Text only

Bwydo ar y fron


Breastfeeding 1 Mae bwydo ar y fron yn rhoi dechrau gwych i dy fabi mewn bywyd. Mae’r dudalen hon yn nodi beth y dylet ti ei fwyta a beth sydd angen i ti ei osgoi wrth fwydo ar y fron.


Dechrau bwydo ar y fron


Os wyt ti’n dewis bwydo ar y fron, mae’n well peidio â rhoi unrhyw boteli i dy fabi o gwbl yn ystod yr wythnosau cynnar. Gall defnyddio poteli ei gwneud yn anoddach i ti a dy fabi ddod i arfer â bwydo ar y fron a bydd defnyddio llaeth powdwr i fabanod yn lleihau faint o laeth y fron yr wyt ti’n ei gynhyrchu. Hefyd, cofia ei bod yn cymryd amser i ti a dy fabi ddod i arfer â bwydo ar y fron.

Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dangos bod bwydo ar y fron yn well i iechyd a datblygiad babanod yn y tymor byr ac yn y tymor hir. Mae peth tystiolaeth yn dangos bod bwydo ar y fron yn well i iechyd y fam hefyd.

Beth i’w fwyta


Babies and toddlers Os wyt ti’n bwydo ar y fron, mae’n bwysig bwyta deiet iach sy’n cynnwys amrywiaeth o wahanol fwydydd, gan gynnwys:

  • digon o ffrwythau a llysiau (rhai ffres, rhai wedi'u rhewi, rhai mewn tun, rhai wedi’u sychu neu wydraid o sudd). Ceisia fwyta o leiaf pum dogn o wahanol ffrwythau a llysiau bob dydd
  • bwydydd â starts, fel bara, pasta, reis a thatws i roi’r egni ychwanegol y bydd ei angen arnat ti
  • digon o ffeibr, sydd i’w gael mewn bara a grawnfwydydd brecwast grawn cyflawn, pasta, reis, codlysiau (fel ffa a chorbys) a ffrwythau a llysiau. Ar ôl cael babi, mae rhai merched yn cael problemau gyda’u perfedd ac yn dioddef o rwymedd (constipation) sy’n gallu bod yn arbennig o boenus. Ond mae ffeibr yn helpu gyda’r ddau beth hyn
  • ffynonellau da o brotein, fel cig heb lawer o fraster a chyw iâr, pysgod, wyau a ffa
  • pysgod, o leiaf ddwywaith yr wythnos, gan gynnwys rhywfaint o bysgod olewog
  • bwydydd cynnyrch llaeth, fel caws, llaeth ac iogwrt, sy’n cynnwys calsiwm ac sy’n ffynhonnell ddefnyddiol o brotein
Hefyd, mae’n bwysig dy fod yn yfed digon. Ceisia yfed o leiaf 6 i 8 gwydraid o hylif bob dydd.

Fitaminau

Pan fyddi di’n bwydo ar y fron, dylet ti gymryd atchwanegiadau sy’n cynnwys 10 microgram (mcg neu μg) o fitamin D bob dydd. Dylet ti allu cael yr holl fitaminau a mwynau eraill sydd eu hangen arnat ti drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys.

Os wyt ti’n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith, mae gen ti hawl i gael rhai atchwanegiadau fitaminau yn rhad ac am ddim o glinigau mamolaeth ac iechyd plant.

Beth i’w osgoi


Mae bwyta pysgod yn dda i dy iechyd ac i ddatblygiad dy fabi, ond paid â chael mwy na dau ddogn o bysgod olewog yr wythnos. Mae pysgod olewog yn cynnwys tiwna ffres (nid tiwna mewn tun gan nad yw’n cyfrif fel pysgodyn olewog), mecryll, sardinau a brithyll.

Dylet ti osgoi bwyta mwy nag un dogn o siarc, cleddbysgodyn neu farlyn yr wythnos, a hynny gan eu bod yn cynnwys lefelau uchel o fercwri. Mae’r cyngor hwn yr un fath i bob oedolyn, ar wahân i fenywod beichiog, neu fenywod sy’n ceisio beichiogi. Dylai’r menywod hyn roi’r gorau i fwyta’r pysgod hyn yn gyfan gwbl.

