, felly pan wyt ti'n coginio ar gyfer y teulu, paid â defnyddio halen, a gall y babi rannu'r bwyd. Mae hyn yn iachach i weddill y teulu hefyd!

Mae'r rhan fwyaf o'r halen yr ydym yn ei fwyta yn y cynhyrchion bwyd yr ydym yn eu prynu, felly cofia ddarllen labeli bwyd er mwyn cymharu cynhyrchion. Mae labeli yn aml yn nodi ffigurau ar gyfer sodiwm yn hytrach na halen. Dewisa opsiwn gyda llai o halen (neu lai o sodiwm) i dy fabi lle bo modd. Ni ddylai babanod o dan flwydd oed gael mwy na 1g o halen bob dydd, sy'n llai na 0.4g o sodiwm. Gelli ddefnyddio'r ffigurau hyn fel canllaw wrth ddarllen labeli bwyd.

Siwgr

Gall bwydydd a diodydd llawn siwgr arwain at dy blentyn yn datblygu dant melys, a allai achosi pydredd wrth iddo dorri ei ddannedd cyntaf. Cofia, paid ag ychwanegu siwgr os nad yw wir yn angenrheidiol. Ni argymhellir rhoi pwdinau melys, melysion na hufen iâ i fabanod o dan flwydd oed. Mae mwy o wybodaeth yn yr adran ar Sudd Ffrwythau a Diodydd eraill.

Mêl

Paid â rhoi mêl i dy fabi, hyd yn oed i wella peswch, nes ei fod yn flwydd oed. Weithiau, gall mêl gynnwys math o facteria sy'n gallu cynhyrchu tocsinau ym mherfeddion babi. Gall hyn achosi salwch difrifol o'r enw botwliaeth babanod. Mae mêl hefyd yn siwgr, sy'n golygu, fel siwgr, gallai annog dy blentyn i ddatblygu dant melys a allai achosi i'w ddannedd bydru.

Cnau

Paid â rhoi cnau cyfan, gan gynnwys pysgnau, i blant o dan bump oed gan y gallai achosi iddynt dagu. Hefyd, gweler y rhan am 'alergedd i gnau'

Bwydydd 'braster isel', 'isel mewn calorïau' ac 'uchel mewn ffeibr'

Nid yw'n syniad da rhoi bwydydd 'braster isel', 'isel mewn calorïau' neu 'uchel mewn ffeibr' i fabanod (gweler y cyngor ar Ddiodydd hefyd). Mae gan fabanod stumogau bach, ond maent yn tyfu'n gyflym. Maent angen bwydydd sy'n cynnwys lot o galorïau a maethynnau mewn dognau bach o fwyd, yn hytrach na mewn dognau mawr sy'n uchel mewn ffeibr.

Mae braster yn rhoi egni iddynt ac yn cynnwys rhai fitaminau sydd i'w cael mewn braster yn unig. Felly cofia ddewis bwydydd cynnyrch llaeth braster llawn.

Paid â rhoi bwydydd uchel mewn ffeibr i dy blentyn, yn arbennig rhai gyda bran wedi'i ychwanegu. Mae'n atal babanod rhag amsugno mwynau pwysig megis calsiwm a haearn. Mae'n well peidio â rhoi reis brown, pasta gwenith cyflawn na grawnfwydydd llawn bran i dy fabi tan eu bod yn hyn, er y gelli roi bara brown iddo.

Pysgod

Paid â rhoi siarc, cleddbysgodyn na marlyn i dy fabi, gan y gallai lefel y mercwri yn y pysgod hyn effeithio ar system nerfol babi. Dylet hefyd osgoi rhoi pysgod cregyn amrwd i fabanod er mwyn lleihau''r risg o gael gwenwyn bwyd.

Wyau

Paid â rhoi wyau amrwd nac wyau wedi'u coginio'n ysgafn i fabanod. Gellir rhoi wyau i fabanod dros chwe mis oed, ond gwna'n siŵr eu bod wedi'u coginio tan fod y rhan gwyn a'r melynwy yn galed.