Mae’n ymddangos bod rhai babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron yn adweithio i fwydydd y mae eu mamau yn eu bwyta. Os wyt ti’n meddwl bod rhai o’r bwydydd yr wyt ti’n eu bwyta yn effeithio ar dy fabi, paid â rhoi’r gorau i’w bwyta heb siarad â’th feddyg teulu neu dy ymwelydd iechyd yn gyntaf. Ond cofia, mae’n arferol i fabanod sy’n cael eu bwydo ar y fron fod â charthion rhydd.

A ddylwn i osgoi bwyta pysgnau?

peanuts Efallai dy fod wedi clywed bod rhai menywod beichiog neu fenywod sy’n bwydo ar y fron yn dewis peidio â bwyta pysgnau. Y rheswm am hyn yw bod y Llywodraeth yn arfer cynghori menywod i osgoi bwyta pysgnau yn ystod y cyfnodau hyn os oedd gan unrhyw un yn nheulu agos y plentyn alergedd, megis asthma, ecsema, clefyd y gwair, alergedd bwyd neu fathau eraill o alergedd.

Rhoddwyd y cyngor hwn i fenywod rhag ofn bod bwyta pysgnau pan yn feichiog neu’n bwydo ar y fron yn cynyddu’r perygl bod y baban yn mynd i ddatblygu alergedd i bysgnau. Ond newidiwyd y cyngor hwn ym mis Awst 2009 gan nad yw’n glir o edrych ar y gwaith ymchwil diweddaraf a yw bwyta pysgnau ar yr adegau hyn yn effeithio ar p’un a yw dy fabi yn datblygu alergedd i bysgnau ai peidio.

Felly os wyt ti am fwyta pysgnau neu fwyd sy’n eu cynnwys (megis menyn pysgnau) pan wyt ti’n bwydo ar y fron, gelli ddewis gwneud hynny, oni bai fod gen ti alergedd iddynt.

Faint i’w fwyta a’i yfed


Babies and toddlers 2 Mae cyrff y mwyafrif o fenywod yn effeithlon iawn wrth gynhyrchu llaeth y fron, felly nid oes angen i ti fwyta digon i ddau. Ond, fel pob adeg arall yn dy fywyd, mae’n bwysig i ti a dy fabi dy fod yn bwyta deiet cytbwys ac iach.

Gall fod yn anodd dod o hyd i’r amser i fwyta’n iawn pan wyt ti’n gofalu am fabi ifanc, ond efallai y bydd yr awgrymiadau hyn yn ddefnyddiol i ti:
  • cofia gadw'r prydau’n syml fel nad ydynt yn cymryd rhy hir i’w paratoi
  • gwna’n siŵr dy fod yn bwyta’n rheolaidd
  • ceisia fwyta prydau llai yn amlach
  • cofia gadw byrbrydau iach wrth law fel dy fod yn gallu eu bwyta os wyt ti ar frys
Dylai pob un ohonom fod yn yfed rhwng chwech ac wyth gwydraid (1.2 litr) o hylif bob dydd. Pan wyt ti’n bwydo ar y fron, mae angen i ti yfed mwy na hyn hyd yn oed. Os wyt ti’n teimlo’n sychedig, mae hyn yn golygu dy fod eisoes wedi dadhydradu. Os yw dy wrin yn dywyll ac os oes arogl cryf arno, mae hyn hefyd yn arwydd nad wyt ti’n yfed digon.

Mae’n syniad da bod â diod wrth law cyn i ti baratoi dy hun ar gyfer bwydo ar y fron. Mae dŵr, llaeth a sudd ffrwythau heb ei felysu oll yn ddewisiadau da.

Gallai symiau bach o’r hyn yr wyt ti'n ei fwyta a’i yfed basio i dy fabi trwy dy laeth. Felly mae’n syniad da meddwl yn ofalus am faint o alcohol a chaffein yr wyt ti’n ei gael. Gallai’r rhain effeithio ar y babi yn yr un modd ag y maent yn effeithio arnat ti.

Os wyt ti'n cael alcohol neu gaffein, ceisia eu cael o bryd i'w gilydd yn unig, gan y bydd eu hyfed yn rheolaidd, neu mewn symiau mawr, yn effeithio ar dy fabi.

Colli pwysau


Nid yw’n syniad da ceisio colli pwysau tra dy fod yn bwydo ar y fron, gan fod angen i ti gadw dy lefelau egni'n uchel, ac efallai na fyddi di'n cael y maethynnau sydd eu hangen arnat ti a dy fabi.