Dechrau ar fwydydd solet cyn cyrraedd chwe mis

Os wyt ti'n penderfynu cyflwyno bwydydd solet i dy blentyn cyn ei fod yn 6 mis oed, cofia siarad â dy ymwelydd iechyd neu dy feddyg teulu gyntaf. Mae yna nifer o fwydydd y dylid eu hosgoi yn yr oedran hwn:
  • caws meddal a chaws heb ei basteureiddio
  • iau / afu
  • pysgnau
  • cnau
  • hadau
  • llaeth buwch
  • wyau
  • bwyd sy’n cynnwys gwenith neu glwten
  • pysgod a physgod cregyn


Alergeddau bwyd

Os wyt ti'n poeni y gallai dy blentyn ddatblygu alergedd bwyd, mae'n syniad da cyflwyno'r bwydydd sydd fwyaf tebygol o achosi alergedd bwyd fesul un, gan ddechrau gyda dognau bach (ond paid â’u cyflwyno cyn eu bod yn chwe mis). Dyma restr o’r bwydydd hyn: pysgnau, cnau, hadau, wyau, llaeth, soia, gwenith (a grawnfwydydd eraill sy’n cynnwys glwten megis rhyg, barlys a cheirch), pysgod a physgod cregyn.

Alergedd i bysgnau
Os yw dy fabi eisoes wedi cael diagnosis ei fod ag alergedd, megis alergedd bwyd neu ecsema, neu os oes gan unrhyw un yn ei deulu agos hanes o alergedd (os oes gan ei rieni neu frodyr neu chwiorydd alergedd megis alergedd bwyd, asthma, ecsema, clefyd y gwair, neu fath arall o alergedd) yna maent mewn mwy o berygl o ddatblygu alergedd i bysgnau. Felly, dylet siarad â dy feddyg teulu, dy ymwelydd iechyd neu arbenigwr meddygol ar alergeddau cyn i ti roi pysgnau neu fwyd sy’n eu cynnwys i dy fabi am y tro cyntaf.

Os nad yw dy fabi wedi cael diagnosis o’r fath ac nad oes unrhyw hanes o alergedd yn ei deulu agos, gelli ddewis rhoi pysgnau neu fwyd sy’n eu cynnwys iddo ar ôl iddo gyrraedd chwe mis oed. Ond cofia eu malu’n fân - paid byth â rhoi pysgnau neu gnau cyfan i blant o dan bump rhag ofn iddynt dagu arnynt.

Pan fyddi di’n rhoi pysgnau i dy fabi am y tro cyntaf, cofia gadw llygad am unrhyw adwaith alergaidd. Os wyt ti’n meddwl bod dy fabi yn cael adwaith alergaidd, dylet gael cyngor meddygol ar frys.

Alergedd i laeth buwch
Os oes gan dy blentyn alergedd i laeth buwch, efallai y bydd dy feddyg teulu yn rhoi fformwlâu babanod â phrotein wedi'i hydroleiddio iddo. Efallai fod gan fabanod sydd ag alergedd i laeth buwch hefyd alergedd i soia. Felly gofynna am gyngor gan dy feddyg teulu cyn defnyddio llaeth sy’n seiliedig ar soia i fabanod.

Nid yw llaeth sy'n seiliedig ar brotein llaeth gafr wedi'i gymeradwyo gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ar gyfer babanod o dan flwydd oed, felly paid â'i ddewis i dy fabi.

Mae'r rhan fwyaf o fabanod sydd ag alergedd i laeth buwch hefyd yn debygol o adweithio i laeth gafr a llaeth dafad gan fod rhai o'r proteinau yn y mathau hyn o laeth yn debyg i'r rheiny a geir mewn llaeth buwch. Mae lefel y lactos hefyd yn debyg yn y mathau hyn o laeth, felly mae llaeth sy'n seiliedig ar brotein llaeth gafr hefyd yn anaddas i fabanod sydd ag anoddefiad i lactos. Ond cofia fod anoddefiad i lactos yn brin iawn mewn babanod.

Diodydd


Nid yw pob diod yn addas ar gyfer babanod. Dyma ychydig o gyngor ar wahanol fathau o ddiodydd.

Llaeth

Llaeth y fron
Dyma'r diod gorau i fabanod yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf ac, yn ddelfrydol, hyd at flwydd oed a thu hwnt. Fformwla fabanod yw'r unig ddewis amgen i laeth y fron yn ystod y chwe mis cyntaf. Dewiswch fformwla fabanod sydd wedi'i seilio ar laeth buwch oni bai bod eich gweithiwr iechyd proffesiynol wedi'ch cynghori fel arall. Fe ddylech chi barhau i roi llaeth y fron neu laeth fformwla i'ch babi hyd nes y bydd yn flwydd oed o leiaf. Nid oes angen newid i laeth dilynol unrhyw gyfnod.