Y newyddion da yw bod y braster ychwanegol y mae dy gorff yn ei storio yn ystod beichiogrwydd yn cael ei ddefnyddio i wneud llaeth y fron, felly bydd bwydo ar y fron yn dy helpu i gyrraedd dy hen siâp eto yn gyflymach.

Os byddi di’n bwyta deiet cytbwys ac iach, gan gyfyngu ar faint o fraster a siwgr yr wyt ti’n eu bwyta, ac os wyt ti'n cadw’n heini, bydd hyn yn dy helpu i golli unrhyw bwysau ychwanegol y gwnes di ei fagu yn ystod beichiogrwydd.

Pa mor hir ddylwn i fwydo ar y fron?


Dim ond llaeth y fron (neu laeth powdwr os nad wyt ti’n bwydo ar y fron) sydd ei angen ar dy fabi tan ei fod yn chwe mis oed.

Pan fydd yn chwe mis oed, bydd angen i ti ddechrau rhoi bwydydd solet iddo yn ogystal â llaeth y fron, ond bydd llaeth y fron yn dal i fod yn bwysig i dy fabi. Felly cofia ddal ati i fwydo ar y fron a rhoi bwydydd solet i dy fabi am gyn hired ag yr wyt ti a dy fabi yn dymuno.

Ar ôl i dy fabi ddechrau ar fwydydd solet, bydd dal angen digon o laeth y fron neu laeth fformiwla arno nes ei fod tua blwydd oed. Bydd faint sydd ei angen arno yn dibynnu ar ba mor dda y mae’n cymryd at fwydydd solet, a gall hyn amrywio o ddydd i ddydd. Mae’n bwysig gadael i dy fabi benderfynu faint o laeth sydd ei angen arno bob dydd.

Os oes rhaid i ti gwtogi ar faint yr wyt ti’n bwydo ar y fron - efallai dy fod yn mynd yn ôl i’r gwaith er enghraifft - cofia y bydd rhoi ychydig o laeth y fron y dydd i dy fabi yn dal i ddarparu maethynnau gwerthfawr ac yn helpu i ddiogelu ei iechyd. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol os yw dy fabi newydd ddechrau yn y feithrinfa a’u bod yn cymysgu â phlant sy’n peswch neu sydd ag annwyd.

Dychwelyd i’r gwaith

Gall fod yn bosibl i ti fwydo ar y fron ar ôl i ti ddychwelyd i’r gwaith. Os nad yw meithrinfa neu ofalwr dy fabi yn bell o’r lle yr wyt ti’n gweithio, gallai hyd yn oed fod yn bosibl i ti gymryd egwyl o dy waith er mwyn bwydo dy fabi.

Gan ddibynnu ar ba gam y mae dy fabi di, mae’n syniad da cyflwyno cwpan yn hytrach na photel o’r adeg y mae’n chwe mis oed ymlaen. Cofia fod babanod yn dysgu’n gyflym yn eu blwyddyn gyntaf, felly nid oes angen i ti wneud hyn fisoedd cyn i ti fynd yn ôl i’r gwaith - mae’n well disgwyl tan tua phythefnos cyn i ti fynd yn ôl.

Hefyd, gelli ddefnyddio teclyn arbennig i dynnu llaeth y fron a’i adael ar gyfer dy fabi. Mae hefyd yn bosibl rhoi llaeth powdwr i dy fabi yn ystod y dydd a pharhau i fwydo ar y fron weddill yr amser.

Gelli barhau i fwydo ar y fron am gyn hired ag yr wyt ti a dy fabi yn dymuno gan y bydd y cyflenwad o laeth y fron yn addasu. Gelli ddewis bwydo ar y fron yn y bore, gyda’r nos, yn ystod y nos ac yn ystod penwythnosau neu unrhyw adeg lle na fyddi di yn y gwaith.

Rhagor o wybodaeth

I gael gwybodaeth am sut i fwydo ar y fron, cer i wefan bwydo ar y fron y GIG. Efallai y bydd y llyfryn Y blynyddoedd cyntaf yn ddefnyddiol i ti hefyd. Cyhoeddir hwn gan adrannau iechyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac mae ar gael yn rhad ac am ddim i bobl sy’n rhieni am y tro cyntaf. Mae Bwrdd Addysg Iechyd yr Alban yn cynhyrchu Ready steady baby!, sy’n rhad ac am ddim i bobl yn yr Alban sy’n rhieni am y tro cyntaf. Siarada â dy feddyg teulu, dy fydwraig neu dy ymwelydd iechyd, neu cysyllta â dy uned hybu iechyd leol.