Llaeth stepen drws (buwch)
  • Nid yw llaeth braster llawn yn addas fel diod hyd nes bod eich babi'n flwydd oed, gan nad yw'n cynnwys y cydbwysedd iawn o faetholion i ddiwallu anghenion eich babi.
  • Nid yw llaeth hanner sgim yn addas fel diod i blant dan ddwy oed. Ond gallwch chi ei gyflwyno o ddwy oed, os yw'ch plentyn yn bwyta'n dda ac os oes ganddo ddeiet amrywiol.
  • Nid yw llaeth sgim neu laeth 1% yn addas i blant o dan bump oed.
Fformwla fabanod
  • Fformwlâu babanod llaeth buwch yw'r dewis amgen i laeth y fron oni bai bod eich gweithiwr iechyd proffesiynol wedi'ch cynghori fel arall. Fe ddylech chi barhau i roi llaeth fformwla i'ch babi hyd nes y bydd yn flwydd oed o leiaf. Unwaith y bydd eich babi'n chwe mis oed, gallwch chi roi llaeth dilynol iddo, ond nid yw'r newid hwn yn angenrheidiol.
  • Efallai y bydd eich meddyg teulu'n rhagnodi fformwlâu babanod â phrotein wedi'i hydroleiddio os oes gan eich babi alergedd i laeth buwch.
  • Peidiwch â defnyddio fformwlâu babanod wedi'u seilio ar soia oni bai bod eich meddyg teulu neu'ch ymwelydd iechyd wedi'ch cynghori i wneud hyn. Mae'n bosib bod babanod sydd ag alergedd i laeth buwch hefyd ag alergedd i soia.
  • Nid yw fformwlâu babanod llaeth gafr a fformwlâu dilynol sydd wedi'u seilio ar brotein llaeth gafr yn addas i fabanod, ac nid ydyn nhw wedi'u cymeradwyo i'w defnyddio yn Ewrop.
Mae yna si ar led bod fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol sydd wedi'u seilio ar brotein llaeth gafr yn ddewisiadau amgen i fabanod sydd ag anoddefiad fformwlâu llaeth buwch neu sydd ag alergedd iddyn nhw.

Fodd bynnag, mae rhai o'r proteinau mewn llaeth gafr yn debyg i'r rheiny sydd mewn llaeth buwch ac mae'r mwyafrif o fabanod sy'n adweithio i brotein llaeth buwch hefyd yn debygol o adweithio i brotein llaeth gafr. Gan bod lefelau'r lactos yn debyg yn y ddau laeth, mae fformwlâu sy'n deillio o laeth gafr hefyd yn anaddas i fabanod sydd ag anoddefiad lactos.

Os ydych chi'n defnyddio fformwla llaeth gafr i fwydo'ch babi ar hyn o bryd, mae'n bwysig ceisio cyngor eich gweithiwr iechyd proffesiynol ar y math o fformwla sydd fwyaf priodol ar gyfer anghenion eich babi, cyn newid i fformwla gwahanol.

Llaeth gafr a llaeth dafad
Nid yw'r rhain yn addas fel diodydd i fabanod dan flwydd oed gan nad ydyn nhw'n cynnwys y cydbwysedd iawn o faetholion i ddiwallu anghenion eich babi, er enghraifft nid ydyn nhw'n cynnwys digon o haearn.

Cyn belled â'u bod nhw wedi'u pasteureiddio, gellir defnyddio llaeth gafr a llaeth dafad unwaith y bydd babi'n flwydd oed. Pan fydd eich babi'n chwe mis oed, gallwch chi ddechrau defnyddio llaeth braster llawn mewn bwydydd rydych chi'n eu coginio ar ei gyfer, a rhoi cynhyrchion llaeth braster llawn i’ch babi, fel iogwrt neu fromage frais, oni bai bod eich ymwelydd iechyd neu'ch meddyg teulu wedi'ch cynghori fel arall.

Mae'r mwyafrif o fabanod sydd ag alergedd i laeth buwch hefyd yn debygol o adweithio i laeth gafr neu laeth dafad.

Nid yw fformwlâu babanod llaeth gafr a fformwlâu dilynol sydd wedi'u seilio ar brotein llaeth gafr wedi'u cymeradwyo i'w defnyddio yn Ewrop.

Gwelwch Fformwla fabanod uchod i gael mwy o wybodaeth am fformwlâu babanod llaeth gafr

Dŵr

Dyma'r diod amgen gorau i laeth, ond nid oes angen unrhyw ddŵr ar fabanod sy'n cael eu bwydo'n llwyr ar y fron hyd nes y byddan nhw'n dechrau bwyta bwyd solet. Yn achos babanod dan chwe mis oed, cymerwch ddŵr o'r tap prif gyflenwad yn y gegin a'i ferwi. Cofiwch ganiatáu i'r dŵr oeri cyn ei roi i'ch babi.

Mae'r mwynau mewn rhai poteli dŵr mwynol naturiol yn anaddas i fabanod. Fodd bynnag, mae yna boteli dŵr eraill sy'n addas i'w bwydo i fabanod, ac efallai y byddwch chi'n gweld datganiad ar eu labeli sy'n dweud eu bod nhw'n addas i'w bwydo i fabanod. Cofiwch nad yw dŵr potel yn ddi-haint, felly, fel dŵr tap, mae angen ichi wneud yn siŵr eich bod chi'n ei ferwi ac yn ei oeri cyn ei roi i'ch babi.

Sudd ffrwythau

Mae suddion ffrwythau, fel sudd oren, yn ffynhonnell dda o fitamin C. Ond bydd rhoi suddion a diodydd eraill i'ch babi'n lleihau ei chwant am laeth. Mae sudd ffrwyth hefyd yn cynnwys siwgrau, sydd ynddyn nhw'n naturiol, a gall y rhain achosi pydredd dannedd. Mae sudd ffrwyth hefyd yn asidig. Oherwydd y rhesymau hyn, mae'n bwysig nad ydych chi'n rhoi sudd ffrwyth i'ch babi cyn ei fod yn chwe mis oed.

Fodd bynnag, gall fitamin C helpu ein cyrff i amsugno haearn o fwyd, felly efallai y byddwch chi'n cael eich cynghori i roi sudd ffrwyth wedi'i gymysgu â dŵr gyda phrydau'ch plentyn ar ôl chwe mis, yn enwedig os oes gan eich babi ddeiet llysieuol neu os ydych chi'n bwydo ar y fron. Yn yr achos hwn, rhowch sudd wedi'i gymysgu â llawer o ddŵr (un rhan o sudd gyda deg rhan o ddŵr wedi'i ferwi a'i oeri) mewn cwpan bwydo, ac yn ystod amser bwyd yn unig.

Sgwash, diodydd byrlymog, llaeth â blas a diodydd sudd

Nid yw'r rhain yn addas i fabanod ifanc. Maen nhw'n cynnwys siwgrau, a hyd yn oed os ydych chi'n eu cymysgu â dŵr, fe allan nhw achosi pydredd dannedd, yn enwedig os byddwch chi'n eu rhoi o botel. Gall llenwi babanod â'r rhain olygu y bydd eu chwant am fwyd yn wael, ni fyddan nhw'n ennill digon o bwysau ac, os mai plantos bach ydyn nhw, y bydd eu carthion yn rhydd.

Os ydych chi am ddefnyddio sgwash, diodydd byrlymog, llaeth â blas a diodydd sudd, gwnewch yn siŵr mai dim ond yn ystod amser bwyd y byddwch chi'n eu rhoi, a defnyddiwch gwpan bwydo i wneud hyn. Gwnewch yn siŵr bod pob sudd wedi'i gymysgu â digonedd o ddŵr. Peidiwch byth â rhoi'r diodydd hyn pan fydd hi'n amser gwely na'u rhoi mewn potel i'ch babi ei gafael. Gallwch chi gynnig dŵr a llaeth rhwng prydau yn lle.

Mwy o wybodaeth


Efallai y bydd hi'n ddefnyddiol i ti ddarllen Y Blynyddoedd Cyntaf, a gyhoeddir gan adrannau iechyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac sydd ar gael yn rhad ac am ddim i bobl sy'n rhieni am y tro cyntaf. Mae Bwrdd Addysg Iechyd yr Alban yn cynhyrchu llyfr o'r enw Ready steady baby!, sy’n rhad ac am ddim i bobl yn yr Alban sy’n rhieni am y tro cyntaf.

Os nad oes gen ti gopi o un o'r llyfrau hyn eisoes, siarada â dy feddyg teulu, dy fydwraig neu dy ymwelydd iechyd, neu cysyllta â dy uned hybu iechyd leol.